Nofel arall ar y ffordd 鈥� diolch i ysbrydoliaeth yr adran
Ruth RichardsMae Ruth Richards o Ynys M么n yn paratoi at gyhoeddi ei thrydedd cyfrol o ryddiaith ac mae鈥檙 diolch i gyd, meddai, i Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Mangor.
Rhan o鈥檌 chwrs MA Ysgrifennu Creadigol oedd y nofel , a ddaeth yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac sydd wedi cael canmoliaeth uchel a dod yn un o werthwyr Cymraeg gorau鈥檙 blynyddoedd diwethaf.
鈥淔aswn i ddim wedi sgwennu dim oni bai am y cwrs,鈥� meddai Ruth Richards. 鈥淥鈥檔 i eisio sgwennu ond doedd gen i ddim o鈥檙 hyder i wneud.
鈥淢i ges i鈥檙 fath gefnogaeth, nid yn unig o ran profiad a gwybodaeth y staff ond y cyfle i drafod y broses o greu efo cyd-fyfyrwyr 鈥� oedd hynny鈥檔 beth braf.鈥�
Ar 么l cyhoeddi cyfrol o straeon byrion, nofel arall sydd nesaf, un sydd yn dathlu鈥檙 syniad o 鈥榗amp鈥� trwy gyfrwng y Gymraeg.
鈥淢ae hi am Bumed Marcwis M么n a oedd wedi difa ffortiwn ar ddillad a theatr a dawnsio,鈥� meddai Ruth. 鈥淓i henw hi ydi Siani Flewog, be arall allwn i alw nofel am ddyn efo mwstash ac yn gwisgo ffrog!鈥�
Roedd hi wedi ei hysbrydoli o weld lluniau o鈥檙 Ardalydd ym Mhlas Newydd, M么n, er nad oedd yn cael chwarter y sylw sydd yna i鈥檙 Marcwis milwrol enwocach, sydd ar un goes ar ben t诺r ym Mhorthaethwy.
鈥淥edd hwn wedi gorfod gwario arian er mwyn cael bod yn fo鈥檌 hun,鈥� meddai Ruth, sydd bellach yn gwneud Doethuriaeth gydag Ysgol y Gymraeg.
Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y nofelydd Daniel Owen a ffotograffydd cynnar o鈥檙 enw John Thomas, oedd yn ffynnu yn yr un cyfnod ac yn tynnu lluniau o鈥檙 math o bobl a chymdeithas sydd yn y nofelau.
鈥淒oethuriaeth rhan amser ydi hi, ac mae cael dewis felly鈥檔 siwtio鈥檔 berffaith, gan fy mod yn gallu cario ymlaen hefyd efo fy swydd ran-amser efo mudiad Dyfodol yr Iaith.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018