Perfformio, Pontio a PhD
Katherine BetteridgeMae Cymru鈥檔 enwog am ei mynyddoedd, chwedlau a cherddoriaeth, sef yr union resymau a ddenwyd myfyriwr PhD o Halifax, Swydd Efrog i astudio ym Mhrifysgol 精东传媒.
Pan ddaeth yr amser i Katherine Betteridge i ddod o hyd i brifysgol addas, edrychodd ar yr ym Mhrifysgol 精东传媒 a oedd yn ymddangos i fod 'yr un' a fyddai'n wir yn edrych ar ei h么l. Astudiodd Katherine am radd cerddoriaeth israddedig ac uwchraddedig ym Mhrifysgol 精东传媒 ac yn 2012 dechreuodd PhD rhan amser mewn Cyfansoddi tra ar yr un pryd yn gweithio yng Nghanolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar y Brifysgol.
Yngl欧n 芒 dewis i astudio ym Mangor, dywedodd Katherine: "Rwy'n teimlo bod fy mywyd wedi blodeuo yma'n sylweddol ac rwyf wedi derbyn cefnogaeth ac anogaeth enfawr ar hyd y ffordd gan yr Ysgol a hefyd gan y Brifysgol."
Er mwyn helpu cefnogi ei hastudiaethau israddedig, gweithiodd Katherine ran-amser mewn tafarn leol, yn Llyfrgell y Brifysgol, dysgu鈥檙 ffidil a hefyd gweithiodd gydag Ensemble Cymru, ensemble preswyl y Brifysgol. Ar hyn o bryd mae hi'n dysgu myfyrwyr blwyddyn gyntaf sut i gyfansoddi mewn seminarau ac yn rhedeg gweithdai cyfansoddi achlysurol. Yn 2014 creodd Katherine fodiwl ar Frank Zappa ac mae鈥檔 ei ddysgu i fyfyrwyr cerddoriaeth sydd yn eu hail a鈥檙 drydedd flwyddyn a lefel meistr.
Katherine yn perfformio gydag Ed Holden.Ers ei gradd meistr, mae Katherine wedi bod yn cynnal gweithdai mewn ysgolion ac mae'n rhedeg pedwarawd llinynnol proffesiynol, Pedwarawd Llinynnol Eryri. Mae hefyd yn gyfarwyddwr artistig ar y cyd i gwmni celfyddydau o'r enw Exploration in Sound lle iddi ei sefydlu yn 2014 ar y cyd 芒 dwy ffrind - clarinetydd a chyfansoddwraig leol, Sioned Eleri Roberts a cerddolegydd a ffliwtydd o Ganada, Twila Bakker. Mae'r cwmni鈥檔 cynnwys gr诺p o bobl greadigol o sawl cefndir gan gynnwys cerddorion, dawnswyr, actorion, artistiaid, artistiaid gosod, gwneuthurwyr ffilmiau ac awduron stori.
Yn rhyfeddol, yn ogystal 芒 jyglo ei hastudiaethau gyda gweithio a pherfformio, mae Katherine hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiectau diddorol. Esboniodd Katherine:
"Y prosiect diweddaraf yr oeddwn yn gysylltiedig ag ef oedd project BLAS, sef cynllun , Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi'r Brifysgol, i estyn allan i bobl ifanc ym maes y celfyddydau perfformio. Prosiect cerddoriaeth a dawns oedd 'Rydych Chi Yma' a oedd yn edrych ar y lleoedd arbennig y mae pobl ifanc yn ymweld 芒 hwy yn eu dychymyg 芒'r cerddor Ed Holden sef Mr Phormula; y ddawnswraig, Sarah Mumford; chwe ysgol leol, a finnau ar y ffidil. Diweddglo'r prosiect oedd perfformiad yn Neuadd JP 芒 dawnswyr proffesiynol, Steel Rockers City o Sheffield.
"Roedd yn wirioneddol anhygoel i gael fod yn rhan o鈥檙 prosiect yma. Daeth y syniad gan Mared Huws, Cydlynydd Datblygu'r Celfyddydau Pontio, ac yr wyf yn si诺r 鈥嬧�媦 bydd pob un plentyn ac oedolyn oedd yn rhan o鈥檙 profiad yn ei gofio am weddill eu bywydau. Roedd yn wych cael gweithio gydag Ed Holden ac yr oedd y plant wrth eu boddau hefo fo. Daeth y syniadau i ffurfio鈥檙 darnau cerddoriaeth a gr毛wyd gyda'r plant o'r plant eu hunain. Roedd yn anhygoel gweld hyn i gyd yn dod at ei gilydd a鈥檜 syniadau artistig yn llifo."
Mae Katherine wedi cael sawl achlysur cofiadwy ym Mangor, o berfformio concerto gyda Cherddorfa Symffoni'r Brifysgol i arwain y Gerddorfa Far贸c am nifer o flynyddoedd. Esboniodd:
"Yn ystod fy ngradd israddedig perfformiais yr unawd Gwanwyn o鈥檙 Four Seasons gan Vivaldi gyda Cherddorfa Far贸c ac yn ddiweddarach cefais y profiad anhygoel o chwarae Concerto Ffidil Kabalevsky gyda Cherddorfa Symffoni鈥檙 Brifysgol. Yn ystod fy PhD cafodd darn wnes i ei ysgrifennu ei berfformio gan ensembles proffesiynol, er enghraifft, perfformiodd Psappha ddarn wnes i ei ysgrifennu yng Ng诺yl Gerdd Newydd 精东传媒 yn 2013. Roedd clywed fy ngherddoriaeth yn dod yn fyw gan ensemble proffesiynol yn brofiad anhygoel.
Katherine yn y digwyddiad "Exploration in Sound""Yr uchafbwynt mwyaf diweddar yw cyflwyno cynhyrchiad aml-gyfrwng hynod lwyddiannus gyda Exploration in Sound o鈥檙 enw Lie Still Sleep Becalmed yn Neuadd Powis. Arweiniwyd yn annibynnol gan fyfyrwyr, ac nid oedd unrhyw gyfyngiadau ar greadigrwydd. Bu dau berfformiad, a鈥檙 ddau wedi gwerthu allan, roedd hyn yn rhyfeddol iawn gan ystyried bod y cynhyrchiad wedi鈥檌 farchnata mewn ffordd ddirgel ac yn gyfrinachgar iawn! Roedd yr adborth a gawsom yn eithriadol o gadarnhaol ac yn dilyn hynny rydym wedi cael gwahoddiad i berfformio mewn nifer o ddigwyddiadau cyffrous yn y dyfodol. Rydym hefyd yn gweithio ar sefydlu amryw o berfformiadau 鈥榩op-up鈥� mewn lleoliadau hanesyddol diddorol o amgylch gogledd Cymru, rydym hefyd yn edrych mewn i berfformio yn Lloegr a'r Alban."
Fel llawer o fyfyrwyr, roedd rhaid i Katherine oresgyn rhwystrau wrth astudio, roedd ei hofn dwys o berfformio yn un. I oresgyn ei hofn, dysgodd Katherine am ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod, a helpodd hyn hi鈥檔 aruthrol. Mae hi hefyd wedi bod o dan bwysau aruthrol yn ystod ei chyfnod yn astudio ei graddau oherwydd y cyfuniad o weithio, perfformio ac astudio. Fodd bynnag, mae ei holl waith caled wedi talu ar ei ganfed wrth iddi ennill gradd dosbarth cyntaf ac o ganlyniad enillodd ysgoloriaeth i wneud ei meistr.
Nod Katherine yn y dyfodol yw perfformio, ysgrifennu cerddoriaeth, addysgu a theithio, a dywedodd: "Os gallaf gynnal cydbwysedd iach rhwng yr agweddau gwahanol yma, byddaf yn ferch hynod o hapus."
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2015