Ieithoedd Modern yn dathlu llwyddiant gyda鈥檙 AHRC
Mae鈥檙 Ysgol Ieithoedd Modern wedi derbyn dwy Gymrodoriaeth uchel eu bri i academyddion ar Ddechrau eu Gyrfa gan gyngor ymchwil yr AHRC ar gyfer 2011. Mae鈥檙 llwyddiant hwn yn arbennig o nodedig gan mai anaml y bydd un ysgol yn derbyn dwy gymrodoriaeth o鈥檙 fath yn yr un flwyddyn. Bydd y ddwy dderbynwraig lwyddiannus, sef Dr Helen Abbott a Dr Anna Saunders, yn dechrau ar eu cymrodoriaethau yn Ionawr 2011. Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Carol Tully 鈥楻ydym yn hynod falch o鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud gan ein cydweithwyr, ac mae鈥檙 gwobrau hyn yn arwydd o ansawdd yr ymchwil y mae鈥檙 Ysgol yn gallu ymfalch茂o ynddo.鈥�
Mae Dr Helen Abbott wedi derbyn Cymrodoriaeth ar gyfer ei phrosiect: Killing Off Poetry: Baudelaire Revisited. Gyda chanol hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Ffrainc (pan oedd y rhyngberthynas rhwng barddoniaeth a cherddoriaeth yn ennyn trafodaeth danllyd) yn faes ffocws, bydd y prosiect yn defnyddio astudiaeth achos ddwys ac yn seilio arni ddadansoddiad ehangach o鈥檙 berthynas rhwng geiriau a cherddoriaeth. Yn benodol, bydd yn ystyried 鈥楲a Mort des amants鈥�, soned enwog Baudelaire, ac yn edrych beth sy鈥檔 digwydd pan fo hi鈥檔 cael ei throi鈥檔 ffurfiau eraill.
Mae Dr Anna Saunders wedi derbyn Cymrodoriaeth ar gyfer ei phrosiect: Memorialising the German Democratic Republic. Ers yr uno, mae nifer o leoedd cyhoeddus yn nwyrain yr Almaen wedi cael eu rhyddhau o naratifau鈥檙 Rhyfel Oer ac wedi cael ystyron o鈥檙 newydd, fel eu bod ar gael ar gyfer mathau newydd o goff芒d cyhoeddus. Mae tirwedd dwyrain yr Almaen yn newid yn gyflym o ran cofebau, ac mae hyn yn ganolog i lunio cyd-hunaniaethau a chyd-goffadwriaethau, yn enwedig o gofio i鈥檙 Almaen gael dwy unbennaeth yn yr ugeinfed ganrif. Er bod llawer o ymchwil wedi ei wneud ar gofebau鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 Holocost a chyfnod Sosialaeth Genedlaethol, prin yw鈥檙 gwaith manwl sydd wedi ei wneud ar Weriniaeth Dwyrain yr Almaen (GDR) a鈥檙 etifeddiaeth sosialaidd fel rhan o鈥檙 tirwedd hwn 鈥� er bod ymchwil hanesyddol helaeth ar y Weriniaeth wedi ei wneud, ynghyd 芒 nifer o weithiau diweddar ar 鈥極stalgie鈥� a鈥檙 modd y mae hunaniaethau dwyrain yr Almaen yn eu hamlygu eu hunain mewn llenyddiaeth, ffilm a diwylliant masnachol. Nod y prosiect hwn yw llenwi鈥檙 bwlch trwy lunio monograff a fydd yn edrych ar ddetholiad o astudiaethau achos manwl o gofebau yn nwyrain yr Almaen.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010