Ysgol Seicoleg 精东传媒 i chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil 拢1.1.M MRC yn ymwneud 芒 dibyniaeth a mania
Bydd , Prifysgol 精东传媒 yn gwneud ymchwil i driniaeth ffarmacolegol newydd ar gyfer afiechydon seiciatrig. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 精东传媒 a Phrifysgol Rhydychen, a Phrifysgol British Columbia, wedi cael nawdd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i werthuso gallu cyffur newydd i leihau ymddygiadau byrbwyll a gysylltir 芒 dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal 芒 mania.
Dywedodd yr Athro Robert Rogers, sy'n arwain cyfraniad Prifysgol 精东传媒 at yr ymchwil; " Mae ymddygiadau byrbwyll yn nodwedd arwyddocaol o ddibyniaeth a chlefydau eraill megis anhwylder deubegynnol. A gall byrbwylltra gymhlethu triniaeth, er enghraifft, trwy ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl 芒 phroblemau camddefnyddio alcohol neu gyffuriau yn llithro'n 么l. Serch hynny, ar hyn o bryd, nid oes dim ymyriadau effeithiol i helpu pobl i ymdopi 芒'r agwedd hon ar yr afiechydon hyn. Bydd Prifysgol 精东传媒 yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at y gwaith arbrofol hwn a fydd, os llwydda, yn gosod y sylfeini ar gyfer treialon clinigol dilynol mewn cleifion.
Rhoddwyd 拢1,113,146 o nawdd i gyd a daw'r arian trwy Gynllun Ariannu Llwybrau Datblygol y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Dr John Parkinson, Pennaeth Gweithredol yr Ysgol Seicoleg:
鈥溾�淢ae'r ysgol wrth ei bodd yn croesawu'r Athro Rogers sydd newydd ymuno 芒 ni o Adran Seiciatreg Prifysgol Rhydychen. Mae diddordeb Robert mewn seicoffarmacoleg yn ychwanegiad gwirioneddol gyffrous i'n portffolio ac mae ei gyfraniad at yr ymchwil hon dan nawdd y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ddatblygiad newydd sbon i'r ysgol. Mae'n arbennig o werthfawr yng nghyd-destun ymgyrch strategol Llywodraeth Cymru i brifysgolion Cymru ennill y math yma o nawdd."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2014