Pen-blwydd Ymgyrch Common Voice Cymraeg yn Un Oed
Heddiw (dydd Gwener 7 Mehefin, 2019) mae鈥檔 flwyddyn gyfan ers lansio鈥檙 ymgyrch Common Voice Cymraeg ( ). Mae Common Voice yn llwyfan torfoli a ddatblygwyd gan gwmni meddalwedd rhyngwladol Mozilla, ac yn ymdrech i gasglu recordiadau llais o nifer o ieithoedd y byd ar gyfer creu technoleg lleferydd cod agored yn yr ieithoedd hyn.
Eisoes mae鈥檙 Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr Prifysgol 精东传媒 wedi defnyddio鈥檙 casgliad corpws cyntaf gafodd ei ryddhau (cyfanswm o 21 awr o recordiadau) i greu鈥檙 ap adnabod lleferydd, 鈥楳acsen鈥�. Erbyn hyn, mae 41 awr wedi鈥檜 recordio a鈥檜 dilysu, a hynny gan 708 o wirfoddolwyr.
Mae鈥檙 Uned yn anelu at gasglu 100 o oriau wedi鈥檜 dilysu a chyfraniadau gan 1000 o bobl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd hynny yn eu galluogi i wella adnabod lleferydd Cymraeg a chynhyrchu rhagor o adnoddau ar gyfer siarad yn Gymraeg gyda dyfeisiau electronig.
I鈥檙 rhai sydd eisoes wedi cyfrannu, y neges gan yr Uned yw 鈥榙iolch, a chyfrannwch ragor!鈥� Os nad ydi unigolion wedi cyfrannu eto, mae鈥檙 Uned yn eich hannog i roi cynnig arni. Maent yn chwilio am acenion o bob math, gan gynnwys acenion dysgwyr, ac os nad yw unigolion yn teimlo鈥檔 ddigon hyderus i gyfrannu eu llais, gallant helpu鈥檙 Uned i ddilysu鈥檙 corpws drwy wrando ar leisiau cyfranwyr eraill.
Hoffai鈥檙 Uned ddiolch i Mozilla am gynnwys y Gymraeg yn rhan o鈥檙 project Common Voice; i Lywodraeth Cymru am ariannu鈥檙 gwaith o ddatblygu adnabod lleferydd Cymraeg; ac i am eu gwaith gwirfoddol yn hyrwyddo Common Voice Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019