Pobl ein dinas: Y ffordd mae pobol ifanc 精东传媒 yn ei gweld hi
Cynllun Murlun Celf 精东传媒
Yn ddiweddar penodwyd yr artist Catrin Williams i arwain cynllun celf gymunedol 鈥楶obl Ein Dinas鈥�, prosiect ar y cyd rhwng Rhaglen Pontio, Prifysgol 精东传媒 a Fforwm Celfyddydau Gwynedd. Bwriad y cynllun yw creu murlun mawr o waith pobol ifanc 精东传媒 ar furiau safle adeiladu鈥檙 Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesedd newydd. Yn ystod y mis diwethaf mae Catrin wedi bod yn cydweithio 芒 Nia Owen, Swyddog Ieuenctid Ysgolion Uwchradd 精东传媒 ar gyfres o weithdai celf yn Ysgol Tryfan ac yng Nghanolfan Ieuenctid Maesgeirchen. Mae鈥檙 dyluniad, sydd bron wedi ei gwblhau, yn cynnwys casgliad o bortreadau鈥檙 rhai a greodd y gweithiau ynghyd 芒 phobl sy鈥檔 bwysig iddynt, eu ffrindiau a鈥檜 teuluoedd ..ac ambell gymeriad adnabyddus arall! Disgyblion Ysgol Tryfan wrthi鈥檔 creu鈥檙 murlun
Mae鈥檙 gweithdai hyn wedi cynnig cyfleoedd gwych i鈥檙 bobol ifanc gymdeithasu a gweithio fel t卯m yn ogystal ag ymarfer eu sgiliau creadigol. Drwy ymgymryd 芒鈥檙 cynllun celf hwn bydd y disgyblion yn gweithio tuag at amrywiol gymwysterau. Meddai Nia Owen, Swyddog Ieuenctid Ysgolion Uwchradd 精东传媒鈥�
鈥淢ae hi wedi bod yn bleser gweld y bobl ifanc yn datblygu yn ystod y gweithdai. Mae eu sgiliau celf wedi cryfhau a braf fydd gweld ffrwyth eu llafur yn cael ei arddangos mewn lleoliad mor amlwg yng nghanol y Ddinas.鈥�
Cyn hir bydd y gwaith yn cael ei osod ar fyrddau pren y safle adeiladu, gan wynebu ffordd brysur Deiniol, lle mae cannoedd o bobol yn pasio bob dydd i mewn ac allan o ddinas 精东传媒, Gofod teilwng i waith celf greadigol a fydd nid yn unig yn denu sylw鈥檙 cyhoedd at bosibiliadau cynhyrfus yr adeilad newydd sy鈥檔 codi o鈥檙 tu 么l, ond hefyd yn rhoi stamp unigryw ieuenctid 精东传媒 heddiw ar y lle; eu ffordd liwgar, ddoniol a difrifol nhw o weld eu hunain a鈥檙 ddinas o鈥檜 hamgylch.
Bydd murlun Pobl Ein Dinas yn cael ei ddadorchuddio mewn seremoni llawn hwyl a chyffro ar fore Iau, 8 Rhagfyr 2010 .- gyda鈥檙 artist, y cynorthwywyr a鈥檙 holl ieuenctid a greodd y gwaith yn bresennol- ynghyd a chynrychiolaeth o鈥檙 holl gyrff a gefnogodd y cynllun. Bydd yr union fanylion yn cael eu cyhoeddi yn nes at yr amser. Mae croeso i gynrychiolwyr o鈥檙 wasg a鈥檙 cyfryngau fynychu鈥檙 digwyddiad.
Ariennir y cynllun gan Fforwm Celfyddydau Gwynedd, Cyngor Gwynedd, Prifysgol 精东传媒 a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2010