Te bach ar faes yr Eisteddfod yn dathlu pen-blwydd y Wladfa
Carwyn Jones gydag Elen SimpsonBeth well na 鈥榯h锚 bach鈥� traddodiadol o Batagonia i ddathlu pen-blwydd y Wladfa Gymreig yn 150 o flynyddoedd oed, ac i dynnu sylw at gasgliad unigryw ac amhrisiadwy yn ymwneud 芒鈥檙 Wladfa sydd yn cael ei harddangos ym Mhrifysgol 精东传媒 at hyn o bryd.
Ag yntau yn yr Eisteddfod, wedi iddo ddychwelyd o鈥檙 dathliadau ym Mhatagonia, bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn dod i鈥檙 鈥楾e bach鈥� ar stondin Prifysgol 精东传媒 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, am 2.30 prynhawn Llun.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: "Rwyf newydd ddychwelyd o Batagonia, lle cefais gyfle i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa, ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at ymweld 芒 stondin Prifysgol 精东传媒 ar faes yr Eisteddfod.
"Mae gan ddisgynyddion yr ymfudwyr a aeth o Gymru i鈥檙 Ariannin le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn para am amser hir, ac rwyf wedi mwynhau鈥檙 cyfle i atgyfnerthu a dathlu'r cysylltiadau cryf sydd rhyngom o hyd, er bod 7,500 o filltiroedd yn ein gwahanu."
Gan Archifau Prifysgol 精东传媒 y mae鈥檙 casgliad mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunydd yn ymwneud 芒'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae arddangosfa 鈥榊 Cymry ym Mhatagonia鈥�, sef detholiad o鈥檙 casgliad yma i鈥檞 weld ym Mhrifysgol 精东传媒 tan Rhagfyr 18 2015. Mae鈥檙 Arddangosfa ar gael yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol 精东传媒 yn ystod oriau swyddfa.
Adeiladu ffordd yn Cwm Hyfryd c1888. Yn y canol Llwyd ap Iwan mab i Michael D Jones a lofruddiwyd gan 'fandits' ym 1909. Bydd cop茂au o ddetholiad o鈥檙 Arddangosfa ar gael yn y te bach, i gyd fynd 芒 dangosiad ar daflunydd o鈥檙 ffotograffau cynnar o鈥檙 ymsefydlwyr a rhai o鈥檙 bobol frodorol, a dynnwyd gan John Murray Thomas. Bydd Archifydd y Brifysgol, Elin Simpson yn rhoi cyd-destun a Mari Emlyn yn darllen darn o lythyr gan Mihangel ap Iwan, mab Michael D Jones, yn ysgrifennu o鈥檙 Wladfa.
Cyfuniad o sawl peth a gasglwyd at ei gilydd o blith mwy na 1500 o eitemau yw Casgliad Patagonia a ddelir gan Archifau Prifysgol 精东传媒. Mae'n cynnwys llawysgrifau, llythyrau, ffotograffau, dyddiaduron, papurau newydd, llyfrau a chynlluniau'n ymwneud 芒 gwladfa Gymreig Patagonia a sefydlwyd 150 o flynyddoedd yn 么l. Mae'r dogfennau'n cyflwyno hanesion o lygad y ffynnon a thystiolaeth ffotograffig o fywydau arloeswyr ac ymsefydlwyr y wladfa, gan alluogi i ddarllenwyr fod ag empathi a dealltwriaeth o'r criw o Gymry a ymdrechodd am ryddid ieithyddol a chrefyddol gydag annibyniaeth wleidyddol 8000 o filltiroedd o'u mamwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2015