Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a'r Dyniaethau - Efrydiaeth PhD Dair Blynedd ym Maes y Gymraeg / Astudiaethau Celtaidd a gyllidir gan yr AHRC
Gwahoddir ceisiadau gan Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau ym Mhrifysgol 精东传媒 am un o Efrydiaethau PhD yr AHRC ym maes y Gymraeg/Astudiaethau Celtaidd, a fydd yn dechrau ar 1 Hydref 2013. Ym maes eang Astudiaethau Celtaidd, cydnabyddir bod gan Fangor wir ragoriaeth ar gyfer astudio Cymraeg, a gall y rhaglen ymchwil ganolbwyntio ar unrhyw faes sy鈥檔 berthnasol i lenyddiaeth Gymraeg o鈥檙 Oesoedd Canol hyd at y presennol. Gellir canolbwyntio hefyd ar feysydd sy鈥檔 gymharol eu natur, gan gysylltu鈥檙 Gymraeg 芒 meysydd astudio megis Hanes Cymru, Crefydd, Archaeoleg, Cerddoriaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, Astudiaethau Arthuraidd, Ieithoedd Ewropeaidd, Astudiaethau Diwylliannol a Theori ynghyd ag Ideoleg Wleidyddol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar record academaidd gadarn, gan gynnwys gradd BA (neu gyfwerth). Dylent feddu ar radd Meistr (neu fod wrthi鈥檔 astudio ar gyfer gradd Meistr ar hyn o bryd), ond rhoddir ystyriaeth hefyd i brofiad proffesiynol perthnasol. Rhaid i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt y gallu a鈥檙 dyfalbarhad i gwblhau traethawd PhD o fewn cyfnod yr ysgoloriaeth. Telir ffioedd llawn a bydd deiliad yr ysgoloriaeth yn derbyn lwfans o 拢13,590 y flwyddyn. Mae grantiau鈥檙 AHRC yn agored i ymgeiswyr o鈥檙 DU a鈥檙 UE. Ond gallai ysgoloriaethau i ymgeiswyr o鈥檙 UE fod yn gyfyngedig i grant ar gyfer ffioedd yn unig. Trefn ar gyfer gwneud cais Y dyddiad cau yw 5pm dydd Gwener 7 Mehefin 2013 a chynhelir cyfweliadau鈥檔 ddiweddarach yn ystod y mis hwnnw. Rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio Ffurflen Gais 脭l-radd Ar-lein y Brifysgol sydd ar gael yma. (i gael fersiwn Gymraeg o鈥檙 ffurflen, gofalwch bod y gosodiad iaith ar eich gwe-borwr wedi ei roi ar 'Cymraeg' a chliciwch i gael y dudalen gywir).
Bydd disgwyl i chwi ddarparu鈥檙 holl ddogfennau ategol y gofynnir amdanynt yn y ffurflen gais ar-lein, gan gynnwys amlinelliad o鈥檙 maes ymchwil (dim mwy na 1000 o eiriau). Yn yr amlinelliad hwnnw dylech grybwyll y materion a ganlyn:
(i) Unrhyw brofiad perthnasol o ran ymchwil, a disgrifiad byr o鈥檙 hyn y buoch yn ei astudio hyd yma ym maes addysg uwch.
(ii) Y maes ymchwil y carech weithio ynddo ac amcan bras o鈥檙 hyn y byddech yn gobeithio ei gyflawni yn eich traethawd PhD.
(iii) Os ydych wedi gwneud cais drwy sefydliad addysg uwch arall am un o efrydiaethau鈥檙 AHRC, dylech ddatgan hynny gan nodi enw'r sefydliad neu sefydliadau. Sylwer: Wrth ateb Cwestiwn 3, dan Eitem 5 y Rhestr Wirio ar y ffurflen gais ar-lein (鈥楢 ydych yn ymgeisio am Broject neu Efrydiaeth Ymchwil a hysbysebwyd gan Brifysgol 精东传媒? Os ydych, nodwch lle clywsoch am y Project neu Efrydiaeth Ymchwil AC ysgrifennwch deitl llawn y project yma') mae angen i ymgeiswyr nodi'r hyn a ganlyn: Efrydiaeth 2015 a gyllidir gan yr AHRC 鈥� PhD Cymraeg / Astudiaethau Celtaidd
Am wyaeth bellach am yr ysgoloriaeth hon, cysylltwch 芒鈥檙 Athro Peredur Lync p.i.lynch@bangor.ac.uk), neu鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams ( gerwyn@bangor.ac.uk) Ysgol y Gymraeg, Coleg y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau, Prifysgol 精东传媒, 精东传媒, Gwynedd, LL57 2DG. (ff么n 01248 382240).
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2013