Llwyddiant cerddorol 鈥楤odedern鈥�
Yng nghymanfa ganu Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Modedern eleni, daeth llwyddiant i ran un o gyn-ymchwilwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol 精东传媒.
Dyfarnwyd y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-d么n i鈥檙 Dr Godfrey Wyn Williams o Bontcysyllte ger Llangollen, cyn-fyfyriwr doethurol o鈥檙 Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol 精东传媒. Brodor o Bentre Broughton, ger Brymbo ydyw, yn un o saith o blant a dreuliodd flynyddoedd lawer yn mireinio鈥檌 grefft fel cyfansoddwr tonau cynulleidfaol. Yn dilyn llwyddiant yn Eisteddfodau Llandefgan, Llanrwst, Bancffosfelen, Mynytho, Y Tymbl Treuddyn a Llanbedr Pont Steffan daeth ei osodiad hyfryd o eiriau鈥檙 Prifardd Cen Williams, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr y Brifysgol, i鈥檙 brig yn ystod y gwasanaeth a ddarlledwyd nos Sul, Awst 6ed eleni. Enw鈥檙 d么n oedd 鈥楤odedern鈥� a鈥檙 gobaith yw y caiff ei mabwysiadu鈥檔 ddiymdroi gan gynulleidfaoedd led led Cymru.
Wedi ymddeol, fe gychwynodd y Dr Godfrey Williams ei yrfa fel ymchwilydd a bu鈥檔 astudio 鈥楥erddoriaeth y traddodiad Ymneilltuol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Lerpwl鈥�. Mae鈥檔 organydd profiadol, yn gyn-Gyfarwyddwr cwmni radio 鈥楽ain y Gororau鈥� ac yn aelod gweithgar o nifer o gorau cymunedol yn nghyffiniau Wrecsam.
Estynnwn ein llongyfarchiadau cynhesaf iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017