Llwyddiant Americanaidd arall i Osian
Mae ffilm ddogfen weithiodd myfyriwr o Brifysgol 精东传媒, Osian Williams, arni fel g诺r camera a recordydd sain wedi ennill anrhydedd arbennig yng Ngwobrau y New York Festivals yr wythnos hon. Enillodd y cynhyrchiad Boom Pictures Cymru/S4C 鈥楩y chwaer a fi鈥� Fedal Aur Ryngwladol yn y categori Diddordeb Dynol.
Mae 鈥楩y chwaer a fi鈥� yn ffilm ddogfen a gr毛wyd yn sgil y gyfres deledu Beautiful Lives am hosbis blant T欧 Hafan. Mae鈥檙 ffilm gan yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields, 18, o Lanelli sy'n dioddef o salwch unigryw sydd wedi' eu gwneud yn fud ac yn gaeth i gadeiriau olwyn. Ar 么l blynyddoedd heb lais, daeth dyfodiad peiriannau siarad electroneg a chyfle i'r merched siarad am eu bywydau a rhannu eu hofnau a'u gobeithion gyda'r byd.
Meddai Owain:
"Roedd hwn yn gyfle gwych i mi gael gweithio gyda chynhyrchwyr profiadol iawn. Mae gweithio ar hwn wedi helpu fy astudiaeth unigol ac elfennau eraill o fy ngwaith academaidd. Mae hi'n fraint i mi gael bod yn rhan o'r ffilm hon sydd yn dweud stori unigryw iawn. Mae'r chwiorydd a'u teulu yn haeddu鈥檙 holl glod sydd yn dod yn sgil hyn."
Nid dyma鈥檙 tro cyntaf i Osian, sy鈥檔 20 oed ac ar ei drydedd flwyddyn o鈥檙 cwrs BA Cyfathrebu a鈥檙 Cyfryngau dderbyn cydnabyddiaeth i鈥檞 waith yn yr Unol Daleithiau. Mae ei ffilmiau hefyd wedi cael eu defnyddio fel rhan o raglen arloesol i drin milwyr yng nghanolfan iechyd meddygol enwog Walter Reed ym Methesda, Maryland.
Mae 鈥楩y chwaer a fi鈥� i鈥檞 gweld ar hyn o bryd ar wefan S4C ().
Straeon perthnasol:
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013