Partneriaeth Gydweithredol, yn cynnwys Cytundebau Trosglwyddo
Cofrestr o Ddarpariaeth ar y Cyd
Dylai Ysgolion sy鈥檔 dymuno datblygu partneriaeth gydweithredol 芒 darparwr arall yn y sector Addysg Uwch gadw鈥檙 pwyntiau isod mewn cof:
- Cyfrifoldeb Prifysgol 精东传媒 yw safonau academaidd yr holl gymwysterau a ddyfernir yn ei henw.
- Rhaid i amcanion addysgol sefydliad cyfrannog fod yn gydnaws ag amcanion y Brifysgol. Bydd unrhyw bartner, gorau oll, yn sefydliad uchel ei statws a hanes o lwyddiant ac enw da, yn benodol ym maes ymchwil. Fodd bynnag, bydd y Brifysgol hefyd yn ystyried partneriaethau a allai chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y sefydliad a鈥檙 staff, yn benodol mewn sefydliadau tramor. Bydd y Brifysgol yn ystyried creu partneriaethau er mwyn datblygu rhaglenni sy鈥檔 gymorth i wireddu ei hamcanion ei hun ac amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Rhaid sefydlu鈥檙 holl bartneriaethau, yn cynnwys cytundebau trosglwyddo, gan ddefnyddio鈥檙 drefn sydd wedi鈥檌 phennu yn y the Cod Ymarfer ar Gyd-ddarpariaeth.
- Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaeth ar y Cyd
Am fwy o gyngor ac arweiniad, cysylltwch ag Ansawdd a Safonau (qualityandstandards@bangor.ac.uk).
Ffurflenni Diwydrwydd Dyladwy ac Asesu Risg
Sylwch:
Bydd y Swyddfa Cynllunio a Data Myfyrwyr yn cydlynu asesiad risg, diwydrwydd dyladwy, a chynllunio busnes ar gyfer partneriaethau categori A.
Ar gyfer partneriaid rhyngwladol, y Ganolfan Addysg Ryngwladol yw鈥檙 prif gyswllt rhwng yr Ysgol neu鈥檙 Ysgolion ac unrhyw bartner rhyngwladol yn ystod trafodaethau rhagarweiniol yngl欧n 芒 sefydlu partneriaeth ryngwladol. Yn achos sefydlu neu adnewyddu partneriaethau categori B, bydd y Ganolfan Addysg Ryngwladol yn cydlynu asesiadau risg a gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy.
Bydd y Ganolfan Addysg Ryngwladol yn cydlynu trefniadau i sefydlu ac adnewyddu rhaglenni cyfnewid myfyrwyr categori D ffurfiol gyda sefydliadau tramor sy鈥檔 cynnwys asesiadau risg, gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy a rhoi cytundebau.
- Diwydrwydd Dyladwy: Partneriaethau Categori A1
- Diwydrwydd Dyladwy: Partneriaethau Categori A2
- Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol 鈥� Cam Cyntaf
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori B 鈥� Memorandwm Dealltwriaeth
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori B 鈥� Trefniadau Cydweddu
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori D1 鈥� Cyd-oruchwyliaeth dros fyfyrwyr ymchwil; ymchwil neu cefnogaeth dysgu mewn sefydliad partner
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori D2 鈥� Rhaglenni Masnachol
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori D4 鈥� Astudio dramor
Cefnogaeth i Bartneriaid Rhyngwladol
Mae gan y Brifysgol dair partneriaeth addysgu fawr ledled y byd. Rydym wedi ymrwymo I ddarparu profiad addysgu a dysgu cyfatebol i fyfyrwyr. Mae uwch enwebedig o fewn Ysgolion yn darparu hyfforddiant a datblygiad staff, yn enwedig o ran asesu. Darperir adnoddau yma i鈥檔 galluogi I rannu arfer gorau.