Ymchwilwyr yn cyfarfod yn Iwerddon i drafod effaith newid yn yr hinsawdd ar bysgodfeydd pysgod cregyn
Yn ddiweddar cyfarfu ymchwilwyr SUSFISH o Gymru ac Iwerddon yng Ngholeg y Brifysgol Cork i drafod effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynnyrch pysgodfeydd pysgod cregyn masnachol ym M么r Iwerddon. Mae yn arwain y project cydweithredol hwn, dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy'n cynnull ynghyd arbenigwyr o Brifysgolion 精东传媒, Aberystwyth ac Abertawe a Choleg y Brifysgol Cork yn Iwerddon.
Yn ystod y cyfarfod trafododd yr ymchwilwyr ganfyddiadau cyfredol mewn amrywiaeth o feysydd yn cynnwys statws afiechydon a genetig poblogaethau cocos, cregyn bylchog, cregyn gleision a chrancod; effeithiau asideiddio a chynhesu鈥檙 m么r ar ffisioleg ac iechyd cregyn gleision a chrancod; effeithiau posib afiechydon newydd mewn pysgod cregyn; gwasgariad larfau ar draws M么r Iwerddon a sosioeconomeg y pysgodfeydd pysgod cregyn ar draws y rhanbarth.
Dr Shelagh Malham o鈥檙 yw cydlynydd project SUSFISH a hi a arweiniodd y cyfarfod dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Nododd: 鈥淢ae鈥檙 project hwn yn arddangos pwysigrwydd integreiddio ar draws disgyblaethau a ffiniau. Mae ein cyfarfod wedi pwysleisio ymhellach werth cydweithredu wrth ddatblygu strategaethau rheoli i adnodd naturiol cyffredin megis M么r Iwerddon. 鈥�
Bwriad SUSFISH yw llunio canllawiau ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn y dyfodol a pholisi鈥檙 diwydiant pysgodfeydd yn Iwerddon a Chymru dros y 50-100 mlynedd nesaf. Gwneir hyn trwy asesu effeithiau newid yn yr hinsawdd, trwy fodelau eigioneg, ar gynnyrch pysgod cregyn ym M么r Iwerddon. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.susfish.com <http://www.susfish.com>.
![]()
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012