Ysgolion Gogledd Cymru鈥檔 buddsoddi mewn cystadleuaeth sgiliau busnes a chyllidol
Cafodd myfyrwyr o bob cwr o ogledd Cymru gyfle i brofi cyffro a chynnwrf delio ar lawr masnachu byw diolch i fenter a drefnwyd gan Brifysgol 精东传媒 o'r enw Her y Farchnad Stoc.
Cymerodd 100 o fyfyrwyr o ddeg o ysgolion ran yn y fenter a gynhaliwyd ddydd Mercher 4 Gorffennaf ym Mhrifysgol 精东传媒. Trefnwyd y digwyddiad gan Ysgol Busnes 精东传媒 ac fe鈥檌 cefnogwyd gan HSBC.
Rhannwyd y myfyrwyr Blwyddyn 12 yn dimau bach, a'r her oedd defnyddio eu sgiliau i reoli portffolio o gyfranddaliadau ac arian tramor. Penderfynwyd ar eu buddsoddiadau trwy ddehongli a dadansoddi gwybodaeth o'r marchnadoedd arian. Cynhaliwyd sesiwn ddwy awr o ffug fasnachu byw a'r t卯m gyda'r portffolio uchaf ei werth ar ddiwedd y sesiwn oedd yn fuddugol.
Ian Hardy o HSBC yn cyflwyno Ysgol St Gerard鈥檚 精东传媒, enillwyr Her y Farchnad Stoc 2012, gyda鈥檜 gwobr: aelodau o鈥檙 t卯m yw Hannah Niesser, Anna Jones, Sacha Healey, Harriet Ohri a Bethan Humphreys gyda鈥檜 hathro Mr Paul Hanlon a Dr Rhys ap Gwilym o Ysgol Busnes 精东传媒.
Cafodd Ysgol St Gerard鈥檚, 精东传媒 fuddugoliaeth ysgubol ar y llawr masnachu gyda chronfa werth 拢88,600 oedd wedi ei rheoli鈥檔 arbennig o dda. Nid oedd yr ail orau sef Ysgol Eirias, Bae Colwyn yn bell ar eu h么l gan wneud elw sylweddol o 拢60,800.
Eleni cynigiodd y noddwyr gyfle i gannoedd o fyfyrwyr gael y profiad yma trwy roi trwydded am ddim i adnodd ar-lein Her y Farchnad Stoc i bob ysgol a gymerodd ran. Yn y cyfnod yn arwain at y sesiwn, bu athrawon y Fagloriaeth Gymreig, Astudiaethau Busnes a Mathemateg yn cynnal cystadlaethau yn yr ysgolion i ddewis y pum disgybl a fyddai'n eu cynrychioli.
Meddai Rachel Thomas 鈥� Cyfarwyddwr Rhanbarthol PFS HSBC "Mae Her y Farchnad Stoc yn ffordd wych i bobl ifanc o ysgolion ar draws gogledd Cymru i ddod i ddeall y byd busnes ac ar yr un pryd ddatblygu eu sgiliau a chael hwyl. Mae鈥檙 fenter yn cyd-fynd yn dda 芒鈥檔 hamcanion cymunedol ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion i ddefnyddio鈥檙 hyn a ddysgwyd yn yr ysgol mewn sefyllfa ariannol hynod o realistig, a defnyddio eu safbwynt gwreiddiol eu hun."
Meddai Meinir Llwyd o Ysgol Busnes 精东传媒: 鈥淵m Mhrifysgol 精东传媒 credwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn canolbwyntio ar ddatblygu cymwysterau a sgiliau ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau bod y sylfaen sgiliau priodol yn ei lle i fanteisio ar gyfleoedd am swyddi'n awr ac yn y dyfodol. Mae mentrau megis Her y Farchnad Stoc yn rhoi cyfle i ni gyflwyno鈥檙 brifysgol i bobl ifanc ac ar y pryd pryd helpu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes i ystyried cymhwyster gwerthfawr ym maes cyllid, bancio neu gyfrifeg."
Yr ail orau, t卯m Ysgol Eirias: aelodau yw Danish Yasin, Morgan Williams, Patrick Atkinson, John Casson a Henry Holden.
Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones: "Rwy'n falch bod myfyrwyr ar draws Gogledd Cymru wedi cael y cyfle unigryw i brofi bywyd ar y llawr masnachu. Mae hyn yn rhoi blas i fyfyrwyr ifanc o鈥檙 byd gwasanaethau ariannol a busnes a chyfle, nid yn unig i ystyried gyrfa yn y dyfodol ym maes gwasanaethau ariannol, ond hefyd i ddatblygu sgiliau gyda'u harian personol.
"Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gan bobl ifanc ystod lawn o sgiliau bywyd a fydd yn ddefnyddiol iddynt ar gyfer y dyfodol: i reoli cyllidebau, trafod ag aelodau'r t卯m a dadansoddi a dehongli gwybodaeth.
"Yr wyf yn si诺r y bydd y fenter hon yn helpu myfyrwyr Gogledd Cymru ddatblygu'r rhinweddau arweinyddiaeth sydd ei angen arnynt i fod yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes a chyllid."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012