Stori ryfeddol am gyfraniad Prifysgol 精东传媒 i ddatblygiad hedfan awyrennau
Bydd stori ryfeddol am gyfraniad Prifysgol 精东传媒 at ddatblygiad hedfan awyrennau鈥檔 cael ei ddatgelu heno (Dydd Mercher 2 Tachwedd) am 6.30 mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol 精东传媒 ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau鈥檙 Brifysgol.
Bydd yr Athro TJM Boyd yn trafod y cyfan mewn darlith: "George Bryan Hartley: Prophet without Honour ".
Mae'r stori yn troi o gwmpas George Hartley Bryan, a fu鈥檔 Athro mewn Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor am 30 mlynedd o 1896. Ef oedd un o'r ysgolheigion mwyaf rhyfeddol erioed i wasanaethu鈥檙 Brifysgol. Yn fathemategydd gwych, roedd hefyd yn ddyn gyda chred bron a bod yn Feseianaidd na fyddai hedfan ddiogel oni bai i awyrennau gael eu cynllunio i fod yn sefydlog.
Ganrif yn 么l, yn 1911, cyhoeddodd Stability in Aviation, llyfr a oedd yn gyfrifol am sefydlu 精东传媒 ar flaen y gad o ran datblygiadau gwyddonol newydd. Mae casgliadau鈥檙 llyfr yn dal yn dda ar gyfer awyrennau鈥檙 presennol. Yn y b么n defnyddiodd Bryan egwyddorion mathemateg i ateb y cwestiwn o sefydlogrwydd awyrennau. Roedd ei gyhoeddiad yn ganlyniad i gyfres o arbrofion ym Mangor a'r cyffiniau, gan weithio ar sefydlogrwydd gleiderau efo WE Williams, dyn ifanc lleol a raddiodd mewn ffiseg a mathemateg o Fangor. Arweiniodd llyfr 1911 at ddyfarnu鈥檙 ail fedal aur a ddyfarnwyd erioed gan y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (Royal Aeronautical Society)- gyda鈥檙 cyntaf wedi mynd at y brodyr Wright.
Mae鈥檙 Athro TJM Boyd wedi ymchwilio鈥檔 helaeth i waith yr Athro G.H. Bryan. Roedd Athro TJM Boyd yn Athro Mathemateg ym Mangor o 1968 tan 1990, pan benodwyd yn Athro Ffiseg ym Mhrifysgol Essex. Mae鈥檙 Ddarlith Ballard Mathews "George Hartley Bryan : Prophet without Honour鈥� yn nodi canmlwyddiant gwaith mawr Bryan.
"Roedd Bryan yn aml yn tynnu鈥檔 groes", meddai'r Athro Boyd, "Enynnodd ei waith cynnar clod gan Einstein ond, ar yr un pryd, roedd y cocyn-hitio ar gyfer castiau myfyrwyr di-ri ac yn ddraenen yn ystlys Syr Harry Reichel, y Pennaeth a ddaeth i ddifaru鈥� iddo鈥檌 benodi erioed. "
Bydd yr Athro Boyd yn cyflwyno鈥檌 fersiwn o o gyfraniad 精东传媒 at stori hedfan, ac yn apelio am i鈥檙 un parch uchel gael ei dalu iddo ym Mangor ac sydd tramor - lle鈥檌 ystyrir ymysg arloeswyr hedfan.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2011