Hwb i iaith cynorthwywyr dosbarth Fflint a Wrecsam
Mae pymtheg o gynorthwywyr dosbarth yn cael hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg ar gwrs sy鈥檔 cael ei gynnig yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf.
O鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Nia Williams (tiwtor, Prifysgol 精东传媒) gyda Cath Newbrook (Ysgol Min y Ddol), Hanna Owen (Ysgol Llanarmon DC), Emma Thomas (Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy), Ffion Edwards (Ysgol Croes Atti). Mae鈥檙 cynorthwywyr i gyd yn gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac felly鈥檔 defnyddio鈥檙 Gymraeg bob dydd i gefnogi athrawon a disgyblion. Tiwtoriaid arbenigol o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol 精东传媒 sy鈥檔 gyfrifol am y cwrs, sy鈥檔 cael ei gynnal ar safle Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy yn Shotton. Ei nod yw adeiladu ar sgiliau presennol y cynorthwywyr a rhoi hwb i鈥檞 hyder i ddefnyddio鈥檙 iaith yn eu gwaith.
Dyma鈥檙 diweddaraf yng Nghynllun Sabothol Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, cynllun sy鈥檔 ceisio paratoi athrawon, darlithwyr a chynorthwywyr dosbarth i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn fwy hyderus mewn cyd-destun proffesiynol. Eleni mae鈥檙 Cynllun yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed. Mae cyflwyno鈥檙 cwrs uwch i gynorthwywyr yn ffordd addas iawn o ddathlu hynny, yn 么l y Prif Diwtor, Eleri Hughes.
Eleri yw Pennaeth Uned Sgiliau Iaith Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg Prifysgol 精东传媒. Meddai:
鈥淵ng Ngwanwyn 2006, arweiniodd Canolfan Bedwyr y gwaith o ddatblygu鈥檙 cyrsiau sabothol cyntaf i athrawon a darlithwyr. Cyrsiau peilot oedd y rhain i ddechrau, ac ymhen amser, dan ein harweiniad ni, daethant yn fodiwlau wedi鈥檜 hachredu鈥檔 llawn ym Mhrifysgolion 精东传媒, Caerdydd a鈥檙 Drindod Dewi Sant.
鈥淓rs hynny, mae鈥檙 Cynllun wedi datblygu i gynnwys cyrsiau ar lefelau Mynediad a Sylfaen yn ogystal 芒鈥檙 cwrs Uwch gwreiddiol. Yr hyn sy鈥檔 gwneud y cyrsiau hyn yn wahanol i gyrsiau iaith eraill ydy鈥檙 ffaith eu bod yn canolbwyntio ar y gweithle. Mae pob dim y mae鈥檙 cynorthwywyr yn ei wneud ar y cwrs yn rhywbeth y byddan nhw鈥檔 arfer ei wneud yn yr ysgol.
Mae Elfair Roberts, Athrawes Ymgynghorol y Gymraeg 鈥� Sir y Fflint, hefyd yn dysgu ar y cwrs. Mae鈥檔 ychwanegu:
鈥淏ydd y cynorthwywyr yn datblygu eu sgiliau ieithyddol, a'u dealltwriaeth o'r iaith Gymraeg ymhellach - ac yn codi eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lawr y dosbarth.
鈥淢ae'r cwrs yn gyfle gwerthfawr iawn i'r cynorthwywyr, ac mae cynnwys y cwrs yn sicr o gynnig datblygiad proffesiynol gwych iddynt fel unigolion. Maes o law, bydd yr ysgolion a鈥檙 plant sydd yn eu gofal hefyd yn elwa.
Mae cwrs y cynorthwywyr dosbarth yn cael ei gynnal am 18 diwrnod dros gyfnod o 11 wythnos. Fel holl gyrsiau鈥檙 Cynllun Sabothol, mae鈥檔 cael ei ariannu鈥檔 llawn gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn talu costau teithio i鈥檙 unigolion a chostau cyflenwi i鈥檞 hysgolion.
Y cwrs Sabothol nesaf i鈥檞 gynnal yng ngogledd Cymru fydd y cwrs byr i athrawon ysgol a darlithwyr Addysg Bellach, a fydd yn dechrau fis Ebrill. Dyddiad cau derbyn ceisiadau ar ei gyfer yw 29 Ionawr. Cysylltwch 芒 Chanolfan Bedwyr ar 01248 383293 neu cynllunsabothol@bangor.ac.uk am fanylion pellach.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2016