Marchnad Nadolig Myfyrwyr lwyddiannus arall
Cynhaliodd y t卯m Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol 精东传媒 y 7fed Farchnad Nadolig Myfyrwyr yn olynol yn Neuadd PJ cyn y Nadolig.
Aeth y Wobr am y Stondin Orau i fyfyrwyr Sandy Perez-Robles, Andrea Marin-Merizalde a Alejandra Vergara-Pena. Unwaith eto mae Marchnad Nadolig Myfyrwyr Prifysgol 精东传媒 wedi denu cefnogaeth aruthrol gan gwsmeriaid ar draws y brifysgol a'r tu hwnt. Roedd cyfanswm o 12 o staff a 178 o fyfyrwyr gyda 82 o stondinau rhyngddynt yn cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion wedi'u gwneud 芒 llaw, fel gemwaith, celf a chrefft, cardiau ac addurniadau, nwyddau wedi'u gwau a'u crosio, sebonau wedi eu gwneud 芒 llaw, plushies, cacenni, bwydydd rhyngwladol, gwaith celf a ffotograffiaeth. Galwodd dros 2,000 o ymhelwyr heibio yn ystod y prynhawn a chael cyfle i brynu anrhegion unigryw gyda rhan o'r elw yn mynd i elusen.
Bydd stondinwyr wedi ennill 15 o bwyntiau profiad BEA (Gwobr Cyflogadwyedd 精东传媒) am gynnal stondin, ac ychwaneg o bwyntiau trwy gymryd rhan yn y gweithdai ategol a gynhaliwyd yn ystod yr wythnosau'n arwain at y digwyddiad.
Dywedodd Rhiannon Quirk oedd yng ngofal stondin Little Quirk Plush: 鈥楻wyf wedi mwynhau mynychu鈥檙 Farchnad Nadolig, mae wedi rhoi cyfle i mi gyfarfod fy nghwsmeriaid a chael adborth. Roedd ffair flwyddyn ddiwethaf yn llwyddiannus ac rwyf yn gobeithio bydd flwyddyn yma'r un fath.鈥�
Cafwyd cerddoriaeth fyw trwy gydol y prynhawn, oddi wrth Fand Pres a Band Cyngerdd Prifysgol 精东传媒, a hynny鈥檔 ychwanegu at y naws lawen.
Rhoddodd llawer o鈥檙 stondinwyr rywfaint o鈥檜 helw i elusen. Mae鈥檙 elusennau sy鈥檔 mynd i elwa yn cynnwys T欧 Gobaith, Gardd Fotaneg Treborth a Snowdonia Animal Sanctuary a llawer mwy.
Bu llawer o Glybiau a Chymdeithasau UM hefyd yn cynnal stondinau er mwyn codi arian at gyllideb eu cymdeithasau, yn cynnwys RAG, y Gymdeithas Cerdded C诺n, Cymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth 精东传媒 a Chymdeithas Affro-Garibiaidd 精东传媒.
Aeth y Wobr am y Stondin Orau i fyfyrwyr Sandy Perez-Robles, Andrea Marin-Merizalde a Alejandra Vergara-Pena. Chyflwynwyd y wobr gan Diane Roberts o Brifysgolion Santander.
Dewiswyd gan Cerri Williams o Lywodraeth Cymru Coeden Noeth gan Laura Haggett fel enillydd Cynnyrch Mwyaf Arloesol.
Ar hyn o bryd mae'r Farchnad wedi ei chyllido'n rhannol gan Raglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Dewiswyd Coeden Noeth gan Laura Haggett fel enillydd Cynnyrch Mwyaf Arloesol. Hoffai t卯m Byddwch Fentrus ddiolch i bawb a fu鈥檔 cynorthwyo yn ystod y dydd, yn cynnwys y cynorthwywyr o blith y myfyrwyr, y Gwasanaethau Eiddo a Champws am waith y tu 么l i鈥檙 llenni wrth helpu i osod y stondinau, y Gwasanaethau Masnachol am helpu gyda'r lluniaeth, Llywodraeth Cymru a Phrifysgolion Santander am noddi'r stondin orau, T卯m Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru am noddi'r digwyddiad, ac yn fwyaf oll i'r stondinwyr o blith y myfyrwyr a'r staff am eu brwdfrydedd ac am roi cymaint o ymdrech tuag at greu eu cynnyrch ac am fod yn fentrus!
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017