Llew a鈥檙 Crydd, sioe Nadolig i blant

Pontio a Theatr Clwyd yn cyflwyno sioe Nadolig i blant, Llew a鈥檙 Crydd, fel eu cyd-gynhyrchiad cyntaf
Mae Emyr John wedi ysgrifennu a chyfarwyddo sioe newydd yn yr iaith Gymraeg i鈥檞 pherfformio ym Mangor a鈥檙 Wyddgrug.
Be sy鈥檔 digwydd i stor茂au unwaith maent wedi eu hadrodd? Lle maen nhw鈥檔 byw? Lle maen nhw鈥檔 mynd?
Ymunwch 芒 ni y flwyddyn hon i gael yr atebion wrth i Pontio a Theatr Clwyd gyflwyno eu sioe Nadolig newydd sbon, Llew a鈥檙 Crydd.
Mae dau frawd yn teithio鈥檙 byd yn casglu stor茂au er mwyn osgoi mynd ar goll. Un Noswyl Nadolig, a hwythau methu cysgu gan wybod bod Sion Corn ar ei ffordd, maent yn dweud stori, stori am Llew, hen grydd blin, corach hud, a thywysoges sy鈥檔 ysu i gael dawnsio. Ymunwch 芒 ni ar antur hudolus, wedi ei hadrodd drwy gerddoriaeth, dweud stori a phyped digon od yr olwg.
Llew a鈥檙 Crydd yw cyd-gynhyrchiad cyntaf theatrau blaenllaw Gogledd Cymru. Bydd yn agor yn Pontio, 精东传媒 ar ddydd Mawrth 18 Rhagfyr tan Sadwrn 22 Rhagfyr cyn symud i Theatr Clwyd, 2-6 Ionawr.
Dywedodd Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd: 鈥�Dyma ein cyd-gynhyrchiad cyntaf gyda Pontio, sy鈥檔 garreg filltir i鈥檙 ddwy theatr ac mae hyd yn oed yn fwy arbennig gan y byddwn yn cydweithio dros gyfnod y Nadolig. Rydym yn angerddol dros greu theatr deiniadol, llawn dychymyg yn yr iaith Gymraeg ac yn methu aros i ryfeddu plant a鈥檜 teuluoedd ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.鈥�
Dywedodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: 鈥�Mae ein partneriaeth newydd a chyfforus gyda Theatr Clwyd yn un yr ydym yn eich chroesawu yn gynnes. Rydym yn teimlo鈥檔 angerddol dros bwysigrwydd cynnig profiadau theatrig o safon uchel yn yr iaith Gymraeg i blant a鈥檜 teuluoedd 鈥� ac yn edrych ar adeiladu ar lwyddiant cyd-gynhyrchiad gyda Cwmni Murmur y llynedd sef Caban Hud. Yn agos atoch a hudolus, mae sioe Nadolig Llew a鈥檙 Crydd wedi rhoi cyfle i d卯m creadigol Pontio weithio yn agos gydag ein cydweithwyr profiadol yn Theatr Clwyd, ac rydym wedi mwynhau'r daith hon gyda鈥檔 gilydd yn fawr.鈥�
Mae Emyr John, Cyswllt Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd yn ysgrifennwr, actor a chyfarwyddwr sydd wedi bod yn gweithio yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2018