Medalau Hanesyddol yn mynd i ocsiwn
Medalau a ddyfarnwyd i Harold King.Bydd medalau a fu鈥檔 perthyn i wyddonydd o Fangor yn mynd i ocsiwn yr wythnos yma (Iau 21 Gorffennaf).
Y medalau a ddyfarnwyd i Dr Harold King yw Lot 167 a 168 yng ngwerthiant 鈥極rders, Decorations, Campaign Medals and Militaria鈥� Spink.
Graddiodd Dr Harold King mewn cemeg ym Mhrifysgol 精东传媒 (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ar y pryd) ym 1909.
Gwaith Dr King ar curare, gwenwyn o Dde America a鈥檌 sefydlodd fel cemegydd o fri. Defnyddiwyd curare ers canrifoedd fel gwenwyn parlysu gan nifer fawr o鈥檙 brodorion yn Ne America. Er yn adnabyddus, nid oedd mecanwaith y gwenwyn yn hysbys yn nechrau鈥檙r 20fed ganrif.
Bu i Dr King ganfod y tocsin o fewn y gwenwyn yn 1935 ac aeth ymlaen i gadarnhau ei strwythur. Roedd ei ganfyddiad yn gymorth yn gychwynnol i waith llawfeddygol , ond arweiniodd yn y man at ddatblygiad y cyffuriau cyntaf i fod ar gael yn eang at ddefnydd pwysedd gwaed uchel (hypertension).
Roedd Dr Harold King yn gyn-ddisgybl o Ysgol Friars, 精东传媒. Fe enillodd sawl ysgoloriaeth i astudio yn y Brifysgol, lle bu鈥檔 astudio dan ofal yr Athro Kennedy Orton.
Yn fab i ysgolfeistr, wedi iddo raddio ac ennill gradd uwch, aeth Harold King i weithio yn Labordai Wellcome y Cyngor Ymchwil Meddygol, ac yna gyda鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Meddygol nes ei ymddeoliad yn 1950. Fe鈥檌 hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1933.
Yn yr arwerthiant mae ei CBE ynghyd 芒鈥檌 Hanbury Gold Medal (1941), a鈥檌 Addingham Gold Medal. Dyfarnwyd medal Hanbury 鈥溾�or high excellence in the prosecution or promotion of original research in the natural history and chemistry of drugs鈥� ac mae鈥檔 adlewyrchu pwysigrwydd cyraeddiadau Dr King.
Meddai Dr Mike Beckett, Pennaeth Ysgol Cemeg, Prifysgol 精东传媒:
鈥淲rth i ni ddathlu cenhedlaeth arall o fyfyrwyr cemeg yn graddio o Fangor, mae鈥檔 gyfle i鈥檔 hatgoffa bod Ysgol Gemeg 精东传媒, er yn fach o ran maint, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i鈥檙 maes. Byddai King wedi ei addysgu gan yr Athro Kennedy Orton, gwyddonydd hynod a daeth hefyd yn FRS yn 1921, fel y gwnaeth pum Athro Cemeg cynta鈥檙 Brifysgol. Dyrchafwyd pump o gyn fyfyrwyr Orton yn Athrawon mewn Cemeg - record a fyddai鈥檔 llwyddiant ysgubol heddiw!
Amcangyfrifir gan Spink & Son y bydd y medalau鈥檔 hawlio 拢1,600-2,300.
Yn 么l yr arwerthwr Marcus Budgen 鈥淢ae llwyddiannau Dr King a phwysigrwydd gwyddonol ei ganfyddiadau yn gwneud y rhain yn bethau prin. Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y medalau.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016