Yn hyblyg ac ymhobman- ac eto gall fod y bab诺n wrth risg
Bab诺n Chacma (Papio ursinus) benyw Argae Sunset, Is Sabie, Parc Cenedlaethol Kruger, De Affrica: Bernard DUPONT cc-by-sa-2.0Er ei fod mor gyffredin i rai ardaloedd yn Affrica Is-Sahara fel eu bod yn cael ei ystyried yn boendod i rai cymunedau, mae ymchwil newydd yn dangos y gall hanner y chwe rhywogaeth o fab诺n sydd yn bresennol yn y rhanbarth fod mewn peryg o beidio ag oroesi erbyn canol y ganrif.
Er bod y rhan fwyaf o rywogaethau o fab诺n yng nghategori 鈥榦 Bryder Lleiaf鈥� n 么l Rhestr Goch yr IUCN o Rywogaethau wrth Risg, mae papur diweddar yn y Journal of Biogeography yn datgelu y gallent brofi ymdrech i fodoli o dan amodau hinsawdd y dyfodol.
Daw鈥檙 risg i鈥檞 goroesiad o ystyried dim ond y ffactorau newid hinsawdd sydd wedi ei gyflyru gan ddynoliaeth. Os yw primat mawr hyblyg dan risg mewn cyfnod o amser mor fyr. A ddylai cadwraethwyr ail feddwl y modd y maent yn dosbarthu categor茂au risg i gynnwys effeithiau newid hinsawdd sydd eisoes dan gychwyn?
Yn 么l Izzy Winder o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 精东传媒 a fu鈥檔 arwain yr ymchwil:
鈥淵r hyn sydd yn ein synnu am ein canfyddiadau yw, nid yn unig nad yw鈥檙 rhan helaeth o fab诺ns dan fygythiad ar hyn o bryd, heblaw am un math, bab诺n Guinea, sydd yn cystadlu am dir efo bab诺ns cyfagos ac yng nghategori鈥� Agos at Fygythiad (Near Threatened), ond eu bod yn cael eu hystyried yn hyblyg, o safbwynt ecolegol. Ni fyddai neb wedi rhagweld eu bod mewn perygl- maent yn medru gwneud y gorau o gyfleoedd, maent yn ysbeilio cnydau ac yn dwyn pethau oddi ar dwristiaid. Fodd Bab诺n Melyn, (Papio cynocephalus), Parc Cenedlaethol Serengeti, Tansania : cc-by-3.0 D. Gordon E. Robertsonbynnag, yr hyn yr ydym wedi ei ddarganfod yw y bydd rhai rhywogaethau鈥檔 dioddef colli tir lle allant ffynnu o dan amgylchiadau posib yn 2050 a 2070.鈥�
鈥淥s mae risg wrth rywogaethau fel hyn, yna gall llawer mwy o rywogaethau fod wrth risg anuniongyrchol cyffredinol, o effeithiau dynol sydd yn lledaenu ymhobman wrth i ni fynd ymhellach i oes yr Anthropos卯n.鈥�
Meddai Dr Kimberley Hockings, Darlithydd mewn Gwyddorau Cadwraeth ym Mhrifysgol Exeter ac aelod o Gr诺p Arbenigwyr Primat yr IUCN:
"Hyd yn hyn mae ymchwil wedi canolbwyntio ar fygythiadau uniongyrchol i brimatiaid, fel colli cynefin neu鈥檙 fasnach mewn cig anifeiliaid gwyllt. Mae鈥檙 astudiaeth yma鈥檔 tanlinellu鈥檙 pwysigrwydd o ddeall yr effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol a ddaw yn sgil ddynoliaeth, ar ymddygiad a gwasgariad, ac yn awgrymu y dylid cynnwys newidiadau hinsawdd i鈥檙 dyfodol yn ein strategaeth cadwraeth. Mae tuedd i gymryd y bydd primat sydd yn medru byw mewn sawl cynefin ac amgylchiadau, fel y bab诺n a macac, am oroesi鈥檔 eithaf da yng ngolwg pwysau dynnol, ond mae鈥檙 ymchwil newydd hwn o bwys o ran herio鈥檙 honiad. Dyma obeithio y bydd eu deallusrwydd a鈥檜 hyblygrwydd yn ei darparu gyda鈥檙 modd i oroesi mewn byd sydd yn newid."
O dan oruchwyliaeth Izzy, fe gwblhawyd yr ymchwil newydd gan Sarah Hill, fel rhan o鈥檌 gradd Meistr MZool gydag Ymddygiad Anifeiliaid. Bu Sarah鈥檔 asesu lle fyddai鈥檔 bosib i鈥檙 bab诺ns fyw o dan 12 rhagamcaniad hinsawdd gwahanol ar gyfer pob rhywogaeth o fab诺n. Canfuwyd y byddai tri o鈥檙 chwe rhywogaeth o fab诺n mewn perygl.
Mam Bab诺n Olewydd gydag un ifanc a baban ar y gwair tu allan maes campio ym Mharc Cenedlaethol Kibale, Uganda: llun gan Izzy WinderEsboniodd Sarah mwy am eu canlyniadau: 鈥淓drychom ar gynhesu gan 2.6 gradd a 6 gradd, ar amgylchiadau gwlypach a mwy sych ac roedd yr hyn a ganfyddom yn peri syndod. Roedd bab诺n Chacma neu fynydd mewn perygl dim ots beth oedd y rhagamcaniad newid hinsawdd- bydd eu poblogaeth yn gostwng wrth iddynt golli tua chwarter eu tir. Mae bab诺n Guinea wrth risg nodedig os yw鈥檙 newid hinsawdd yn dod ag amgylchiadau cras yn ei sgil, a ni fydd y bab诺n Kinda yn ffynnu o dan ragamcaniadau hinsawdd i鈥檙 dyfodol, ond mae bygythiad arbennig iddynt os fydd y tywydd yn gynhesach ac yn wlypach. Mae鈥檔 bosib y bydd dwy rywogaeth yn ymestyn, ac nid oedd un rhywogaeth i鈥檞 weld am gael ei effeithio gan newid hinsawdd.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019