Wythnos Lawn Ysgol y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn
Mae rhai o staff Ysgol y Gymraeg ymhlith y beirniaid ar dair o brif wobrau llenyddol Maldwyn a鈥檙 Gororau a gynhelir rhwng 1 a 8 Awst ym mhentref Meifod. Bydd yn beirniadu鈥檙 Fedal Ryddiaith, yn beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen a鈥檙 yn beirniadu鈥檙 Goron.
Ac mi fydd staff a myfyrwyr yr ysgol hefyd yn brysur ar hyd wythnos yr Eisteddfod.
Am 2.15 brynhawn Sul, 2 Awst, yn y Babell L锚n, cynhelir 鈥楧iolch, John!鈥�, cyfarfod i ddathlu bywyd a gwaith Yr Athro John Rowlands, y beirniad llenyddol a鈥檙 nofelydd a fu farw鈥檔 gynharach eleni. Roedd John yn un o alumni enwocaf 精东传媒 ac ar 么l ymddeol o鈥檌 swydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, dychwelodd i鈥檞 hen adran yn Athro er Anrhydedd ac yn ddarlithydd rhan-amser. Trefnir y rhaglen gan Yr Athro Angharad Price a鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams a bydd cyfeillion a chydweithwyr eraill yn cymryd rhan sef Simon Brooks, Kate Crockett, Fflur Dafydd, Bleddyn Owen Huws, Twm Morys a Si芒n Teifi. Yn syth ar 么l y cyfarfod cynhelir derbyniad ym mhabell Prifysgol 精东传媒 ar y Maes.
Am 2.15 brynhawn Llun, 3 Awst, yn y Babell L锚n, cynhelir sgwrs yng nghwmni鈥檙 i nodi cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Gerallt Lloyd Owen, Y G芒n Olaf. Bydd darlleniadau a pherfformiadau o鈥檙 cerddi gan Gwenan Gibbard a John Ogwen, dau o gynfyfyrwyr Prifysgol 精东传媒, a threfnir y cyfarfod gan Barddas.
Yn ddiweddarach bnawn Llun yn y Pafiliwn, Gerwyn Wiliams yw un o feirniaid cystadleuaeth y Goron a ddyfernir eleni am gerdd rydd ar y testun 鈥楤reuddwyd鈥�. Bydd cyfle i鈥檞 glywed yn trafod y gystadleuaeth honno mewn cyfarfod dan nawdd Llenyddiaeth Cymru yn y Lolfa L锚n bnawn Mawrth am 5.45 o鈥檙 gloch.
Cyn hynny, am 8.00 o鈥檙 gloch nos Lun, cynhelir perfformiad cyntaf Nansi, drama Angharad Price am fywyd Telynores Maldwyn, Nansi Richards, a gomisiynwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac a lwyfennir yn Y Stiwt, Llanfair Caereinion tan nos Wener, 7 Awst. Yna am 12.30 ddydd Mawrth, 4 Awst, yn y Cwt Drama, bydd cyfle i glywed Angharad yn sgwrsio am y cynhyrchiad gydag un o gynfyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, ynghyd 芒鈥檙 gyfarwyddwraig Sarah Bickerton. Cadeirydd y sesiwn fydd Dr Manon Wyn Williams, Darlithydd mewn Drama a Sgriptio dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg.
Am 5.00 o鈥檙 gloch brynhawn Mawrth yn y Pafiliwn, Angharad Price fydd un o banel beirniad Gwobr Goffa Daniel Owen a ddyfernir am 鈥榥ofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau鈥�.
Fore Mercher am 11:00 ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau actio mewn gweithdy ymarferol o dan arweiniad , cyn enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Brynhawn Mercher, 5 Awst, bydd myfyrwyr Ysgol y Gymraeg sy鈥檔 aelodau o Gymdeithas y Ddrama Gymraeg yn perfformio Panto gan Gwenlyn Parry yn Theatr y Maes. Ac yn ddiweddarach bnawn Mercher, bydd Yr Athro Jerry Hunter yn un o feirniaid y Fedal Ryddiaith a ddyfernir am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 鈥楧wy/Dau鈥�.
Dan nawdd y cylchgrawn Barddas, bydd Gerwyn Wiliams yn rhan o banel yn trafod cyflwr barddoniaeth Gymraeg gyfoes am 1.00 o鈥檙 gloch yn y Lolfa L锚n Lolfa bnawn Mercher, 5 Awst.
Fore Iau, 6 Awst, am 11.00 o鈥檙 gloch yn y Babell L锚n, bydd Peredur Lynch yn traddodi Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards ar 鈥楢wdlau Eisteddfodol 1858-2014: Pa un oedd yr orau? Pa un oedd y waelaf?鈥�
Brynhawn Gwener, am 2.45 yn y Lolfa L锚n, bydd Gerwyn Wiliams yn cymryd rhan yng nghyfarfod lansio rhifyn diweddaraf Taliesin, cylchgrawn Yr Academi Gymreig, yng nghwmni鈥檙 nofelydd Robin Llywelyn a鈥檙 gantores Gwyneth Glyn.
Ac i gloi鈥檙 wythnos brysur, ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod, 8 Awst, am 11.15 yn y Babell L锚n, bydd Angharad Price yn traddodi darlith am O! Tyn y Gorchudd, y nofel a enillodd iddi鈥檙 Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015