Sut rydw i鈥檔 cael tystysgrif gofrestru (ar gyfer Treth Cyngor, etc)
Myfyrwyr yn cael eu heithrio rhag talu Treth Cyngor
鈥楾reth ar gartrefi鈥� yw 鈥楾reth Cyngor鈥� a chaiff ei chasglu gan gynghorau lleol i helpu talu am y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae myfyrwyr prifysgol llawn-amser yn cael eu heithrio rhag talu treth cyngor.
Caiff myfyriwr llawn-amser ei ddiffinio fel rhywun sy鈥檔 astudio am fwy na 21 awr yr wythnos am fwy na 24 wythnos y flwyddyn. Rhaid i鈥檙 cwrs barhau o leiaf un flwyddyn academaidd neu flwyddyn galendr.
Anfonir rhestrau o holl fyfyrwyr cofrestredig llawn-amser Prifysgol 精东传媒 at y cynghorau canlynol yn rheolaidd:
Cyngor Sir Gwynedd
Cyngor Sir Ynys M么n
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Sefydlwyd y drefn hon 芒 chynghorau lleol i arbed i fyfyrwyr orfod gofyn am ddogfennau eithrio o dreth cyngor gan y Brifysgol, gan y gellwch nawr gadarnhau eich statws fel myfyriwr drwy gysylltu鈥檔 uniongyrchol 芒鈥檆h awdurdod lleol. Bydd y cynghorau鈥檔 defnyddio鈥檙 wybodaeth hon i ddibenion treth cyngor yn unig. Rhowch wybod i鈥檆h landlord bod y system hon wedi鈥檌 sefydlu bellach, pe bai nhw鈥檔 gofyn i chi gael tystysgrif eithrio o dreth cyngor, gan na fydd angen hynny fel rheol mwyach.
Fodd bynnag, bydd angen i chi ofyn am Dystysgrif Eithrio o Dreth Cyngor gan y Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr yn yr achosion canlynol:
Os nad ydych yn byw yn un o鈥檙 ardaloedd uchod
Efallai y bydd ar eich rhieni angen tystiolaeth eich bod wedi鈥檆h eithrio.
Sylwer nad oes ar fyfyrwyr angen Tystysgrifau Eithrio o Dreth Cyngor ar gyfer llety sy'n eiddo i'r brifysgol.
Gwneud Cais am Dystysgrif Eithrio o Dreth Cyngor
Cyn gofyn am dystysgrif eithrio bydd angen i chi sicrhau bod eich cyfeiriad cyfredol yn ystod adegau tymor yn gywir. Gellwch wneud hyn drwy logio i鈥檙 system myfyrwyr drwy my精东传媒, lle gellwch ddiweddaru eich manylion os oes angen
www.bangor.ac.uk/student-administration/faq/answers/tq30.php.cy
I wneud cais am dystysgrif cofrestru, mae angen i chi wneud cais drwy'r system geisiadau ar FyMangor.
FyMangor -> Gwasanaethau Ar-Lein -> Canolfan Gais -> Tystysgrif Cofrestru
Pan dderbyniwch eich Tystysgrif Eithrio, dylech naill ai ei rhoi i鈥檆h landlord neu ei hanfon at y cyngor, yn dibynnu ar y trefniadau yn eich cartref.
Os ydych yn dymuno cael eich gadael allan o'r trefniant trosglwyddo data uchod gyda Chynghorau lleol, e-bostiwch gweinyddiaeth-myfyrwyr@bangor.ac.uk os 聽gwelwch yn dda, yn nodi eich rhif adnabod myfyriwr Prifysgol 精东传媒.