Myfyrwyr 精东传媒 yn dysgu am ddechrau busnes!
Cymerodd ddeuddeg o fyfyrwyr 精东传媒 o amryw o Ysgolion academaidd y Brifysgol ran mewn cwrs busnes ar 25 Mehefin.
Roedd y cwrs dan arweiniad dau arbenigwr allanol, sef Tim Ashcroft, entrepreneur a mentor busnes profiadol o Loegr sy鈥檔 cefnogi nifer o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a graddedigion Prifysgol 精东传媒 sy鈥檔 dechrau busnes ar hyn o bryd, a Mike Chitty, arweinydd adnabyddus ym maes datblygu entrepreneuriaid a thimau ifanc.
Rhannwyd y sesiwn yn ddwy ran, sef 鈥楽o you want to start a business?鈥� - golwg ymarferol ar beth sydd ynghlwm wrth ddechrau eich busnes eich hunan, a sesiwn ryngweithiol 鈥楢 Toolkit for Entrepreneurs鈥� 鈥� cyngor ac awgrymiadau i gyw entrepreneuriaid er mwyn rhoi鈥檙 cyfle gorau iddynt i lwyddo gyda鈥檜 busnes cyntaf!
Trefnwyd y digwyddiad hwn, oedd yn rhad ac am ddim, gan y rhaglen Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ac fe鈥檌 hariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae bod yn hunangyflogedig neu weithio ar eich liwt eich hun yn golygu y gallwch fod yn fos arnoch eich hun, gwneud rhywbeth rydych yn ei hoffi a chymryd rheolaeth dros eich gyrfa eich hun. Mae鈥檙 sesiynau hyn yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar y wybodaeth a鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i ddarparu sylfaen cadarn.
Bydd cyfle i fynd ar gwrs tebyg ar 25 Gorffennaf 2012 a bydd y cwrs hwnnw ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol 精东传媒 a鈥檙 holl raddedigion diweddar sy鈥檔 byw yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan Byddwch Fentrus ac ar ein tudalen Facebook (B-Enterprising 精东传媒) am ragor o fanylion. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau, cysylltwch 芒 ni ar b-enterprising@bangor.ac.uk neu 01248 388424.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2012