Myfyriwr Prifysgol 精东传媒 i weithio ar broject gydag un o awduron amlyca鈥檙 byd
Ashwin SanghiMae Ashwin Sanghi, myfyriwr ym Mhrifysgol 精东传媒 鈥� sydd eisoes wedi dod i fri mawr fel awdur yn ei wlad enedigol, India 鈥� yn mynd i lunio nofel ar y cyd gydag awdur a ddisgrifir fel ysgrifennwr llyfrau ffuglen droseddol mwyaf poblogaidd y byd: James Patterson.
Mae James Patterson wedi datblygu cyfres hynod boblogaidd o nofelau, lle mae鈥檔 gweithio gydag awduron lleol i gyd-ysgrifennu鈥檙 gyfres 鈥楶rivate鈥� o nofelau trosedd sydd ar frig y rhestrau gwerthu ledled y byd. Mae鈥檙 gyfres wedi鈥檌 seilio ar weithgareddau asiantaeth dditectif o鈥檙 enw 鈥楶rivate鈥� sydd 芒 changhennau ym mhrif ddinasoedd y byd. Trwy gydweithio ag awduron poblogaidd o wahanol wledydd a diwylliannau mae James Patterson yn llwyddo i gyflwyno darlun cywir a dilys o ddinasoedd mawr, gwledydd a diwylliannau鈥檔 fyd-eang.
Ar gyfer 鈥楶rivate India鈥�, mae cyhoeddwyr Ashwin Sanghi, Random House India a Cornerstone, sy鈥檔 gangen o Random House UK, wedi cyhoeddi cydweithio newydd rhwng James Patterson ac Ashwin Sanghi.
Mae Susan Sandon, rheolwr gyfarwyddwr Cornerstone, Random House UK wedi sicrhau鈥檙 hawl i gyhoeddi 鈥楶rivate India鈥� ar draws tiriogaethau鈥檙 Random House Group. Bydd 鈥楶rivate India鈥� (teitl dros dro) yn cael ei gyhoeddi鈥檔 fuan yn 2014 gan amlygu doniau ysgrifennwr nofelau cyffrous amlyca鈥檙 byd ar hyn o bryd ac awdur Indiaidd sydd ar frig y rhestrau gwerthu yno gyda鈥檌 gyfrolau The Krishna Key a Chanakya鈥檚 Chant. Yn y llyfr ceir cyfuniad o鈥檙 symud cyflym a welir yng ngwaith Patterson a鈥檙 ymchwil drwyadl a鈥檙 plotiau gafaelgar sy鈥檔 nodweddu llyfrau cyffrous Sanghi. Bydd cyhoeddi 鈥楶rivate India鈥� yn dilyn blwyddyn o weithgaredd hyrwyddo mawr i James Patterson yn India, gan ddechrau gyda chyhoeddi fersiwn clawr papur unigryw o Alex Cross. Bydd y gyfrol honno鈥檔 ymddangos yn Chwefror 2013, cyn cyhoeddi鈥檙 fersiwn clawr caled yng ngweddill y byd.
Meddai James Patterson: 鈥淢ae ysgrifennu fy nghyfres lyfrau 鈥楶rivate鈥� wedi rhoi cyfle i mi weithio efo awduron lleol ar lyfrau cyffrous sydd wedi鈥檜 lleoli ar hyd a lled y byd. Ni ellid cael gwell lle na鈥檙 India, efo鈥檌 dinasoedd prysur a lliwgar a鈥檌 hanes a鈥檌 threftadaeth gyfoethog, i leoli antur nesaf 鈥楶rivate鈥�. Ac ni allwn fod wedi cael gwell partner ysgrifennu nag Ashwin Sanghi efo鈥檌 wybodaeth hanesyddol eang a鈥檌 hoffter o blotiau sy鈥檔 symud yn gyflym. Dwi鈥檔 edrych ymlaen at weithio efo fo i greu antur unigryw wedi鈥檌 leoli yn India.鈥�
Meddai Ashwin Sanghi: 鈥淵n ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae James Patterson wedi gwerthu mwy o lyfrau nag unrhyw awdur arall ar draws y byd. Mae鈥檔 anrhydedd mawr cael cyd-ysgrifennu nofel gyffrous wedi鈥檌 seilio ar India gyda鈥檙 arch stor茂wr ei hun. Dwi鈥檔 gweld hwn yn gyfle hefyd i mi fireinio fy sgiliau mewn genre ychydig yn wahanol, ond hynod gyffrous. Dwi鈥檔 sicr y bydd y cyfuno yma ar syniadau o鈥檙 Dwyrain a鈥檙 Gorllewin yn arwain at lyfr gafaelgar a darllenadwy iawn.鈥�
Meddai Dr Nathan Abrams o Prifysgol 精东传媒 a goruchwyliwr PhD Ashwin Sanghi: 鈥淒wi wrth fy modd efo鈥檙 newyddion yma. Mae Ashwin yn dal i fynd o nerth i nerth, o awdur oedd wedi鈥檌 ddysgu ei hun a chyhoeddi ei lyfrau ei hun, i gydweithio gydag un o awduron mwyaf adnabyddus y byd. Dwi鈥檔 edrych ymlaen yn eiddgar at ffrwyth eu cydweithio.鈥�
Meddai Ashwin Sganghi ymhellach: 鈥淔e wnes i benderfynu astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a chwiliais am raglen a fyddai鈥檔 fy ngalluogi i ddilyn fy amcanion eraill mewn bywyd gan roi cyfle i mi鈥檙 un pryd i archwilio fy ngwaith yn feirniadol. Dwi鈥檔 credu bod y broses o hunanymholi a ddechreuwyd ym Mangor yn sicr wedi fy helpu i ddatblygu fel ysgrifennwr. Prifysgol 精东传媒 oedd fy newis cyntaf, yn bennaf oherwydd hyblygrwydd y rhaglen ynghyd 芒 safonau academaidd uchel. Roeddwn wedi disgwyl cwblhau鈥檙 rhaglen ar 么l ysgrifennu fy nofel gyntaf, ond yn awr mae鈥檔 ymddangos y byddaf yn ei gorffen ar 么l cyhoeddi fy mhumed!鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2013