Lauren Evans
(Athroniaeth a Chrefydd, 2017)
Yn gyntaf, rwy鈥檔 ddiolchgar am y profiadau a鈥檙 ffrindiau gydol oes a wnes i ym Mhrifysgol 精东传媒.
Arwyddair Prifysgol 精东传媒 yw 'gorau dawn deall'. Enillais ddoniau lu a graddiais o Brifysgol 精东传媒 yn 2017 gyda gradd BA(Anrh) 2:1 uwch. Rhoddodd y radd wybodaeth imi am grefyddau gan gynnwys Bwdhaeth a Shinto ac Islam, a phynciau Athroniaeth gan gynnwys Freud a Nietzsche a Plato. Datblygais sgiliau mentora hefyd yn Arweinydd Cyfoed yn ystod yr Wythnos Groeso, er mwyn helpu myfyrwyr newydd fy mhwnc ymgartrefu a chael eu traed tanynt. Rwy鈥檔 cofio yn ystod un Wythnos Groeso, daeth myfyriwr ataf a minnau鈥檔 aros i gr诺p o fyfyrwyr gyrraedd y man cyfarfod, ac roedd ganddo ddiddordeb yn y llyfr yr oeddwn yn ei ddarllen. Cawsom sgwrs fer ac roedd yn awyddus i ddarllen y llyfr. Dyna sgwrs fach a wnaeth fy nghyflwyno i fywyd prifysgol. Er ei bod yn sgwrs ddymunol, wnaeth hi ddim arwain i unlle, ond mi wnaeth llawer o sgyrsiau eraill a gefais. Er enghraifft, trwy fentro fy nghyflwyno fy hun i'r myfyrwyr eraill yn fy ngharfan, mi wnes i ffrindiau da yr euthum gyda nhw i ddarlithoedd a digwyddiadau cymdeithasol. A s么n am gyfeillgarwch, ym Mangor y cyfarf没m 芒 rhai o鈥檓 ffrindiau oes, a 鈥榥ghariad i ar y pryd (sy鈥檔 hanu o Ffrainc), a arweiniodd at sawl antur dramor.
Roedd llawer o gymdeithasau anhygoel i ddewis o鈥檜 plith ac er na chedwais at rai ohonyn nhw, fel caiacio (a oedd yn hwyl), deuthum o hyd i gymunedau yng Nghymdeithas Amser Te Prifysgol 精东传媒 (BUTTS) a'r Gymdeithas Gemau PenBwrdd. Roedd yr olaf yn cynnwys chwarae llawer o gemau bwrdd newydd a hwyliog a ysgogodd ambell i gyfeillgarwch gwych. Esblygodd un cyfeillgarwch at wylio hen ffilmiau fel Casablanca a South Pacific am sawl noson! Arweiniodd cyfeillgarwch arall, nad oedd yn gysylltiedig 芒鈥檙 gymdeithas honno, at wylio鈥檙 rhan fwyaf o ffilmiau Tinkerbell. Profiad nid ofnadwy, yn wir pleserus braidd 鈥� yn enwedig y cwmpeini. Arweiniodd trydydd cyfeillgarwch at wylio holl ffilmiau Star Wars am y tro cyntaf. Yn y pen draw, a ddylwn i fod wedi gwneud gradd mewn ffilm o bosib, o ystyried faint o ffilmiau wnes i eu gwylio?!
Ar 么l astudio athroniaeth Plato a Bwdhaeth, roeddwn yn awyddus i blymio'n ddyfnach i'r ddau bwnc; felly penderfynais wneud gradd Meistr mewn Bwdhaeth. Ar 么l imi benderfynu yngl欧n 芒 phwnc fy nhraethawd hir, daeth alegori ogof Plato鈥檔 rhan o'r traethawd hir fel cynrychioliad o drawsnewid. Yn y diwedd, roedd y traethawd hir yn agos at dderbyn gradd Dosbarth Cyntaf ac roeddwn yn falch o鈥檙 gwaith a wneuthum arno. Yn gyffredinol, mwynheais fy ngradd Meistr yn fawr. Roedd darlithwyr profiadol iawn yn dysgu鈥檙 cwrs a oedd wedi bod i鈥檙 gwledydd a oedd yn cael eu trafod ac a oedd 芒 lluniau o鈥檙 gwrthrychau oedd yn cael eu dadansoddi.
Roedd byw yn Llundain, tra oeddwn yn astudio, hefyd yn anhygoel ac yn Llundain y cwrddais 芒 ffrind gydol oes arall a oedd yn byw yn yr ystafell drws nesaf yn llety鈥檙 merched lle鈥檙 oeddem yn byw. Mae hi bellach yn byw yn America, ac rwy鈥檔 gobeithio hedfan yno rhyw ddydd i ymweld 芒 hi! Yn ogystal, yn ystod fy amser yn Llundain, b没m yn gweithio gydag asiantaeth morynion bwrdd a chefais gyfle i weithio mewn llefydd ysblennydd ledled Llundain. Llefydd fel Madame Tussauds, Oriel Saatchi, Maes Criced Lords a'r In and Out (Clwb y Llynges a鈥檙 Fyddin) a'r Frenhines a'r teulu brenhinol yn bresennol!
Aildaniodd fy ngradd Meistr fy mrwdfrydedd dros ymchwil, a llyfrau, a gwneud cysylltiadau rhwng pynciau y mae cryn dipyn o debygrwydd rhyngddynt yn y pen draw. Fodd bynnag, roeddwn yn colli llyfrgell hanesyddol 精东传媒, sy'n lle hardd y tu mewn a'r tu allan, ac a oedd yn lle gwych i astudio. Rwy'n cofio rhentu DVD o'r Archifau, mynd ag ef adref, a darganfod nad oedd DVD yn y cas! O hynny ymlaen, gwyddwn y dylwn fynd at ddesg y dderbynfa a gofyn am y ddisg.
Ar 么l fy ngradd Meistr, gwyddwn fy mod i am aros yn Llundain. Llwyddais i gael r么l lletygarwch yng Ngholeg y Brenin Llundain, lle b没m yn gweithio am flwyddyn cyn symud i Ffrainc. Aeth y gr诺p cyfeillion roedd gennyf yn Ffrainc 芒 mi鈥檔 么l i ddyddiau 精东传媒 oherwydd inni fwynhau te gyda'n gilydd a threulio llawer o brynhawniau neu nosweithiau鈥檔 chwarae gemau bwrdd neu gardiau. Ar un ystyr, cefais ail-fyw rhai o agweddau gorau fy mywyd fel myfyriwr israddedig tra oeddwn yn byw yn Ffrainc. Oherwydd Covid roedd hi鈥檔 anodd gweld y ffrindiau hynny, ond fe wnaethon ni ddefnyddio galwadau fideo, a threulio nifer o nosweithiau鈥檔 bwyta a sgwrsio. Ers hynny, dychwelais i鈥檙 Deyrnas Unedig ac ar hyn o bryd rwy鈥檔 gweithio ym Mhrifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn yn helpu ac yn cefnogi myfyrwyr, ac mae hynny鈥檔 rhoi boddhad mawr imi.
Ers imi raddio o Brifysgol 精东传媒, rwyf wedi tynnu fy hun allan o鈥檙 byd cyfarwydd lawer gwaith ac ennill profiadau anhygoel o ganlyniad i hynny. Fy awgrym i鈥檙 sawl sy'n darllen hyn o lith yw ceisio mynd allan o'ch byd cyfarwydd a gweld pa antur y gallai fynd 芒 chi arni.