Mewn cymdeithas ranedig, pwy sy鈥檔 ymddiried yn yr heddlu?
Beth sy鈥檔 diffinio fy hunaniaeth genedlaethol ac ym mha sefydliadau gwladol rydw i鈥檔 ymddiried ynddyn nhw? Dyma gwestiynau sy鈥檔 gorgyffwrdd ac yn rhai y mae amryw yn gofyn iddyn nhw eu hunain. Mae鈥檙 heddlu yn un o asintau mwyaf pwerus sy鈥檔 cynrychioli鈥檙 wlad. Mewn cymdeithas ranedig, efallai y bydd pobl yn ystyried ar ba ochr mae鈥檙 heddlu. Yng Nghymru, mae rhai pobl weithiau鈥檔 amrywio yn eu safbwyntiau o asiantau gwladol a hynny鈥檔 ddibynnol ar eu dehongliad o 鈥楪ymreictod鈥� a 鈥楽eisnigrwydd鈥�. Mae statws yr iaith Gymraeg yn allweddol yn y gwrthdaro hyn. Yng Ngogledd Cymru, mae gwasanaeth yr heddlu鈥檔 ddwyieithog a hynny am reswm da.
Mae athro mewn Troseddeg, Stefan Machura o Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, a鈥檌 fyfyrwyr MA, Salim Alminoni, Boris Vavrik ac Einir Williams wedi cynnal astudiaeth empiraidd o faint o ymddiriedaeth sydd gan fyfyrwyr Prifysgol 精东传媒 yn yr heddlu. Meant bellach wedi cyhoeddi eu canlyniadau ymchwil yn yr International Journal of Politics, Culture, and Society. Mae鈥檙 testun, 鈥榃elsh Nationalism, Language and Students鈥� Trust in the UK Police鈥�, ar gael drwy fynediad agored (https://doi.org/10.1007/s10767-020-09379-z). Tueddai myfyrwyr Prifysgol 精东传媒 a ffafriai gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ymddiried yn llai yn yr heddlu.
Gellir darllen y canfyddiad hwn mewn perthynas ag astudiaeth yr Athro Machura o ymddiriedaeth mewn gwasanaeth yr heddlu lleol, Heddlu Gogledd Cymru. (Machura, Stefan, et al. (2019). National Identity and Distrust in the Police: The Case of North West Wales. In: European Journal of Criminology.) Roedd yr ymatebion yma yn cynnwys trawstoriad o鈥檙 genedl, nid myfyrwyr yn unig. Ymddangosodd fod y bobl leol a oedd yn eu hystyried eu hunain yn genedlaetholwyr Seisnig yn ymddiried llai yn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae barn dinasyddion o wahanol hunaniaethau cenedlaethol yn gallu bod yn broblem fawr i鈥檙 heddlu. Ond mae y ddwy astudiaeth gan yr Athro Machura a鈥檌 fyfyrwyr yn dangos sut y gall awdurdodau鈥檙 heddlu eu hunain helpu i wella perthnasau rhwng pobl o bob cefndir 芒 nhw: a hynny drwy safon eu gwasanaeth, yn enwedig triniaeth deg unigolion. Yn ogystal, mae portreadau cadarnhaol o鈥檙 heddlu yn y cyfryngau yn arwain at fwy o ymddiriedaeth yn yr heddlu fel sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2020