R.S. Thomas 鈥� Llawysgrifau Newydd: Ychwanegiad at Gasgliad y Brifysgol
Mae dengmlwyddiant Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol 精东传媒 wedi鈥檌 nodi wrth i ddwy eitem o bwys gael eu hychwanegu at y casgliad. Y gyntaf yw casgliad sylweddol o lawysgrifau a theipysgrifau R.S. Thomas, yn cynnwys llawer o ddeunydd anghyhoeddedig, o yst芒d y diweddar Peter Jollife, casglwr blaenllaw ym maes llyfrau a llawysgrifau llenyddol modern.
Toriad papur newydd lleol, yn dangos t卯m o glerigwyr yn chwarae rygbi, yn cynnwys yr R.S.Thomas ifanc.
鈥淢ae hwn yn ychwanegiad o bwys at ddaliadau鈥檙 Ganolfan, sydd eisoes yn sylweddol,鈥� meddai鈥檙 Athro Tony Brown, un o Gyd-gyfarwyddwyr y Ganolfan.
鈥淗wn oedd y casgliad mwyaf arwyddocaol o ddeunydd gan R.S. Thomas a oedd yn dal gan unigolyn preifat ac a gynullwyd dros lawer o flynyddoedd, ac rydym yn ddiolchgar am gymorth yr Archif a鈥檙 Brifysgol er mwyn ei sicrhau. Mae鈥檙 casgliad yn cynnwys drafftiau llawysgrif o gerddi, sy鈥檔 dyddio o ddechrau gyrfa Thomas, yn ogystal 芒 gwaith diweddarach. Ceir hefyd nifer o ddarnau rhyddiaith, yn cynnwys llawysgrif cyfres o stor茂au byrion anghyhoeddedig, rhai honynt ar y cyd 芒 darluniau gan wraig Thomas, yr arlunydd Elsi Eldridge. Rydym hefyd yn falch iawn fod y casgliad newydd yn cynnwys tri llun golosg o R.S. gan Elsi, gyda dau ohonynt o鈥檙 1940au, tua鈥檙 adeg y bu iddynt briodi. Mae鈥檔 ddifyr sylwi bod y casgliad hefyd yn cynnwys toriad papur newydd yn dangos R.S. mewn dillad rygbi, ac yntau鈥檔 aelod o d卯m rygbi lleol yn Wrecsam pan oedd yn gurad!鈥�
Yn gynharach eleni cafodd y Ganolfan hefyd gasgliad sylweddol o lyfrau o lyfrgell bersonol R.S. Thomas, pan werthwyd cartref olaf y bardd, ym Mhentrefelin, gan deulu ei ail wraig, Betty Vernon. Mae鈥檙 llyfrau yn cynnwys cop茂au R.S. Thomas o waith nifer o feirdd a fu鈥檔 ddylanwad ar ei farddoniaeth, yn cynnwys gwaith beirdd Americanaidd megis William Carlos Williams a Wallace Stevens. Ceir hefyd gopi o The Great Hunger, gan y bardd Gwyddelig Patrick Kavanagh, y cydnabuwyd iddo gyfrannu at ddatblygiad portread Thomas o ffermydd mynydd-dir Cymru yn ei waith cynnar ac at lunio un o greadigaethau mwyaf cofiadwy鈥檙 bardd, Iago Prytherch.
鈥淢ae hi o hyd yn ddiddorol cael mynediad at lyfrgell bersonol awdur,鈥� meddai鈥檙 Athro Brown, 鈥渋 gadarnhau鈥檙 hyn yr oedd yn ei ddarllen ar adeg benodol. Yn anffodus, nid oedd Thomas yn rhoi rhyw lawer o sylwadau yn ei lyfrau, ond ceir ambell enghraifft o farginalia arwyddocaol iawn ar ymylon tudalennau rhai o鈥檌 lyfrau ar ddiwinyddiaeth a gwyddoniaeth.鈥�
Mae sicrhau deunydd gan Elsi Eldridge hefyd yn ychwanegu at gasgliad y Ganolfan o鈥檌 gwaith fel arlunydd a darlunydd 鈥� archif sy鈥檔 cynnwys dau ddyddiadur mewn llawysgrif, llyfrau braslunio, a llawer o ddyluniadau. Bu鈥檙 deunydd hwn yn sail yn ddiweddar i raglen deledu am ei bywyd a鈥檌 gwaith, y bu Dr Jason Walford Davies o Ysgol y Gymraeg yn y Brifysgol, a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan, yn brif gyfrannwr ac yn Ymgynghorydd Academaidd arni. Roedd y rhaglen, Pwy Oedd Mrs. R.S. Thomas?, yn tynnu sylw at waith pwysig gan yr arlunydd, 鈥淭he Dance of Life鈥� 鈥� murlun anferth ar chwe ffr芒m gynfas, a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer yr ysbyty yng Ngobowen, ond sydd wedi bod ynghudd, mewn storfa, am flynyddoedd lawer.
Meddai Dr Jason Walford Davies: 鈥淢ae hwn yn waith celf o bwys 鈥� yn wir yn un o鈥檙 gweithiau celf mwyaf arwyddocaol ym Mhrydain ers y Rhyfel. Mae鈥檔 sobor o beth nad yw gwaith mor drawiadol yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru. Mae鈥檙 murlun, sy鈥檔 pwysleisio pwysigrwydd byd natur a pheryglon technoleg fodern, hefyd yn amlygu鈥檙 hyn a welir yn achos gweithiau eraill gan Elsi, yn cynnwys ei gwaith ysgrifenedig, sef ei bod wedi dylanwadu鈥檔 sylweddol ar feddwl a gwaith ei g诺r, yn enwedig o ran ei agwedd at gefn gwlad a鈥檙 amgylchedd.鈥�
Mae rhoddion diweddar i鈥檙 Ganolfan yn cynnwys y llythyrau 鈥� cyfanswm o 152 鈥� a anfonwyd gan R.S. Thomas dros gyfnod o hanner canrif at y bardd a鈥檙 beirniad adnabyddus, Raymond Garlick. (Cyhoeddwyd golygiad Dr. Davies o鈥檙 ohebiaeth hon yn ddiweddar gan Wasg Gomer.)
Braslun o R.S. Thomas gan Elsi Eldridge
Mae鈥檙 ffaith fod y casgliadau sylweddol hyn wedi dod i feddiant y Ganolfan yn cadarnhau ei statws rhyngwladol ym maes astudio gwaith R.S. Thomas. Yn ddiweddar, croesawodd y Ganolfan nifer o ysgolheigion ar ymweliad, o鈥檙 DU ac o dramor, ac yn eu plith Ms Cheng Jia, o Brifysgol Jinan, Tsieina, a oedd ar ymweliad estynedig, ac sydd wedi cyfieithu barddoniaeth Thomas i鈥檙 Tsiein毛eg.
Cyswllt:
Yr Athro Tony Brown, els015@bangor.ac.uk
Dr Jason Walford Davies, j.w.davies@bangor.ac.uk
Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas:
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2010