Myfyriwr yn cael ei ddewis ar gyfer Pencampwriaeth Nofio Genedlaethol
Mae Leo Johnson, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio wedi ennill lle i gystadlu yn y ras 100m Arddull Rydd ym Mhencampwriaeth Genedlaethol Cwrs Byr Agored Nofio gydag Anabledd 2013, sydd i鈥檞 chynnal ym Mhwll Nofio Ryngwladol Ponds Forge yn Sheffield ar 23-24 Tachwedd 2013. Bydd y goreuon o blith nofwyr para ar draws Prydain Fawr yn cystadlu yn y digwyddiad hwn.
Dim ond yn ddiweddar y penderfynodd y myfyriwr 20 oed o Putney, de-orllewin Llundain, roi cynnig ar gystadlu yn y maes ac mae鈥檔 annog myfyrwyr eraill efo anabledd i ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon para.
Mae Leo鈥檔 esbonio:
鈥淒echreuais ystyried o ddifri gymryd rhan mewn chwaraeon para yn fuan wedi i mi ddechrau yn y Brifysgol. Roedd ambell i ffrind wedi s么n am y peth o鈥檙 blaen ond chymerais fawr o sylw, roeddwn yn ddigon hapus yn chwarae rygbi a chriced i鈥檙 ysgol ac i Glwb Rygbi Cymry Llundain. Ond cefais anaf i鈥檓 pen-glin, oherwydd gorwneud, a hynny鈥檔 rhannol oherwydd fy anabledd.
鈥淎r 么l trafod gyda鈥檙 llu o feddygon mae rhywun yn eu gweld yn rheolaidd os oes gennych anabledd, penderfynais mai nofio a rhwyfo fyddai鈥檔 fwyaf buddiol i mi yn y tymor hir. Ac yna, am y tro cyntaf, meddyliais, os gallaf gystadlu鈥檔 eithaf da yn erbyn pobl heb anabledd, yna beth allwn i gyflawni pe bawn i鈥檔 cystadlu o dan yr un amodau 芒 phawb arall?
鈥淩wy鈥檔 berson cystadleuol wrth natur ac yn cael rhyw fath o ollyngdod wrth gystadlu. Rwy wedi sylwi fy mod yn perfformio鈥檔 well yn academaidd wrth gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol. Roeddwn yn benderfynol o gael fy ngosod mewn dosbarth ar gyfer y nofio a鈥檙 rhwyfo. Ond haws dweud na gwneud. Rhois fy hun ar y rhestr aros ar gyfer dosbarthiad nofio ym mis Chwefror a chael fy nosbarthiad ar Hydref 5ed! Roedd rhwyfo鈥檔 ychydig yn symlach, dim ond 6 mis gymerodd hi.
鈥淔elly ar 5ed Hydref cymerais ran yn fy mhencampwriaeth ranbarthol gyntaf, fel rhan o鈥檙 鈥榓rsylwi mewn cystadleuaeth鈥� cyn fy ngosod mewn dosbarth. Roeddwn wedi fy ngosod dros dro yng nghategori S9: mae deg dosbarth nofio, S1-S10 ,efo 1 ar gyfer y rhai 芒鈥檙 amhariad corfforol mwyaf a 10 ar gyfer y rhai 芒鈥檙 amhariad lleiaf. Mae rhai cystadlaethau efo trothwy amser ar gyfer ennill lle yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol Cwrs Byr, yn ddibynnol ar eich dosbarthiad, a gwelais fy mod i wedi gwneud yn ddigon da i gael lle yn y gystadleuaeth 100m arddull rydd. A bod yn onest, roeddwn i wedi gwirioni! 鈥�
鈥淔y nod tymor hir yw gweld ar ba lefel galla i gystadlu yn y dyfodol. Fy nod yn y tymor byr yw cyflawni amser da yn y Cystadlaethau Cwrs Byr Cenedlaethol, yna'r cystadlaethau cwrs byr yng nghynghrair myfyrwyr BUCS. Wedyn, y prif ffocws fydd y cyfarfod Rhyngwladol Prydeinig yng Nghanolfan Chwaraeon Tollcross ym mis Ebrill. Wedi hynny does gen i ddim clem ar hyn o bryd. Rwy鈥檔 ceisio mynd un cam ar y tro.鈥�
Dywedodd Leo am ei amser ym Mangor:
鈥淐lywais am Brifysgol 精东传媒 gan ychydig o ffrindiau, a dois yma i鈥檙 Diwrnod Agored a phenderfynu rhoi鈥檙 Brifysgol fel un o鈥檓 dewisiadau, a bellach dyma fi.鈥�
鈥淵 peth gorau am y cwrs yw鈥檙 amrediad o bynciau gwahanol yr ydym yn eu hastudio, a鈥檙 peth orau am yr ysgol yw鈥檙 awyrgylch. Mae Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion yn lle cyfeillgar dros ben. Yr uchafbwynt i mi hyd yn hyn fu鈥檙 daith maes yn ystod yr haf i鈥檙 Virginia Institute of Marine Science. Roedd yn brofiad gwych.
鈥淭u allan i chwaraeon rwyf wedi bod yn weithgar efo Cymdeithas Endeavour ac rwyf hefyd yn Seneddwr dros Fyfyrwyr ag Anableddau鈥檙 Brifysgol. Yn gymdeithasol, rwy鈥檔 mwynhau noson allan o bryd i鈥檞 gilydd. Ond gan fwyaf, rwyf yn mwynhau treulio amser gyda鈥檓 ffrindiau da, lle bynnag y byddant neu beth bynnag yr ydym yn gwneud.鈥�
Mae Leo, sy鈥檔 gyn-ddisgybl o Bethany School a St James Independent School for Senior Boys, yn credu mai鈥檙 peth gorau am Fangor yw lleoliad y ddinas, a pha mor agos yw hi i鈥檙 ardal naturiol wych sy鈥檔 ei hamgylchynu.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2013