Leah yn ennill gwobr
Pan darodd Leah Jones o鈥檙 Rhyl ar draws wefan Llyfrgell Farddoniaeth y DU, sylweddolodd ei bod yn cynnig y cyfle perffaith i gyflwyno cerdd yr oedd hi鈥檔 arbennig o falch ohoni.
鈥淩oedd teulu a ffrindiau y darllenais fy ngherdd wrthynt o鈥檙 farn ei bod yn dda iawn, felly roedd y ffaith imi gael i鈥檙 wefan fel pe bai ffawd wedi gwneud tro da arnaf,鈥� meddai Leah, myfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol 精东传媒.
Dewiswyd cerdd Leah yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Llyfrgell Farddoniaeth y DU ar gyfer Penillion Odledig. Roedd darn Leah yn un o gannoedd a yrrwyd o bob cwr o鈥檙 DU a thramor.
Ysbrydolwyd cerdd fuddugol Leah gan y straen yr oedd yn ei deimlo yn ystod ei arholiadau Lefel A, a eisteddodd yn Ysgol Glan Clwyd.
鈥淒ywedais wrth fy athrawes Saesneg am fy nheimladau ac awgrymodd hi y dylwn ysgrifennu barddoniaeth i helpu i ddelio 芒鈥檙 straen,鈥� esboniodd Leah (19).
鈥淵n ogystal 芒'r ysbrydoliaeth a gefais gan fy mam a鈥檓 tad wrth iddynt fy annog i ysgrifennu, rwyf hefyd yn ddiolchgar i鈥檓 hathrawes Saesneg, Melanie Henderson, am hyn.鈥�
Mae Leah yn awr yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol 精东传媒, yn astudio鈥檙 Gyfraith a Throseddeg, a鈥檌 bryd ar fod yn fargyfreithiwr. Mae hi鈥檔 treulio llawer o鈥檌 hamser rhydd yn cymdeithasu a chymryd rhan mewn cystadlaethau 鈥楩fug Lys鈥� Ysgol y Gyfraith ar gyfer Myfyrwyr y Gyfraith ac yng ngweithgareddau鈥檙 鈥楪ymdeithas Cyfreithwyr Stryd鈥�, sy鈥檔 cynnig cyngor a chymorth i鈥檙 cyhoedd ar faterion cyfreithiol.
Pan fydd ganddi amser rhydd, bydd Leah yn troi at ei hochr greadigol ac yn ystyried pynciau y gall hi eu trafod yn ei barddoniaeth.
Meddai Leah, 鈥淢ae ysgrifennu barddoniaeth wedi dod yn dechneg rhyddhau straen yn ddefnyddiol iawn i mi.鈥�
Yn wreiddiol, roedd Leah yn awyddus i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ond, wedi iddi ymweld 芒鈥檙 Brifysgol ar Ddiwrnod Agored, a gweld y cyflwyniadau ar y cyrsiau a gweithgareddau鈥檙 Wythnos Croeso, roedd hi鈥檔 gyffro i gyd a trodd at ei mam a dweud mai 精东传媒 oedd ei dewis cyntaf o Brifysgol.
鈥淓rbyn hyn, ni allaf ddychmygu astudio yn unlle arall ac rwyf wrth fy modd ym Mangor,鈥� meddai.
Enillodd Leah ddeg copi o鈥檙 llyfr oedd yn cynnwys ei cherdd 鈥�She鈥檚 Here鈥�. Gellwch ddarllen cerdd fuddugol Leah yma.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2014