Wyth ffilm i鈥檞 gwylio am garcharu a dianc.
Llun gan Jimmy Chan drwy Pexels.com
A ninnau鈥檔 cadw pellter cymdeithasol ac yn aros yn ein cartrefi, dyma restr o wyth ffilm i'ch hysbrydoli, yn eich caethiwed!
Gofynnon ni i Nathan Abrams, Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a鈥檙 Cyfryngau awgrymu ffilmiau am garchar a chaethiwed鈥� a braf yw cael dweud bod diweddglo hapus i bob un!
1. A Clockwork Orange (1971). Yn y ffilm dadleuol yma gan Stanley Kubrick, mae Alex DeLarge yn cael ei anfon i'r carchar ond caiff ei ryddhau鈥檔 gynnar i gymryd rhan mewn arbrawf a adwaenir fel Techneg Ludovico. Ffurf ar therapi anghymell ydyw, sy鈥檔 seiliedig ar therap茂au鈥檙 seicolegydd blaenllaw B.F. Skinner (a ymwelodd 芒 Phrifysgol 精东传媒, gyda llaw).
2. Unrhyw ffilm am Alfred Dreyfus. Iddew o Ffrancwr a Swyddog Milwrol a fu o flaen ei well mewn llys milwrol a hynny ar gam ac yntau鈥檔 ddieuog ac a gafodd ei ddedfrydu i 35 mlynedd ar yr erchyll Devil's Island yng Ngiana Ffrengig. Yn ffodus, cafodd ei ddedfryd ei gwrthdroi ac mi gafodd ei ryddhau. Mae nifer o fersiynau ffuglenol wedi ymddangos ar y sgrin fawr: cynhyrchodd Path茅 The Dreyfus Affair yn 1899, a bu dwy ffilm Dreyfus ym 1930 a 1931, ac yna The Life of Emile Zola ym 1937, I Accuse ym 1958, Prisoner of Honor ym 1991 ac An Officer and a Spy y llynedd.
3. Escape from Alcatraz (1979). Dyma ffilm a seiliwyd ar stori wir, sy鈥檔 olrhain yr unig ddihangfa lwyddiannus, yn 么l y s么n, o鈥檙 carchar enwog yng Nghaliffornia. Clint Eastwood yw seren y ffilm ac ef yw鈥檙 un sy鈥檔 dyfeisio鈥檙 cynllun manwl ac yn ei roi ar waith.
4. The Simpsons. Yn "Krusty Gets Busted," caiff Krusty鈥檙 Clown ei garcharu ar gam am ladrad arfog. Dyma Bart a Lisa鈥檔 cynnal eu hymchwiliadau eu hunain, ac yn darganfod mai鈥檙 gwir droseddwr yw ei bartner, Sideshow Bob. Yn ddiweddarach mae Krusty鈥檔 cynnal Sioe Arbennig o鈥檙 Carchar.
5. Stir Crazy (1980). Yn y ffilm gomedi hon, caiff dau gyfaill, Gene Wilder a Richard Pryor, fai ar gam am ladrad banc. Maent yn ffoi mewn rodeo.
6. Midnight Express (1978). Ffilm filain a chignoeth, am brofiadau myfyriwr o America a gafodd ei garcharu am geisio smyglo cyffuriau, ond a lwyddodd i ddianc ac adrodd ei hanes.
7. The Shawshank Redemption (1994). Addasiad o nofel fer gan Stephen King yw hon ac mae鈥檔 aml yn cael ei phleidleisio ymhlith y 10 ffilm orau erioed. Fel Escape from Alcatraz, mae carcharor yn llwyddo trwy ryfedd wyrth i ddianc a chyffwrdd 芒 bywydau ei gyd-garcharorion tra mae鈥檔 gaeth yn y carchar.
8. Papillon (1973). Stori wir arall am fywyd y carchar a Steve McQueen yn serennu, fel dyn sy鈥檔 wych am agor s锚ffs. Caiff y llysenw 鈥楶apillon鈥� (i芒r fach yr haf mewn Ffrangeg) oherwydd y tat诺 sydd ar ei frest. Cafodd yntau hefyd ei garcharu ar gam a鈥檌 anfon i Giana Ffrengig, a dianc oddi yno.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2020