Trafod nofelau'r Aifft yn Ysgol y Gymraeg
Gyda鈥檙 Aifft a nifer o wledydd Arabaidd eraill yn y newyddion ar y funud, mae鈥檔 amserol iawn bod , Prifysgol 精东传媒 yn cynnal darlith sydd yn awgrymu bod llwybr yr Aifft tuag at chwyldro i鈥檞 weld yn glir yn nofelau Eifftaidd y degawdau diweddar. Bydd yr Athro Sabry Hafez, Athro er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Qatar, yn rhoi ar 鈥楪airo a鈥檙 Nofel Eifftaidd鈥� ym Mangor ar Ebrill 1.
Meddai Dr Angharad Price: 鈥榊n Ysgol y Gymraeg rydym yn gwneud ymdrech i osod y Gymraeg a鈥檌 llenyddiaeth mewn cyswllt rhyngwladol ehangach. Dair blynedd yn 么l daeth yr awdur a鈥檙 beirniad nodedig o Kenya, Ngugi wa Thiong鈥檕, atom i drafod ei waith yn yr iaith Gikuyu. Y llynedd rhoddodd yr Athro Jeff Opland o SOAS ddarlith ar ganu mawl llwyth y Xhosa yn Affrica, ac eleni mae鈥檔 bleser mawr gennym groesawu un o arbenigwyr pennaf y byd ar lenyddiaeth Arabeg fodern atom, sef yr Athro Sabry Hafez, ac yntau鈥檔 traddodi darlith ar bwnc amserol iawn, sef llenyddiaeth gyfoes yr Aifft.鈥�
Yn frodor o鈥檙 Aifft, bu鈥檙 Athro Sabry Hafez yn ddarlithydd ym mhrifysgolion Cairo, Rhydychen, Stockholm, Los Angeles a SOAS, Llundain. Ef yw golygydd y cylchgrawn Al-Kalimah (alkalimah.net)
Wrth gyflwyno鈥檌 ddarlith, dywedodd yr Athro Hafez: 鈥榃rth astudio nofelau鈥檙 Aifft yn y ddau ddegawd diwethaf, gwelir yn eglur bod gwrthryfel yn anochel. A hynny yn union a gafwyd yn yr Aifft yn ystod yr wythnosau diwethaf: chwyldro anochel sydd yn dal i fynd yn ei flaen.鈥�
Mae poblogaeth Cairo bellach tua 17 miliwn, a mwy na hanner y bobl yn byw mewn tai dros-dro yn yr ardaloedd sianti o gwmpas canolbwynt hanesyddol y ddinas. Yr enw Arabaidd am ardaloedd o鈥檙 fath yw al-madun al-鈥榓shwa鈥檌yyah: o鈥檌 gyfieithu鈥檔 fras 鈥榙inas fympwy鈥� neu 鈥榙dinas siawns鈥�. Nid oes ynddynt na systemau carthffosiaeth na dwr gl芒n, ac mae鈥檙 strydoedd yn rhy gul i ganiat谩u mynediad i鈥檙 gwasanaethau brys. Mae gorboblogi dwys yma: mae teuluoedd cyfain yn rhannu un ystafell mewn rhai ardaloedd, ac mae llosgach yn gyffredin. Mae鈥檙 dici芒u a hen glefydau tebyg bellach yn rhemp.
Er bod poblogaeth yr Aifft wedi dyblu er 1980, nid chynyddodd y llywodraeth ei gwariant ar iechyd, addysg, tai ac yn y blaen. O ganlyniad, mae strwythur cymdeithasol bellach ar ffurf deinosor: pen bychan o gyfoethogion pwerus yn rheoli corff anferth o dlodion.
Yn ei ddarlith, bydd yr Athro Sabry Hafez yn trafod sut y mae鈥檙 amgylchiadau hyn i鈥檞 gweld yn eglur yn y nofelau a ysgrifennwyd yn yr Aifft dros y ddau ddegawd diwethaf, nid yn unig o ran cynnwys, ond hefyd yn eu 鈥榙iffyg鈥� ffurf. Mae 鈥榖lerwch鈥� di-draddodiad y nofelau hyn yn adlewyrchiad o dwf y slyms yng Nghairo ei hun, a鈥檙 rhwyg 芒 thraddodiad yn adlewyrchiad o ddieithrwch ehangach.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2011