UM 精东传媒 yn Ennill Gwobr Cysylltiadau Cymunedol
Mae wedi ennill 鈥楪wobr Cysylltiadau Cymunedol UCM Cymru鈥� yng Nghynhadledd UCM Cymru yng Ngregynog, gan guro pob cymdeithas arall yng Nghymru sy鈥檔 cynrychioli myfyrwyr wrth ennill y wobr, a hynny oherwydd y myrdd o weithgareddau a gynhelir gan UM 精东传媒 ynghyd 芒鈥檙 gymuned leol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae UM 精东传媒 wedi cynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau fel Gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd yng Nghadeirlan 精东传媒, gorymdaith Adennill y Nos o gwmpas y ddinas ac wedi cefnogi G诺yl Bwyd Conwy drwy annog ein cymdeithasau myfyrwyr i gymryd rhan mewn diwrnod thema canoloesol. Roedd Cymdeithas Ail-greu鈥檙 Canol Oesoedd yn hynod o boblogaidd yno ac maent wedi derbyn gwahoddiad i ddychwelyd yno flwyddyn nesaf.
Mae鈥檙 Undeb hefyd yn rhedeg Gwirfoddoli Myfyrwyr 精东传媒, sy鈥檔 cefnogi dros 150 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli gyda鈥檙 gymuned leol, gyda phrosiectau mor amrywiol 芒鈥檙 鈥楶rosiect Glanhau Traeth鈥� a 鈥楽bectrwm鈥�, ble bydd myfyrwyr yn gweithio gyda phlant sydd ag anawsterau dysgu. Mae eleni hefyd wedi gweld prosiectau newydd yn cael eu sefydlu hefyd - fel cynnal digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer hostel mechn茂aeth leol. Mae gwirfoddoli myfyrwyr yn mynd i dderbyn hwb sylweddol dros y 12 mis nesaf gan fod y Brifysgol ac UM yn ymroddedig i gynyddu鈥檙 cyfleoedd i fyfyrwyr 精东传媒 ennill profiadau gwerthfawr yn gwirfoddoli.
Mae ymgyrch goroesi gwastraff ddiwedd tymor UM yn mynd o nerth i nerth ac yn gweithio law yn llaw 芒 phrosiect GMB Y Rhoi Mawr gan anelu i helpu myfyrwyr wneud cyfraniad cadarnhaol i鈥檙 ddinas a bod yn drigolion parchus a thaclus, a bydd prosiect Y Rhoi Mawr yn casglu eitemau diangen gan fyfyrwyr ar ddiwedd blwyddyn ac yn eu cyfrannu i siopau elusen lleol. Yn ychwanegol eleni, cynhaliodd UM 精东传媒 ymgyrch 鈥榓flonyddu ar y stryd鈥� i dynnu mwy o sylw at broblemau yn ymwneud 芒 diogelwch (nid diogelwch myfyrwyr yn unig) o fewn y ddinas, ac fe gafodd dderbyniad da yn y wasg yn lleol.
Ffactor terfynol o ran bod 精东传媒 wedi derbyn y wobr oedd y nifer helaeth o fentrau amgylcheddol sydd wedi bod o fudd i鈥檙 amgylchedd lleol yn ogystal 芒鈥檙 campws. Arweiniodd y prosiect i geisio lleihau鈥檙 dirywiad yn niferoedd y gwenyn yn lleol i fyfyrwyr blannu miloedd o flodau gwyllt o gwmpas 精东传媒, tra bod yr Undeb yn parhau i chwilio鈥檔 barhaus am ffyrdd o leihau gwastraff myfyrwyr a鈥檙 Brifysgol.
Dywedodd Rich Gorman, Is-Lywydd Cymdeithasau a鈥檙 Gymuned:
鈥淩ydym wrth ein bodd bod ein gwaith caled wedi arwain at hyn. Rydym wedi cael blwyddyn eithriadol o brysur, yn cynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau lleol ac yn gweithredu ein mentrau ein hunain. Rydym yn gobeithio bod rhai rhannau o鈥檙 gymuned yn teimlo budd o bresenoldeb myfyrwyr yn y ddinas a鈥檙 cylch.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2012