鈥楾he Future of Public Law in England and Wales鈥� 鈥� Darlith gan Ms. Sarah Nason
Mae'n bleser gan Ysgol y Gyfraith 精东传媒 gyhoeddi y bydd Ms Sarah Nason, aelod o Gr诺p Cyfraith Gyhoeddus yr Ysgol, yn rhoi sgwrs ar ei hymchwil i Adolygiadau Barnwrol yn y Deyrnas Unedig ddydd Mercher, 12 Hydref 2011.
Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol 精东传媒 yw Ms Sarah Nason. Graddiodd o Brifysgol Caergrawnt gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith ac yn ddiweddarach dechreuodd hyfforddi fel twrnai gyda chwmni o gyfreithwyr yn Llundain, Slaughter and May. Penderfynodd Ms Nason ddychwelyd i academia i ddilyn ei diddordebau yn y gyfraith gyhoeddus a mynediad at faterion cyfiawnder. Ochr yn ochr 芒鈥檙 ymchwil a gyllidir ganddi i ddyfodol adolygiadau barnwrol yng Nghymru a Lloegr, mae Ms.Nason yn astudio ar gyfer doethuriaeth yn University College Llundain ac mae鈥檔 ysgrifennu ei thraethawd ymchwil ar hyn o bryd ar athroniaeth y gyfraith gyhoeddus a dulliau newydd o sicrhau rhesymoldeb cyfreithiol.
Gwelir isod ddisgrifiad cyffredinol o thema鈥檙 ddarlith sy鈥檔 dwyn y teitl 鈥楾he Future of Public Law in England and Wales鈥�. Cynhelir y ddarlith yn ystafell A1.01, Adeilad Alun, am 2.00pm ddydd Mercher 12 Hydref 2011.
鈥楾he Future of Public Law in England and Wales鈥�.
Er bod llinach hir ac urddasol i鈥檙 cyfiawnhad barnwrol o reol y gyfraith, yn hanesyddol nid yw cyfraith gyffredin Cymru a Lloegr wedi gwahaniaethu rhwng cyfraith gyhoeddus a chyfraith breifat. Ond newidiodd y sefyllfa yn 1976 pan argymhellodd Comisiwn y Gyfraith drefn adolygu barnwrol newydd ar gyfer sicrhau rhwymediau yn erbyn cyrff cyhoeddus. Polisi a phragmatiaeth a roes fod i鈥檙 drefn newydd, nid oedd fawr ddim s么n am y cyfansoddiad nac am gyfreithlondeb yn y trafodaethau a esgorodd arni. Y rheswm pwysicaf dros orfod ffurfio awdurdodaeth cyfraith gyhoeddus unigryw oedd bod angen datrys ar frys doreth o achosion gan fewnfudwyr a fynnodd herio gorchmynion i adael y wlad.
Yn 1980 trwy gyfrwng dyfarniad gan D欧鈥檙 Arglwyddi cadarnhawyd y ffaith bod y drefn adolygu barnwrol yn un 鈥渄dethol" iawn, ac na fyddai'n bosib dwyn achos cyfreithiol yn erbyn corff cyhoeddus ac eithrio trwy wneud cais i griw bach o farnwyr pwysig oedd yn gweithio yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd. Yn 2000 ailenwyd awdurdodaeth y barnwyr hynny'n Llys Gweinyddol.
Erbyn canol y 90au roedd academyddion o Brifysgol Essex wedi datgelu anghydbwysedd daearyddol difrifol yn yr achosion cyfreithiol lle cynhaliwyd adolygiad barnwrol. Cyfran fechan iawn o鈥檙 achosion oedd wedi dod o ardaloedd helaeth iawn o Loegr; cafwyd llai na deg achos o Gymru gyfan. Mae鈥檔 amlwg bod hwn yn fater o fynediad cyfartal at gyfiawnder sy鈥檔 cyffwrdd 芒 chyfreithlondeb ein cyfraith gyhoeddus: yn fyr, os rhwystrir poblogaethau cyfan mewn rhai rhanbarthau rhag defnyddio鈥檙 system oherwydd eu lleoliad, sut y gellid ystyried y cyfryw system yn addas at bwrpas hyrwyddo rheol y gyfraith yn ein democratiaeth fodern. Mae hyn wrth gwrs yn cyd-fynd 芒 symudiad y Llywodraeth glymblaid bresennol tuag at fwy o ddatganoli a lleoleiddio p诺er y llywodraeth.
Roedd rhanbartholi鈥檙 Llys Gweinyddol ar yr agenda polisi ers peth amser, ond dim ond pan ddechreuodd y Llys Gweinyddol yn Llundain wegian o dan faich cynyddol achosion gan geiswyr lloches a mewnfudwyr, y gweithredwyd ar y mater, o dan gwmwl o d茅j脿 vu. Agorodd pedair Canolfan Llys Gweinyddol newydd yn 2009 yn Birmingham, Caerdydd, Leeds a Manceinion. Gallai goblygiadau ac effeithiau tymor hir rhanbartholi ar fynediad at gyfiawnder a'r gwasanaethau cyfreithiol sydd ar gael, ar y proffesiynau ac ar ansawdd cyffredinol ein cyfraith gyhoeddus fod yn bellgyrhaeddol.
Bellach mae Ms.Sarah Nason, yn Ysgol y Gyfraith 精东传媒, wedi ymgymryd 芒鈥檙 cyfrifoldeb dros asesu effaith y diwygiadau hynny, gyda chymorth Prifysgol Essex a鈥檙 Project Cyfraith Gyhoeddus. Mae鈥檙 ymchwil bresennol, dan nawdd Ymddiriedolaeth Nuffield a鈥檙 Academi Brydeinig, ac wedi ei gefnogi gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, wedi dechrau asesu effaith rhanbartholi ar fynediad at gyfiawnder, y farchnad ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol, ac ansawdd y gyfraith gyhoeddus. Bydd darlith Ms.Sarah Nason yn adrodd ar ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwil ac yn archwilio nifer o faterion cysylltiedig yn effeithio ar ddyfodol y gyfraith gyhoeddus Cymru a Lloegr. Trefnwyd y sgwrs gan Gr诺p Cyfraith Gyhoeddus y Deyrnas Unedig yn yr Ysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2011