Mae pob Athro鈥檔 Athro Iaith
Panelwyr Carole Richardson, Dr.
Panelwyr Carole Richardson, Dr. Llion Jones, Eleri Hughes, a Rhys Williams efo'r gweinidog, Leighton Andrews AM.Bu'r pwnc amserol cyflwyno鈥檙 Gymraeg ar draws y cwricwlwm o dan y chwyddwydr mewn sesiwn drafod arbennig wedi ei threfnu gan Brifysgol 精东传媒 stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd Ddydd Gwener 8 Mehefin.
Yn y sesiwn 鈥楳ae pob athro鈥檔 athro iaith鈥� bu'r arbenigwyr o ac athrawon sydd wedi dilyn cwrs y Cynllun Sabothol Cenedlaethol yn trafod sut y gall y cwrs helpu athrawon pob pwnc i gyflwyno鈥檙 Gymraeg yn fwy effeithiol i ddisgyblion.
Roedd y sesiwn wedi ei hanelu鈥檔 bennaf at benaethiaid ysgolion. Y panelwyr oedd Dr. Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr; Eleri Hughes, Prif Diwtor; Adam Rhys Williams, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd Caergybi a Carole Richardson, athrawes yn Ysgol Gynradd Niwbwrch. Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol 精东传媒, fu'n cadeirio鈥檙 sesiwn.
惭补别鈥檙 (Cwrs Uwch) yn gwrs iaith tri mis, sy鈥檔 cael ei ariannu鈥檔 llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi ei anelu at siaradwyr Cymraeg rhugl ac yn cael ei gynnal ym Mangor, Caerdydd a Chaerfyrddin. Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau鈥檙 Gymraeg, Prifysgol 精东传媒, sy鈥檔 arwain y Cynllun yn genedlaethol mewn cydweithrediad 芒 Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant. Mae鈥檔 agored i athrawon, cynorthwywyr dosbarth, darlithwyr a hyfforddwyr sydd eisiau gwella鈥檜 Cymraeg. Eleni, am y tro cyntaf, caiff y rhai sy鈥檔 dilyn y cwrs gyfle i ennill cymhwyster cenedlaethol am eu gwaith.
Darllenwch fwy am y Cynllun Sabothol ar .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2012