Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld 芒 Chanolfan BioGyfansoddion Prifysgol 精东传媒
Ymwelodd Ysgrifennydd Economi a Thrafnidiaeth Cabinet Llywodraeth Cymru 芒 Chanolfan BioGyfansoddion Prifysgol 精东传媒 yn ddiweddar, i weld enghreifftiau o waith ymchwil cydweithredol y ganolfan.
Mae'r Ganolfan yn rhedeg projectau ymchwil cydweithredol i ddatblygu technolegau cynaliadwy gyda bioddeunyddiau sy'n lleihau effaith y deunyddiau ar yr amgylchedd. Mae'r Ganolfan yn gweithio gyda chwmn茂au amlwladol mawr, mentrau bach a chanolig eu maint, micro gwmn茂au a sefydliadau ymchwil sydd 芒 diddordeb gostwng y potensial sydd iddynt o ran cynyddu'r cynhesu byd-eang.
Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates AC, gyda Dr Adam Charlton a Dr Rob Elias yn y Ganolfan BioGyfansoddion ym Mona
Croesawyd Ken Skates AC i'r cyfleusterau ym Mharc Diwydiannol Mona gan Gyfarwyddwr y Ganolfan, Dr Rob Elias, ac fe gafodd glywed am y projectau cydweithredol canlynol:
BEACON: Dyma bartneriaeth a ariennir gan EDRF rhwng Prifysgolion Aberystwyth, 精东传媒 ac Abertawe. Bu cydweithio 芒 busnesau bach a chanolig yng Nghymru ar brojectau sy'n troi biomas yn amrywiaeth o gynhyrchion bio-seiliedig, gan gynnwys, agrogemegion, biodanwyddau, polymerau arbenigol a bio-ddeunyddiau newydd at ddibenion adeiladu a phecynnu.
Nod y project Pro-Enrich yw datblygu protinau a chynhwysion bioactif ymarferol newydd o had-r锚p, olewydd, tomatos a ffrwythau sitrws i'w defnyddio mewn bwyd, colur, bwyd anifeiliaid anwes a gludyddion. Mae consortiwm y project yn cynnwys 16 o bartneriaid o 7 gwlad (y Deyrnas Unedig, Denmarc, yr Almaen, Ffrainc, Sbaen, Slofenia a Gwlad Groeg).
Nod y project SBRI, a ariennir ar y cyd gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru (Bwyd a Diod Cymru), yw datblygu cynhwysion bwyd swyddogaethol newydd o fwyd dros ben y diwydiant bwyd yng Nghymru a'u defnyddio yn lle cynhwysion sy'n llawn calor茂au megis braster, yn y mathau o fwydydd sydd sy'n arbennig o boblogaidd gan blant ysgol Cymru. Project ar y cyd ydyw rhwng Pennotec Ltd, Cybercolloids Cyf, y Ganolfan BioGyfansoddion a'r Ganolfan Technoleg Bwyd (Gr诺p Llandrillo Menai, Llangefni).
Project ar y cyd yw M么n Naturals rhwng M么n Naturals Ltd a Phrifysgol 精东传媒, ac mae'n ymchwilio i nodweddion gwrthficrobaidd ac gwrthffyngaidd moddion naturiol a ddatblygwyd dros genedlaethau ar Ynys M么n, i drin llosgiadau a chyflyrau ar y croen. Mae'r cwmni'n datblygu'r cynnyrch hwn o dan frand Eliawen a bydd yn cael ei lansio fis Awst 2018, a hynny fel cynhwysyn mewn colur i ddechrau.
Project ar y cyd yw'r SafeBioPack rhwng y partneriaid yn y Deyrnas Unedig, sef Tesco, Parkside, Nextek a Gludyddion SciTech a Phrifysgol 精东传媒 a'u partneriaid ym Malaysia. Mae'r project yn datblygu amrywiaeth o ddeunyddiau pacio bioblastig a mwydion wedi eu mowldio i'w defnyddio ar gyfer cig a chynnyrch ffres.
Meddai Ysgrifennydd yr Economi: 鈥淩oedd yn bleser cael ymweld 芒 Chanolfan BioGyfansoddion Prifysgol 精东传媒 a chlywed mwy am eu gwaith arloesol wrth ddatblygu technolegau cynaliadwy sy鈥檔 lleihau effaith negyddol nifer fawr o ddeunyddiau ar yr amgylchedd.
鈥淢ae gan y Ganolfan bartneriaethau gwirioneddol ar waith 芒 nifer o gyrff rhyngwladol 鈥� o gwmn茂au mawr i gwmn茂au meicro a chanolfannau ymchwil 鈥� ar brojectau a fydd yn gyrru datblygiad mewn modd sy鈥檔 gynaliadwy ac a fydd hefyd yn lleihau ein 么l-troed carbon. Mae hyn yn adlewyrchu鈥檔 union yr hyn sydd yn fy Nghynllun Gweithredu Economaidd ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at gael clywed mwy am ganlyniadau鈥檙 gwaith cyffrous yma.鈥�
Ategwyd hyn gan Gyfarwyddwr y Ganolfan BioGyfansoddion, a ddywedodd:
鈥淩oeddem yn falch iawn o groesawu鈥檙 Ysgrifennydd Cabinet yma i鈥檔 safle ym Mona. Roedd yn gyfle i ni ddangos iddo rai o鈥檙 projectau sydd gennym ar y cyd 芒 chwmn茂au lleol a rhyngwladol, a fydd yn arwain at arloesedd gwirioneddol a chyfleoedd masnachol. Mae cael y cyfleusterau a鈥檙 arbenigedd sydd gennym ni yma yn bwysig i鈥檙 Brifysgol a鈥檙 rhanbarth ac rwy鈥檔 falch iawn o lwyddiannau ein timau ymchwil.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2018