Ymuno 芒 Enactus UK yn galluogi i fyfyrwyr y Brifysgol ymwneud ag entrepreuriaeth gymdeithasol
Andrew Bacon, Prif Weithredwr Enactus UK a'r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol yn llofnodi'r cytundeb.Mae鈥檔 bleser gan Brifysgol 精东传媒 gyhoeddi ei bod wedi ymuno 芒'r sefydliad Enactus byd-eang drwy danysgrifio i raglen .
Mae'r rhaglen Enactus yn galluogi i fyfyrwyr prifysgol ymwneud ag entrepreneuriaeth gymdeithasol, lle cynllunnir projectau a all wella bywydau pobl mewn cymunedau.
鈥淢ae Enactus ym manteisio ar gryfderau Prifysgol 精东传媒鈥� meddai'r Is-ganghellor, Yr Athro John G Hughes.
鈥淕allwn olrhain ein tarddiad yn 么l i enghraifft gynnar o entrepreneuriaeth gymdeithasol, pan oedd y gymdeithas leol ym Mangor yn cefnogi sefydlu coleg yma. Mae'r cysyniad hwn o drawsnewid drwy weithredu cymdeithasol ar y cyd yn parhau'n werth craidd Prifysgol 精东传媒, ac mae'n bleser gennym gefnogi ein myfyrwyr wrth iddynt sefydlu Enactus 精东传媒鈥�.
Mae'r ymateb yr ydym wedi ei gael gan fyfyrwyr wedi bod yn rhyfeddol鈥� meddai Aaron John, arweinydd myfyrwyr t卯m Enactus 精东传媒 sydd newydd ei sefydlu.
鈥淓rs mis Hydref, mae dros 50 o fyfyrwyr eisoes wedi dod yn rhan o'r rhaglen, ac rydym ni'n gweithio ar brojectau cyffrous mewn meysydd fel dosbarthu bwyd a gweithgynhyrchu cynaliadwy. Rydym ni hefyd wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y Brifysgol, gan Santander Universities a chan aelodau'r gymuned leol yma yn ardal 精东传媒鈥�
Yr Athro John G Hughes, Andrew Bacon, Envictus UK ac aelodau Pwyllgor Myfywryr cangen Enactus ym Mhrifysgol 精东传媒Sefydliad rhyngwladol dielw yw Enactus sydd wedi ymrwymo i ysbrydoli myfyrwyr i wella'r byd drwy weithredu entrepreneuraidd. Mae'n darparu llwyfan i dimau o fyfyrwyr prifysgol neilltuol greu projectau datblygu cymunedol sy'n rhoi dyfeisgarwch a doniau pobl eu hunain wrth wraidd gwella eu bywoliaeth. Mae myfyrwyr yn cael eu harwain gan addysgwyr a'u cefnogi gan arweinwyr busnes, ac yn cymryd y math o ddull gweithredu entrepreneuraidd sy'n grymuso pobl i fod yn rhan o'u llwyddiant eu hunain. Mae gan y projectau a wneir botensial i drawsnewid bywydau'r cymunedau a wasanaethir, ac yn eu tro, fywydau myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu'n arweinwyr mwy effeithiol, sy'n cael eu symbylu gan werthoedd.
鈥淢ae'n bleser gennym groesawu Prifysgol 精东传媒 fel aelod o Enactus UK鈥� meddai Andrew Bacon, Prif Weithredwr Enactus UK.
鈥淢ae brwdfrydedd yr arweinwyr myfyrwyr wedi creu argraff arnom yn arbennig, ynghyd 芒 nifer y myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn cyn lleied o amser. Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer llwyddiant Enactus 精东传媒鈥�
Ym Mhrydain, mae dros 2,800 o fyfyrwyr prifysgol yn ymwneud 芒 chynllunio a chynnal amrywiaeth o brojectau entrepreneuriaeth gymdeithasol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau bron i 60,000 o bobol ym Mhrydain ac mewn gwledydd sy'n datblygu. Y llynedd, yn Johannesburg, bu i'r t卯m myfyrwyr o Brifysgol Southampton ennill cystadleuaeth Cwpan y Byd Enactus, lle'r oedd 1700 o brifysgolion o 36 o wledydd yn cystadlu. Mae eu projectau yn ceisio darparu atebion hirdymor i broblemau glanweithdra, ansawdd d诺r, entrepreneuriaeth ac addysg yn Kenya.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2016