Cydnabyddir Alwyn fel un o hoelion wyth gwyddoniaeth yng Nghymru yn arbennig drwy Gymraeg. Ychydig sydd wedi gwneud mwy a gweithio yn galetach ac y fwy ymarferol, i bontio鈥檙 gagendor anffodus a welir yn rhy aml rhwng y diwylliant traddodiadol Cymraeg a gwyddoniaeth a thechnoleg.
Fel ernes o鈥檌 statws academaidd, etholwyd Alwyn yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011, blwyddyn ar 么l ei sefydlu, ac yn y naw degau fe oedd yn Bennaeth ar Yr Ysgol Beirianneg Electroneg ym Mhrifysgol 精东传媒.
Ond i laweroedd o blant Cymru ei gyfraniadau i鈥檙 Urdd ac i鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol oedd amlycaf a phwysicaf. Gyda chefnogaeth frwd, Ella ei wraig, arweiniodd cangen yr Urdd ym Mhorthaethwy am flynyddoedd. Bu hefyd yn weithgar yn Wersyll Glan-llyn a fel Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol a鈥檙 Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.
Eto nid fel pwyllgor-ddyn y cofir Alwyn. Roedd yn berson ymarferol; yn sbardun ar gyfer y gystadleuaeth i bobol ifanc 鈥� 鈥榃il i鈥檞 Wely鈥� - yn Genedlaethol ac yn gymorth mawr i ddatblygiad yr arlwy wyddonol a thechnoleg yn ein Prifwyl a鈥檙 Urdd. Ar un cyfnod, credwn, Alwyn oedd yn gyfrifol, yn bersonol ac yn gwbl wirfoddol, am y sain o鈥檙 llwyfan yn y Genedlaethol. Trefnodd hefyd y goleuo mewn cynyrchiadau a dram芒u rhif y gwlith. Derbyniodd Y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Dinbych yn 2013 fel cydnabyddiaeth o鈥檌 holl gyfraniadau.
Peirianneg ymarferol oedd dil茅it Alwyn ac yn addas, derbyniwyd i鈥檙 Orsedd fel Alwyn Peiriannydd. Roedd yn giamstar ar gweud teclynnau. Amser maith yn 么l prynodd un o鈥檙 awduron declyn mesur pH a gynllwynwyd gan Alwyn a鈥檌 ddefnyddio yn y lab am flynyddoedd.
Er iddo gael ei eni ym Mhwllheli, hogyn Llanrwst oedd Alwyn ac un o gynnyrch disglair yr Ysgol Ramadeg. Aeth wedyn i Fangor i astudio peirianneg electroneg cyn i鈥檙 chwyldro electronig gwedd newid ein bywydau. Ymlaen i Fanceinion i weithio ar systemau storio data ac hefyd derbyn gradd meistr mewn Mathemateg. Gwariodd pum mlynedd yn yr Atomic Energy Research Establishment yn Harwell yn gweithio ar osgilosgop transistoraidd samplu cyntaf yn y byd a dyfeisiadau eraill. Yno yn drist iawn fe farwodd Enid ei wraig gyntaf, yn ifanc. Denwyd yn 么l i Fangor fel darlithydd yn ei hen adran lle bu yn rhan annatod or drefn am bron i 40 mlynedd. Fel uwch ddarlithydd mewn peirianneg electronig bu dylanwad Alwyn ar genedlaethau o fyfyrwyr peirianneg yn anferthol. Parhaodd 芒鈥檌 gysylltiadau gyda Harwell, a bu鈥檔 oruchwylydd ar nifer o fyfyrwyr doethuriaeth llwyddiannus, gan gymhwyso ei ddealltwriaeth ddofn o dechnoleg prosesu signalau ac electroneg analog. Roedd ei ddoniau ymarferol yn chwedlonol yn yr ysgol, er enghraifft ei allu i newid cynhwysiant trydanol cylched electronig trwy grafu鈥檙 copr i ffwrdd gyda ebill dril rhwng ei fys a鈥檌 fawd a thrwy hynny wella perfformiad y gylched ymhell tu hwnt i鈥檙 disgwyl. Yn ogystal 芒鈥檙 doniau peirianyddol yma, roedd cyngor doeth Alwyn yn yr ysgol yn golygu fod Alwyn yn ran bwysig o brofiadau ac atgofion staff a myfyrwyr dros y degawdau. Bydd chwith mawr ar ei 么l yn Stryd y Deon.
Cofiwn Alwyn fel dyn hynaws, cyfeillgar, hwyliog a dibynadwy. Un yn llawn hwyl a direidi ond yn weithgar ac yn ymroddgar. Roedd yn aelod ffyddlon o sawl mudiad yn lleol gan gynnwys Clwb yr Efail. Yn nodweddiadol ohono yn 92 rhoddodd ei papur diweddaraf ir Efail ar ei gysylltiad teulu a llwyth enwog y Closiaid o Nant Peris ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth sydyn. Nid oedd mewn iechyd da am sawl blwyddyn ond roedd yn ymdrechu, gyda cymorth Ella a鈥檌 gyfeillion, i ddod i gyfarfod Cymdeithas Wyddonol Gwynedd a鈥檙 Efail ac i fynychu digwyddiadau eraill o gwmpas y Fenai.
Cafodd Ella ac Alwyn dri o plant Angharad, Aneurin a Rhiannon. Roedd ei deulu, yma yng Nghymru ac yn yr Amerig, yn hynod pwysig iddo ond teg nodi ei bleser arbennig bod un o鈥檌 gwrion yn dilyn oel ei droed yn astudio ffiseg a pheirianneg yn CERN ac yn Rhydychen.
Bydd colled mawr ar ei 么l yn yr ysgol, yn yr ardal ac yn genedlaethol.
Yr Athro Gareth Wyn Jones a Dr Iestyn Pierce