Myfyriwr o Brifysgol 精东传媒 yn cael ei ddewis i sgwad Rygbi Cynghrair Cymru
Chris JonesMae Rygbi Cynghrair Cymru wedi cadarnhau eu sgwad myfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer pencampwriaeth y pedair gwlad sy鈥檔 cychwyn ar 12 Mehefin yng Nghaeredin, lle bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon, Lloegr a'r Alban.
Mae Chris Jones, 21 oed, o Dreffynnon, sy鈥檔 fyfyriwr dylunio cynnyrch ym Mhrifysgol 精东传媒, yn un o鈥檙 20 o fyfyrwyr sydd wedi eu dewis o blith 13 sefydliad addysgol ym mhob rhan o Brydain.
Mae Chris wedi bod yn chwarae rygbi ers blynyddoedd lawer ac mae wedi chwarae i nifer o dimau, gan gynnwys y Chester Gladiators yn fwyaf diweddar.
Dywedodd Chris: "Dwi ar ben fy nigon fy mod i wedi cael fy newis, nid yn aml y mae rhywun yn cael yr alwad i chwarae dros eu gwlad; a does gen i ddim amheuaeth y bydd hyn yn brofiad bythgofiadwy. Dwi'n teimlo'n falch iawn o fod yn cynrychioli Cymru, yn enwedig gan mai dim ond ychydig iawn o bobl sy鈥檔 cael eu dewis i chwarae.鈥�
"Dwi鈥檔 gobeithio bydd y profiad yn gwella fy sgiliau rygbi cynghrair ymhellach. Mi fydd safon y bencampwriaeth yn eithriadol o uchel ac mi fydd y gystadleuaeth yn ffyrnig, a dwi鈥檔 gobeithio chwarae mor dda ag y medra i.鈥�
"Yn dilyn y twrnamaint, ac unrhyw gemau pellach, dwi鈥檔 gobeithio mynd yn 么l at y Chester Gladiators efo gwell ymdeimlad at y g锚m."
Dywedodd Latham Tawhai, Prif hyfforddwr: "Dan ni wedi dewis y gr诺p yma o chwaraewyr ar 么l y penwythnos hyfforddi gafon ni yng Nghlwb Rygbi Caerffili lle cafodd y chwaraewyr ddau ddiwrnod o hyfforddiant dwys i'w paratoi nhw ar gyfer pa mor galed fydd y twrnamaint oherwydd mi fydd angen iddyn nhw chwarae tair g锚m mewn chwe diwrnod.鈥�
"Er bod rhai o'r chwaraewyr yma ddim ar gael eleni oherwydd ymrwymiadau eraill, dan ni鈥檔 teimlo鈥檔 gyffrous wrth gael datgelu rhai o鈥檙 doniau addawol sydd gynnon ni yng Nghymru.鈥�
鈥淗eb amheuaeth, hwn fydd un o鈥檙 timau myfyrwyr ieuengaf erioed i ni fynd 芒 nhw i鈥檙 twrnamaint ond, o ystyried mai dim ond blwyddyn sydd tan Gwpan y Byd, roedden ni鈥檔 teimlo ei bod yn bwysig bod rhai o鈥檙 chwaraewyr iau yn cael y profiad er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw at y flwyddyn nesaf. Fe wn芒n nhw ddysgu lot wrth fod yn rhan o'r twrnamaint yma ac mi fyddan nhw mewn sefyllfa dda ar gyfer 2017."
Mehefin 13eg-18fed 鈥� Twrnamaint Myfyrwyr y Pedair Gwlad, Prifysgol Caeredin, Caeau Chwarae Peffermill
13 Mehefin 鈥� Iwerddon v Lloegr 15:30, Cymru v Yr Alban 18:00
15 Mehefin - Cymru v Iwerddon 15:30, Lloegr v Yr Alban 18:00
18 Mehefin - Yr Alban v Iwerddon 12:00, Cymru v Lloegr 14:30
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2016