Myfyriwr PhD o Brifysgol 精东传媒 yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar BBC Radio Wales
Gareth 'Gaz Top' Jones ac Erin Lloyd JonesMae myfyriwr PhD o Brifysgol 精东传媒 wedi cael cyfle gwych yn gweithio fel hanesydd preswyl ar gyfres cerddoriaeth newydd mewn dwy ran ar BBC Radio Wales.
Cyflwynwyd Rockin' the Gogs gan Gareth Jones ('Gaz Top' gynt) wrth iddo ail-ymweld 芒 lleoliadau cerddoriaeth y buodd o ynddyn nhw pan oedd yn iau gan ddathlu hanes ac etifeddiaeth y llefydd hynny.
Gwahoddwyd myfyriwr sy鈥檔 astudio PhD mewn archaeoleg, sef Erin Lloyd Jones, o Fodelwyddan, i roi cyngor i Gareth yngl欧n ag agweddau hanesyddol y gyfres. Mae hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen, gan s么n am hanes yr adeiladau a hanes cymdeithasol yr ardal yn nechrau鈥檙 20fed ganrif sef y cyfnod a roddodd fod i鈥檙 angen amdanynt.
Ar hyn o bryd mae Erin wrthi鈥檔 ysgrifennu ei thraethawd PhD y bu鈥檔 gweithio arno yn rhan amser ym Mangor ers 2011. Ei maes arbenigol yw bryngaerau鈥檙 oes haearn yng ngogledd Cymru a鈥檙 Gororau, ac mae yn ei helfen yn trin a thrafod unrhyw beth yn ymwneud 芒 hanes - yn enwedig hanes gogledd Cymru. Mae Erin yn gweithio'n llawn amser fel rheolwr dehongli treftadaeth i Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru ac mae鈥檔 mwynhau rhannu ei hoff straeon am dreftadaeth Prydain drwy ei gwaith ar y cyfryngau ac ar ei gwefan www.idigarchaeology.co.uk
Dywedodd Erin: "Ro鈥檔 i wrth fy modd pan ofynnodd Gareth i fi gymryd rhan yn y gyfres. Nid yn unig ges i gyfle i rannu straeon diddorol iawn am hanes fy ardal leol, ond ro鈥檔 i hefyd yn mynd i鈥檙 Tiv yn rheolaidd, felly roedd hynny鈥檔 gwneud y gyfres yma hyd yn oed yn fwy arbennig i fi. Ar ben hynny, rhowch cael gweithio hefo 'Gaz Top', ac mae o鈥檔 bownd o fod yn llwyddiant!
"Mae gynnon ni hanes hir ac amrywiol yma yng Nghymru, ac mae o i gyd yn gysylltiedig efo鈥檌 gilydd. Os ydych chi am wybod sut i fynd o Mot枚rhead at gloddio ac o Radiohead at y Rhufeiniaid - cofiwch wrando!"
Mae pennod gyntaf Rockin' the Gogs yn rhoi sylw i Dixieland Showbar, ar y pier ym Mae Colwyn. Yn ystod ei anterth yn y 70au a'r 80au cynnar, bu鈥檙 鈥楧ixie鈥� yn llwyfan i fandiau chwedlonol megis Mot枚rhead, the Damned, Siouxsie & the Banshees, Elvis Costello, The Specials a Madness.
Yn yr ail bennod, aiff Gareth i鈥檙 'Tiv鈥� ym Mwcle, ac mae bodolaeth y lleoliad hwnnw ynddo ei hun yn rhywbeth sydd y tu hwnt i bob rheswm. Er gwaethaf y ffaith fod y lleoliad mewn tref yng Nghymru ac iddi boblogaeth eithaf bychan ac er nad oedd cysylltiadau trafnidiaeth da, mae鈥檙 lle鈥檔 mynd o nerth i nerth ers degawdau, gan roi llwyfan i rai o gewri roc a r么l 鈥� gan gynnwys Black Sabbath, Led Zeppelin a Slade a bandiau pop Prydeinig fel Oasis hyd yn oed. Mae鈥檙 'Tiv' yn parhau i gynnal sioeau byw bob wythnos hyd y dydd heddiw. Mae Gareth yn ymchwilio i gyfrinach eu llwyddiant drwy siarad 芒鈥檙 bandiau, y cefnogwyr a rheolwyr a mynd ar daith o amgylch yr adeilad.
Pennod 1 Rockin' the Gogs: Dixieland Showbar on Colwyn Bay Pier. Darlledir ddydd Sadwrn 3 Medi 2016 am 1:30pm ar BBC Radio Wales.
Pennod 2 Rockin' the Gogs: The Buckley Tivoli. Darlledir 10 Medi am 1:30pm ar BBC Radio Wales.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2016