鈥楽esiwn Holi i鈥檙 Cyhoedd鈥� 鈥� a鈥檙 testun yw Newid Hinsawdd
Bydd 鈥楽esiwn Holi i鈥檙 Cyhoedd鈥� yn s么n am newid hinsawdd yn rhoi cyfle i bobl ddysgu ffeithiau, chwalu pob myth, a dysgu鈥檙 ffordd orau o weithredu yn ein hinsawdd a鈥檔 byd cyfnewidiol. Mae croeso i bawb sydd 芒 diddordeb ddod i Brif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau, Prifysgol 精东传媒, 7pm ar 29 Tachwedd 鈥� cofiwch ddod 芒鈥檆h cwestiynau gyda chi. Bydd y drafodaeth yn cael ei darlledu ar raglen 鈥楽cience Caf茅鈥� BBC Radio Wales ar 6 Rhagfyr 2011, 7pm. Adam Walton, cyflwynydd 鈥楽cience Caf茅鈥�, fydd yn cadeirio鈥檙 drafodaeth.
Y drafodaeth hon fydd y digwyddiad olaf mewn cyfres o ddarlithoedd a gynhaliwyd dros y deufis diwethaf, sef ym Mhrifysgol 精东传媒. Syr John Houghton FRS, cyn-Bennaeth y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a Phrif Weithredwr Swyddfa Dywydd y DU, yw un o aelodau鈥檙 panel. Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys Yr Athro James Scourse, Cyfarwyddwr Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru, Dr Lorraine Whitmarsh, Tyndall Caerdydd, Dr Clive Walmsley, Ymgynghorydd Effeithiau Amgylcheddol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a Jane Davidson, Cyfarwyddwraig INSPIRE, Y Drindod Dewi Sant.
Cyn y drafodaeth, bydd Jane Davidson, a arferai fod yn Weinidog yr Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru, yn traddodi鈥檙 ddarlith olaf ar 鈥楻么l Addysg mewn Newid Hinsawdd鈥�.
Drwy gydol Hydref a Thachwedd eleni mae Prifysgol 精东传媒 wedi cynnal cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn s么n am newid hinsawdd. Bob nos Fawrth am 7pm, mae dwy ddarlith wedi cael eu traddodi gan wyddonwyr blaenllaw yn eu maes o brifysgolion y Consortiwm Newid Hinsawdd 鈥� sef 精东传媒, Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe. Nod y darlithoedd yw mynd trwy鈥檙 them芒u pwysig sy鈥檔 berthnasol i newid hinsawdd gam wrth gam, gan ddechrau gyda鈥檙 ffiseg sylfaenol, yr amrywiad naturiol yn yr hinsawdd, y moroedd a鈥檙 cryosffer, a chan ganolbwyntio wedyn ar y cyd-destun Cymreig, ymatebion pobl, a鈥檙 modd y mae pobl yn dirnad newid hinsawdd. Mae criw da iawn wedi mynychu鈥檙 darlithoedd hyd yn hyn, gyda mwy na 100 o bobl ym mhob un, ac mae鈥檙 trafodaethau a gafwyd gyda鈥檙 gwyddonwyr a鈥檙 ymchwilwyr wedi bod yn werth chweil.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch 芒 Dr Saskia Pagella (E-bost: s.l.pagella@bangor.ac.uk) (Ff么n: 01248 382600), Canolfan yr Amgylchedd, Prifysgol 精东传媒.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2011