Myfyriwr Cyfrifiadureg wedi hacio鈥檔 fyw ar lwyfan mewn prif ddigwyddiad yn Llundain
Jamie (dde) ar y llwyfan gyda Boris JohnsonBu myfyriwr o Brifysgol 精东传媒 sydd hefyd yn haciwr moesol ardystiedig yn cymryd rhan mewn digwyddiad mawr yn Llundain yn ddiweddar. Roedd siaradwyr adnabyddus fel Boris Johnson a'r Arglwydd Alex Carlile hefyd yn rhan o鈥檙 digwyddiad.
Perfformiwyd 鈥榟ac鈥� yn fyw ar lwyfan gan Jamie Woodruff, 21 oed, o Rishton , Swydd Gaerhirfryn sy鈥檔 fyfyriwr ail flwyddyn yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, fel rhan o鈥檙 digwyddiad ' - trafodaeth ar breifatrwydd, data a pholisi ar gyfer yr economi ddigidol.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Innotech, yn canolbwyntio ar y cwestiynau a ofynnir dro ar 么l tro yngl欧n 芒 sgiliau digidol yn nhermau hacio seiber, preifatrwydd, ac ymyrraeth llywodraethau yn nata鈥檙 cyhoedd yn y dyfodol.
Yn ystod y digwyddiad haciodd Jamie mewn i wefan un o鈥檙 cynadleddwyr, gyda'u caniat芒d, a rhestrodd eu gwendidau. Roedd hyn yn galluogi鈥檙 cynadleddwyr i weld sut y gall hacwyr cyfrifiaduron ymosod ar eu gwefan a rhoi eu busnes mewn perygl. Hefyd, rhoddodd Jamie adborth ar sut i helpu i ddiogelu鈥檙 wefan.
Dywedodd Jennifer Arcuri, Sylfaenydd yr Uwchgynhadledd Innotech: "Daeth Jamie i ddigwyddiad Innotech 2014 gyda #LiveHack! Rhannodd y llwyfan gyda Maer Llundain a bu鈥檔 siarad am bwysigrwydd hacio am ychydig funudau, yn egluro beth yw hacio, sut caiff ei ddefnyddio, a pham ei bod mor bwysig ei ddysgu. Roedd y gynulleidfa wedi鈥檜 syfrdanu gan nad oeddent erioed wedi gweld unrhyw un yn hacio鈥檔 fyw ar lwyfan o鈥檙 blaen, gyda siaradwyr a chyfarwyddwyr proffil uchel yno鈥檔 bresennol. Roedd yn sicr yn brofiad anhygoel i鈥檙 gynulleidfa ac rwyf yn falch iawn bod Jamie wedi cymryd rhan yn y digwyddiad."
Dywedodd Jamie: "Roeddwn yn teimlo'n gyffrous ac ychydig bach yn nerfus am gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Roedd yn anrhydedd cael y cyfle i siarad 芒 chynulleidfa amrywiol am y materion sensitif sy'n gysylltiedig 芒 phreifatrwydd. Cefais gyfle i fynegi fy marn bersonol a鈥檙 cyfle hefyd i gyfleu barn pobl eraill. Hoffwn hefyd ddiolch i Brifysgol 精东传媒 am y gefnogaeth gyson i fy niddordebau academaidd a phersonol."
Aeth Jamie ymlaen i gymryd rhan yn nigwyddiad StartupBus UK, sef cystadleuaeth flynyddol lle mae prif gymunedau technoleg Ewrop yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i lansio busnes technoleg newydd ar fws, yn teithio o Lundain i Vienna.
Gwyliwch:
Diolch i 漏Vicki Couchman am y llun 0795722691 vicki@vickicouchman.com @vickicouchman
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2014