Haia, enw fi di Siriol ac dwi鈥檔 yr ail flwyddyn yn astudio Cymraeg efo theatr a鈥檙 cyfryngau.
Gan fy mod i鈥檔 astudio Cymraeg efo theatr a鈥檙 cyfryngau, yn amlwg mae鈥檙 pynciau Cymraeg drwy gyfrwng y Gymraeg
ond wedyn mae 'na opsiwn i ddewis y modiwlau theatr neu鈥檙 cyfryngau yn Gymraeg neu Saesneg.
Nes i ddewis astudio nhw鈥檔 y Gymraeg gan mai Cymraeg yw鈥檔 mam iaith i, dwi鈥檔 gyfforddus yn ysgrifennu ac astudio yn y Gymraeg.
Swni鈥檔 deud mai鈥檙 mantais mwya o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ydi fod dosbarthiadau fel arfer yn fach iawn.
Yn fy nosbarth i mae 'na mond 10 ohoym ni sydd meddwl fod 'na gyfle i gael sylw 1-yn-1 gan y darlithwyr.
Mae 'na gyfle i gael perthynas agosach efo鈥檆h darlithwyr, ac efo鈥檆h dosbarth chi. Mae鈥檔 hawdd iawn gwneud ffrindiau.
Fyswn i wir yn hybu i fyfyrwyr eraill astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn amlwg mae鈥檙 dosbarthiadau yn llai, ond hefyd mae 'na lot o gyfleoedd profiad gwaith ac mynd ar 鈥榩lacements鈥� gwaith hefyd,
oherwydd fod yna lai o fyfyrwyr sydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae yna fwy o gyfleoedd felly.
Ac hefyd os dachi wedi dod o coleg neu ysgol lle dachi wedi bod yn astudio drwy鈥檙 Gymraeg,
mae鈥檔 lot haws symud i mewn i wneud gwaith y Brifysgol gan fod gennych chi yr un terminoleg ac yr un iaith.
Pan oeddwn yn y chweched ddosbarth ddoth Coleg Cymraeg i鈥檔 ysgol uwchradd i son am y cyfleoedd i gael efo Coleg Cymraeg.
Nes i ennill grant Ysgoloriaeth Cymhelliant oedd yn help mawr efo costau brifysgol yn cymdeithasu, ac hefyd adnoddau dysgu, ac pres gwario just i fi fy hyn.