Mae gwyddau'n rhedeg yn ein helpu i ddeall sut mae goddef lefelau ocsigen isel.
Gwyddau benrhesog.Bu t卯m o wyddonwyr rhyngwladol, dan arweiniad Prifysgol 精东传媒 a dan nawdd y BBSRC, wrthi'n ddiweddar yn olrhain llwybr yr aderyn sydd yn hedfan uchaf yn y byd, sef yr 诺ydd benrhesog, wrth iddi fudo ar draws mynyddoedd yr Himalaya. Erbyn hyn maent wedi dangos sut y gall yr adar hyn oddef rhedeg yn gyflym iawn tra'n anadlu aer sy'n cynnwys dim ond 7% o ocsigen.
Mae ymarfer ar uchder yn sialens enfawr oherwydd ar gopa'r mynyddoedd uchaf mae'r aer yn cynnwys dim ond 7% ocsigen, o'i gymharu 芒 21% ar lefel y m么r. Dyma pam mae dringwyr yn defnyddio ocsigen ychwanegol yn aml, wrth ddringo copaon uchaf y byd.
Dr Lucy Hawkes, gynt o brifysgol 精东传媒 ac ar hyn o bryd yn y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ym Mhrifysgol Exeter, fu'n arwain yr astudiaeth, ynghyd 芒'i chydweithwyr, Dr Charles Bishop (Prifysgol 精东传媒) a'r Athro Pat Butler (Prifysgol Birmingham). Buont yn profi pa mor dda roedd y gwyddau'n ymdopi ag ymarfer mewn amgylcheddau 芒 llai o ocsigen trwy efelychu amodau Mynydd Everest mewn bocs clir ac yna gael yr adar i redeg mor gyflym 芒 phosib ar felin draed y tu fewn i'r bocs.
Darganfuwyd bod y gwyddau'n gallu goddef amodau ocsigen isel yn rhyfeddol - tra oeddent yn gorffwys a thra oeddent yn ymarfer am chwarter awr nerth eu traed - ar lefel ocsigen a fyddai'n drech na'r rhan fwyaf o bobl. Hefyd bu'r ymchwilwyr yn cynnal yr arbrofion gyda'r 诺ydd f么r, sy'n mudo ar lefel y m么r; darganfuwyd nad oedd ganddynt yr un gallu o dan amodau ocsigen isel.
G诺ydd benrhesog yn hedfan dros ei bro gynefin ym Mongolia.Dywedodd Dr Lucy Hawkes: "Mae i gyd i weld yn dibynnu ar faint o ocsigen y gall gwyddau penrhesog ei gyflenwi i gyhyrau'r galon. Po fwyaf y gallant ei gyflenwi, cyflymaf i gyd y gall eu calonnau guro gan gadw鈥檙 cyflenwad ocsigen i weddill y corff i fynd."
Mae gwyddau penrhesog a gwyddau m么r yn hedfan pellterau tebyg wrth fudo rhwng eu tiriogaethau bridio a'u tiriogaethau gaeafu, fel arfer dros filoedd o filltiroedd, yn yr hydref a'r gwanwyn. Mae gwyddau penrhesog yn teithio rhwng yr India lle maent yn treulio'r gaeaf a'u tiroedd magu yn Tsieina a Mongolia. Golyga hyn bod yn rhaid iddynt hedfan dros Fynyddoedd yr Himalaya, weithiau ar uchder o 7,290m (23,917o droedfeddi) .
Dangoswyd bod yr anifeiliaid hyn yn meddu ar nifer o addasiadau ffisiolegol penodol a all wella eu perfformiad o'u cymharu 芒 rhywogaethau gwyddau eraill wrth wynebu lefel ddifrifol o hypocsia (cyflenwad annigonol o ocsigen) yn yr amgylchedd. Mae cyhyrau'r galon a'r cyhyrau symud yn arbennig yn cynnwys mwy o bibellau gwaed.
Mae'r astudiaeth 鈥楳aximum running speed of captive bar-headed geese is unaffected by severe hypoxia鈥� gan Lucy A Hawkes, Patrick J Butler, Peter B Frappell, Jessica U Meir, William K Milsom, Graham R Scott a Charles M Bishop yn cael ei chyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn PLOS ONE.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014