Sut mae personoliaeth yn effeithio ar gyrhaeddiad athletaidd?
Wrth berfformio ar y lefel uchaf mewn chwaraeon, mae鈥檔 bosib fod a wnelo鈥檙 gwahaniaeth rhwng ennill a cholli鈥檔 fwy 芒 phersonoliaeth na gallu athletaidd.
Er mwyn ennill 'Aur', mae鈥檔 rhaid i athletwyr fedru perfformio ar lefel uchel o dan bwysau aruthrol. Mae llwyddiant felly鈥檔 ddibynnol ar gyfuniad o'r lefel uchaf o berfformiad athletaidd a'r gallu i berfformio tra bod rhywun hefyd o dan straen personol mawr. Er bod rhai unigolion yn ffynnu o dan bwysau, mae eraill yn 'tagu' ac yn methu 芒 pherfformio cystal ag wrth hyfforddi - pan fo鈥檙 straen yn llai.
Gan gydnabod y cyfuniad hwn o athletiaeth a phersonoliaeth, mae ymchwilwyr yn y Sefydliad ar gyfer Seicoleg Perfformiad Elitaidd (IPEP) ym Mhrifysgol 精东传媒 wedi datgelu mwy am y math o bersonoliaeth sy'n perfformio orau o dan straen. Maent hefyd yn ymchwilio i sut y gall strategaethau hyfforddi gwahanol gefnogi a chymell personoliaethau gwahanol.
Mae'r Sefydliad, rhan o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, wedi ehangu鈥檙 ddealltwriaeth gyfredol o鈥檙 maes hwn, ac wedi canfod bod personoliaethau narsisaidd (pobl sydd 芒 meddwl uchel ohonynt ei hunain a'u galluoedd), sef y mathau o bersonoliaeth sy'n perfformio'n dda o dan bwysau, yn ymdrechu鈥檔 galetach hyd yn oed, pan fyddant o dan straen. Yr ochr arall i鈥檙 geiniog yw nad ydynt yn perfformio cystal mewn sefyllfaoedd lle nad oes tebygrwydd o ennill clod ac amlygrwydd.
Dr Ross Roberts, Darlithydd ac aelod o'r SefydliadMae Dr Ross Roberts, darlithydd ac aelod o鈥檙 Sefydliad yn egluro: "Rydym yn credu mai鈥檙 rheswm pam fod narsisiaid yn ffynnu yn y sefyllfaoedd hyn yw oherwydd eu bod wrth ragori o dan amgylchiadau felly, yn derbyn yr edmygedd a鈥檙 ganmoliaeth maent yn awchu amdanynt: gallech ddweud eu bod yn bersonoliaethau sy'n cael eu 鈥榞yrru gan glod ac amlygrwydd鈥�. Mae pobl 芒鈥檙 math yma o bersonoliaeth yn perfformio鈥檔 waeth mewn sefyllfaoedd lle nad yw eu dyheadau yn cael eu diwallu - lle nad oes pwysau. Yn achos pobl sy鈥檔 cymryd rhan mewn chwaraeon, gall hyn fod wrth hyfforddi neu pan nad yw hyfforddwyr yn rhoi sylw unigol i'r athletwr yn ystod gweithgareddau 't卯m'. "
Mae eu gwaith ymchwil wedi dangos y gall cyflwyno neu gynyddu elfen o gystadleuaeth ryngbersonol a chystadlu gadw diddordeb a safon perfformio鈥檙 personoliaethau narsisaidd yn ystod sesiynau hyfforddi neu sefyllfaoedd eraill heb y pwysau neu heriau sydd eu hangen i'w hysbrydoli. Ond mae'r ymchwilwyr hefyd wedi canfod fod cyflwyno'r elfen gystadleuol yn cael effaith negyddol ar yr unigolion hynny nad ydynt yn bersonoliaethau 'narsisaidd'.
Mae Calum Arthur, Cyd Gyfarwyddwr y Sefydliad yn egluro ymhellach: "O gofio bod rhaid i athletwyr yn y Gemau Olympaidd neu gystadlaethau rhyngwladol eraill, berfformio dan bwysau aruthrol, mae deall sut a pham mae personoliaethau gwahanol yn perfformio鈥檔 wahanol o dan bwysau yn hollbwysig. Fel seicolegwyr chwaraeon, rydym yn gallu gweithio gyda hyfforddwyr i deilwra dulliau hyfforddi i ddiwallu anghenion penodol athletwyr unigol. Dylai hyn arwain at hyfforddiant mwy effeithiol a mwy o berfformiadau athletaidd llwyddiannus.
Mae Aelodau o IPEP wedi gweithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, lluoedd arfog Prydain ac maent yn cydweithio'n agos 芒 Chwaraeon Cymru.
Mae hon yn un o ddau ddarn ymchwil o Brifysgol 精东传媒 sy'n cael eu hamlygu mewn adroddiad UUK:
Am ragor o straeon am ymwneud 芒 Phrifysgol 精东传媒 芒'r gemau Olympaidd ewch at ein safle: ?
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012