Sefydliad Tai Siartredig yn dilysu modiwl israddedig
Mae'r Sefydliad Tai Siartredig wedi dilysu modiwl trydedd flwyddyn Gwyddorau Cymdeithas SXP3210 Materion Tai. Daw hyn 芒 manteision i fyfyrwyr sy'n meddwl am yrfa ym maes tai neu astudiaethau pellach yn y maes. Mae'r manteision yn cynnwys credyd rhannol tuag at aelodaeth siartredig y Sefydliad Tai Siartredig.
Dywedodd Shirley Morris, Cydlynydd Addysg y Sefydliad fod rhaglen yr Ysgol "yn fanwl iawn ac rydym yn cymeradwyo'r gwaith a aeth i ddatblygu'r modiwl tai a'r deunyddiau cyflwyno".
Y Sefydliad Tai Siartredig, a ffurfiwyd yn 1916, yw'r corff proffesiynol i weithwyr ym maes tai. Fe'i llywodraethir gan Siarter Brenhinol ac Is-ddeddfau, a ddyfarnwyd yn 1984, a'i nodau yw 鈥榌to] promote the science and art of housing, its standards and ideals, and the training and education of those engaged in the profession of housing practice鈥�.
Ystyrir aelodaeth siartredig o'r Sefydliad yn gydnabyddiaeth bwysig o arbenigedd, ymroddiad a safonau moesegol ym maes tai. Bydd myfyrwyr ar y modiwl Materion Tai a ddilyswyd gan y Sefydliad Tai Siartredig yn derbyn aelodaeth am ddim o'r sefydliad dros flwyddyn academaidd 2016-17. Mae'r manteision yn cynnwys derbyn Inside Housing yn rhad ac am ddim, prif gylchgrawn gweithwyr proffesiynol ym maes tai'r DU a'r dewis cyntaf i unrhyw un sy'n edrych am waith ym maes tai.
Dywedodd Dr Hefin Gwilym, cynullydd modiwl SXP3210 Materion Tai: "Dilyswyd y modiwl hwn gan y Brifysgol yn 2015 ac mae'n adeiladu ar y modiwlau tai a ddatblygwyd gan Dr David Hirst, y cyn uwch ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol. Bydd dilysiad y Sefydliad Tai Siartredig yn dod 芒 nifer o fuddion i fyfyrwyr yn cynnwys mynediad at adnoddau tai newydd. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth 芒'r Sefydliad."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2016