Y deyrnas unedig ar drothwy cynnydd sylweddol mewn lefelau clefyd yr ysgyfaint ymysg oedolion ifanc - oherwydd ysmygu spliff trwm?
Mae鈥檙 DU angen bod yn barod am gynnydd sylweddol yn y nifer o oedolion ifanc sy鈥檔 cael eu heffeithio gan ffurf ddifrifol o glefyd yr ysgyfaint oherwydd eu defnydd rheolaidd o ganabis a thybaco 鈥� dyma fydd arbenigwyr yr ysgyfaint yn ei ddweud wrth Gyfarfod y Gaeaf y Gymdeithas Thorasig Brydeinig dydd Mercher 3 Rhagfyr. Mae astudiaeth arsyllol ym Mangor, Gogledd Cymru, wedi dadansoddi cleifion a fynychodd yr Adran Achosion Brys gyda ffurf ddifrifol a chyflym o emffysema yn gysylltiedig 芒鈥檜 defnydd uchel o ganabis a thybaco. Roedd rhai cleifion yn eu 30au ac roedd sampl gyfan wedi ysmygu 5 鈥榡oint鈥� y dydd 鈥� neu fwy 鈥� am o leiaf deng mlynedd. Astudiwyd wyth claf oedd yn dangos symptomau o glefyd ysgyfeiniol rhwystrol cronig datblygedig (y term ambar茅l ar gyfer casgliad o glefydau鈥檙 ysgyfaint gan gynnwys broncitis cronig ac emffysema), o 35-48 mlwydd oed, gan ymchwilwyr yn Ysbyty Gwynedd, 精东传媒, dros 2 flynedd. Mewn pedwar achos roedd y difrod i鈥檙 ysgyfaint yn ddigon difrifol i fod angen therapi ocsigen ac mae un claf yn dal i aros am drawsblaniad ysgyfaint addas. Mae ymchwilwyr yn credu mai defnydd uchel o ganabis a thybaco yw prif achos emffysema datblygedig a ffyrnig, yn annibynnol o unrhyw ragdueddiad genetig, gan fod yr holl gleifion 芒 lefelau normal o鈥檙 genynnau alpha 1 antitrypsin a chymotypsin. Gall diffyg yn y genynnau hyn arwain at ddatblygiad clefyd yr ysgyfaint mewn rhai pobl. Mae astudiaethau ar draws y byd hefyd wedi cychwyn i ymdrin 芒鈥檙 emffysema difrifol a datblygedig hwn sy鈥檔 effeithio pobl ifanc i ganol oed sy鈥檔 defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Yn Awstralia mae ysmygu canabis trwy ddyfais 鈥榖ong鈥�, wedi arwain at gynnydd yn y cyflwr y mae arbenigwyr nawr yn ei alw鈥檔 鈥榶sgyfaint bong.鈥� Mae emffysema, cyflwr gwanychol lle mae codenni aer yr ysgyfaint wedi鈥檜 difrodi a mwyhau, yn cael ei achosi yn bennaf gan y defnydd o dybaco, ac yn hanesyddol wedi effeithio pobl yn hwyrach ymlaen mewn bywyd. Mae ymchwilwyr yn meddwl y gall ysgyfaint ddifrodi鈥檔 gynt mewn defnyddwyr canabis sy鈥檔 ysmygu鈥檙 cyffur gyda thybaco oherwydd:
Yn aml gall 鈥榡oint鈥� gael ei ysmygu heb hidlwr 鈥� gan adael ysmygwyr yn agored i gemegion niweidiol tybaco a chanabis.
Mae ysmygwyr canabis yn dueddol o fewnanadlu am hirach - gyda鈥檙 corff yn cadw mwy o鈥檙 cynnwys cemegol - gan gynyddu baich gronynnau mwg a charbon monocsid.
Mae鈥檙 llwyth cemegol trwm yn cael ei ryddhau ar dymheredd andwyol posibl
Mae canabis modern nawr yn llawer cryfach gyda photensial uwch i ddifrodi
Meddai Dr Damian Mckeon, ymgynghorydd mewn meddygaeth anadlol yn Ysbyty Gwynedd, ac Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol 精东传媒: 鈥楻ydym yn gweld pobl ifanc ar y wardiau gydag ysgyfaint sy鈥檔 ymdebygu i rai pobl 80 oed ar 么l llai na degawd o ysmygu canabis a thybaco. Roedd ein hastudiaeth ni mewn ardal wledig o Ogledd Cymru, ond credwn fod llawer mwy nag y gwyddwn amdanynt . Mae yna gymunedau o bobl ifanc ar draws y DU, yn aml yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd a diweithdra, sy鈥檔 ysmygu spliffs yn rheolaidd. Maen nhw鈥檔 rhoi eu hiechyd a鈥檜 dyfodol mewn perygl mawr. Mae canabis yn llawer cryfach y dyddiau hyn ac rydym yn gweld dyfodiad ffurf newydd difrifol o emffysema - all arwain at bobl yn brwydro am eu hanadl am weddill eu bywydau. Rydym angen astudiaeth fanwl ar fyrder ar draws y DU sy鈥檔 dadansoddi鈥檙 darlun cenedlaethol o ddefnydd canabis a chlefyd yr ysgyfaint.' Dywedodd Dr Bernard Higgins, Cadeirydd Pwyllgor Gweithredol y Gymdeithas Thorasig Brydeinig, ac ymgynghorydd ysgyfaint arbenigol yn Ysbyty鈥檙 Freeman yn Newcastle: 鈥楳ae鈥檙 astudiaeth yn ddarn bychan ond argyhoeddiadol o jig-so sy鈥檔 pwyntio at berygl real o ysmygu 鈥榡oint鈥� yn rheolaidd. Dylai鈥檙 Llywodraeth fonitro鈥檙 dystiolaeth hon sydd nawr yn ymddangos yn ofalus a chymryd hyn i ystyriaeth wrth lunio polis茂au cyffuriau ac ysmygu yn y dyfodol. Mae鈥檔 rhaid i ni wneud gymaint ag y gallwn i atal clefyd yr ysgyfaint rhag difetha bywydau cenedlaethau鈥檙 dyfodol ac mae ymgyrch addysgol arloesol yn allweddol. Mae arnom angen hefyd fwrw ymlaen 芒 rhaglenni i daclo鈥檙 rhesymau gwaelodol sydd y tu 么l i ymddygiad mentrus pobl ifanc. Rydym angen gwell data ar y darlun cenedlaethol, ac os gellir adnabod yr ardaloedd problemus gallwn wedyn dargedu gwasanaethau鈥檙 GIG ac ymdrechion ataliol yn fwy effeithiol.鈥� Mae data diweddar y Cenhedloedd Unedig yn dangos mai canabis yw鈥檙 cyffur anghyfreithlon a ddefnyddir fwyaf eang yn y byd 鈥� ac yn y DU:
dyma鈥檙 cyffur a ddefnyddiwyd fwyaf eang ymysg disgyblion 11-15 oed yn 2012 gyda 7.5% yn adrodd eu bod wedi鈥檌 gymryd yn y flwyddyn ddiwethaf
dyma鈥檙 cyffur a ddefnyddir fwyaf aml hefyd ymysg oedolion 16-59 mlwydd oed, gyda 6.4% o oedolion yn ei ddefnyddio yn 2012. Yr ail gyffur mwyaf cyffredin oedd coc锚n powdwr.
Roedd astudiaeth arall a gyflwynwyd yn y cyfarfod gan ymchwilwyr o Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Brenhinol Lerpwl a Broadgreen, wedi darganfod fod pobl oedd yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon megis 鈥榗rac鈥� a heroin bron 3 gwaith yn fwy tebygol o fod angen triniaeth ysbyty brys i鈥檞 helpu i anadlu (awyriad anymwthiol) ar 么l i鈥檞 cyflwr ysgyfaint waethygu 鈥� o鈥檌 gymharu ag ysmygwyr tybaco cyfredol neu gyn ddefnyddwyr. Darganfu darn arall o ymchwil gan uned ymchwil yr Ysbyty (Ymchwil Anadlol Brenhinol) nad oedd ysmygwyr cyffuriau anghyfreithlon yn mynychu bron i dri chwarter o鈥檙 apwyntiadau ysbyty dilynol ar 么l iddynt gael eu rhyddhau o鈥檙 ysbyty wedi i鈥檞 cyflwr ysgyfaint waethygu. Mae鈥檙 ymchwilwyr yn credu y gallai gwaith estyn allan cymunedol gynnig gwell ffordd o ymgysylltu gyda defnyddwyr cyffuriau. Gallai 鈥榮iop un stop鈥� gynnwys cyngor, gwasanaethau a thriniaeth ar gyfer eu problemau ysgyfaint a chyffuriau 鈥� gan gynnwys: adolygiad meddygol, cwnsela rhoi鈥檙 gorau i ysmygu, adolygiadau technegau mewnanadlwyr, gwiriadau meddyginiaethau a phresgripsiynau cyffuriau.
Ffynhonnell:
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014