Myfyrwyr 鈥楳enter trwy Ddylunio' 精东传媒 yn mynd 芒鈥檜 sgiliau entrepreneuriaeth a鈥檜 cynnyrch i鈥檙 'Dragons' Den '
Cynhelir cystadleuaeth ym Mhrifysgol 精东传媒 yr wythnos hon a all arwain at greu cynnyrch newydd i'r farchnad.
Mae un cynnyrch o gystadleuaeth flaenorol eisoes yn mynd i gael ei werthu鈥檔 fasnachol. Yn y project peilot arloesi, Menter trwy Ddylunio 2012, bydd myfyrwyr yn ceisio gwerthu eu cynnyrch yn rownd derfynol y Gystadleuaeth a gynhelir ddydd Iau, 22 Mawrth am 6.30pm yn Adeilad Wheldon, Prifysgol 精东传媒.
Mae 40 o fyfyrwyr israddedig o bum maes pwnc arbenigol yn y Brifysgol yn cymryd rhan yn 鈥楳enter trwy Ddylunio鈥�. Maent wedi eu rhannu'n dimau amlddisgyblaethol o bedwar neu bum aelod. Mae'r myfyrwyr hyn yn cystadlu i greu cynnyrch, o'r dechrau i'r prototeip, ac yna cyflwyno eu project i banel o feirniaid er mwyn cael y cyfle i ennill rhan o gronfa gychwynnol o 拢10,000 fel buddsoddiad tuag at ddatblygu, ac o bosibl creu a gwerthu eu dyluniad yn fasnachol.
Gosodir yr her eleni gan DMM, cwmni o Lanberis sy'n dylunio ac yn cynhyrchu offer dringo a mynydda at ddibenion hamdden. Mae DMM wedi sylwi bod nifer cynyddol o blant ifanc yn ymweld 芒 waliau dringo dan do, gan awgrymu bod nifer cynyddol o bobol ifanc gyda diddordeb yn y maes a all fod yn gwsmeriaid posibl. Gyda hyn mewn golwg, maent wedi gwahodd y timau i 'gynnig cysyniad cynnyrch ar gyfer plant dringwyr sy'n ymestyn ond nid yn gwanhau brand DMM'.
Yn ystod y rownd derfynol bydd y timau yn gwneud cyflwyniadau pedwar munud i鈥檙 beirniaid, gan gynnwys fideo 30 eiliad am eu cynnyrch. Mae鈥檙 panel beirniaid yn cynnwys David Noddings a Fred Hall (DMM), yr Athro David Shepherd (Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol 精东传媒),Phil Nelson (Cyfarwyddwr, Surf-Lines), Huw Watkins (Rheolwr Datblygu Busnes, BIC Innovations). Bydd panel iau o bump o blant rhwng 7-14 oed hefyd wrth law i graffu ar y cynnyrch a rhoi eu barn. Bydd cyfle i'r beirniaid fynychu Ffair Fasnach lle bydd cyfle i鈥檙 beirniaid weld prototeipiau o'r cynnyrch a gofyn cwestiynau i'r timau.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2012