Lansiad Hugan Fach Goch Amlieithog
Disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Llangefni gyda myfyrwyr Prifysgol 精东传媒: Laura Hurst, Gareth White, Martina Codice a Matthew Hendy.Bu myfyrwyr o Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol 精东传媒 yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangefni yn ddiweddar yn cynnal gweithgareddau i ddisgyblion blwyddyn 7. Cafodd y disgyblion gyfle i brofi a meddwl am ieithoedd tramor mewn cyd-destun Ewropeaidd, drwy weithio gyda dull dysgu newydd 鈥楲lwybrau at Ieithoedd Cymru鈥�. Datblygwyd yr adnodd hwn ym Mhrifysgol 精东传媒 i godi ymwybyddiaeth am ieithoedd eraill yn ysgolion Cymru.
Yn dilyn sesiwn fer am ddysgu ieithoedd, dangoswyd fersiwn wedi鈥檌 recordio o'r chwedl boblogaidd, yr Hugan Fach Goch. Roedd y cymeriadau yn y ffilm yn siarad Iseldireg, Eidaleg, Ffrangeg, Almaeneg, Pwyleg a Sbaeneg, gan gyflwyno鈥檙 disgyblion i nifer o ieithoedd nad oeddent wedi eu clywed o'r blaen. Fe鈥檜 hanogwyd i weithio drwy gyfres o dasgau gan ddefnyddio鈥檙 ieithoedd. Cyflwynwyd y sesiwn drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn i鈥檙 myfyrwyr deimlo鈥檔 fwy cyfforddus i ofyn cwestiynau a chymryd rhan. Penderfynodd nifer ohonynt ar y diwrnod y byddent yn hoffi astudio ieithoedd eraill yn y dyfodol.
Cynhaliwyd y gweithgaredd gan fyfyrwyr Prifysgol 精东传媒, un ohonynt yn llysgennad hyfforddedig 鈥楲lwybrau at Ieithoedd鈥�, gan weithio gyda phob disgybl. "Roeddent i gyd wedi鈥檌 fwynhau鈥檔 fawr iawn," meddai Rhian Baum, eu hathrawes. Wrth adael y dosbarth, diolchodd y disgyblion i'r t卯m yn Gymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, Almaeneg ac ieithoedd eraill.
Mae'r adnodd dysgu newydd hwn ar gael yn awr yn y Gymraeg a'r Saesneg ar wefan 鈥樷�� ac mae'n cynnwys y sgript amlieithog, dolen i鈥檙 fideo a chyfres o weithgareddau i blant.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2013