Mae Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol 精东传媒 yn drysor. Gan ymestyn dros 44 erw ar hyd Y Fenai sy'n unigryw yn ecolegol, mae'r ardd yn hafan o heddwch yn ogystal 芒 labordy byw sy'n cynnwys pyllau, dolydd, a chasgliad enwog o blanhigion t欧 gwydr. Fodd bynnag, mae鈥檙 ardd mewn cyflwr ffyniannus heddiw oherwydd gr诺p ymroddedig o selogion i raddau helaeth: Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth.
Etifeddiaeth o Gefnogaeth
Sefydlwyd Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth yn 1997 a'i chofrestru fel elusen yn 2008, a gwnaed hyn er mwyn diogelu dyfodol yr ardd a chefnogi ei hamcanion gwyddonol ac addysgol. Mae'r hyn a ddechreuodd fel gr诺p bach o selogion wedi tyfu i fod yn rym gweithredu cymunedol cryf, sydd bellach yn cynnwys mwy na 500 o aelodau.
Mae maint eu cyfraniad yn hynod. Bob blwyddyn, mae tua 60 o wirfoddolwyr gweithredol yn cyfrannu dros 12,000 awr o waith yn yr ardd (nid yw鈥檙 ffigur hwn yn cynnwys y swm enfawr o waith sy'n gysylltiedig 芒 gweinyddu a rheoli digwyddiadau a chodi arian). Mae llawer o鈥檙 gwirfoddolwyr hyn yn weithwyr proffesiynol wedi ymddeol ac yn cynnwys cyn-fyfyrwyr Prifysgol 精东传媒/Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Maent yn dod 芒 chyfoeth o arbenigedd mewn garddwriaeth, cadwraeth, technoleg gwybodaeth a rheoli projectau i gefnogi'r gweithgareddau hyn. Nid yw eu gwaith wedi'i gyfyngu i arddio ymarferol yn unig; maent yn rheoli cofnodion planhigion, yn trefnu ac yn rhedeg llyfrgell, yn cefnogi'r aelodaeth (e.e. gyda gweithgareddau addysgol a newyddlen ddwywaith y flwyddyn), yn rhoi cyngor i staff a hyd yn oed yn cynorthwyo gyda dylunio gerddi strategol.
Effaith Diriaethol a Cherrig Milltir Diweddar
Mae'r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a'r Cyfeillion wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiadau diweddar arwyddocaol sy'n rhoi Treborth ar y llwyfan cenedlaethol:
- Aur Chelsea: Yn 2024, enillodd "Gardd Maint Cymru" fedal aur yn Sioe Flodau Chelsea'r RHS cyn cael ei hailblannu yn Nhreborth.
- Casgliadau Cenedlaethol: Mae Gardd Fotaneg Treborth wedi cael ei chydnabod yn swyddogol gan yr elusen Plant Heritage fel Casgliad Planhigion Cenedlaethol庐 ar gyfer rhedyn brodorol Cymru. Dyma'r casgliad cenedlaethol cyntaf i gydnabod planhigion brodorol Cymru.
- Adnoddau Newydd: Mae cwmpas yr ardd wedi ehangu i gynnwys gerddi meddyginiaethol llysieuol Tsieineaidd a Chymreig ("Project Gardd y Ddwy Ddraig"), ysgol goedwig bwrpasol ac mae鈥檔 rheoli rhaglen ailddatblygu coetir fawr gwerth 拢250,000, sef y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG), a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Eich Rhoddion ar Waith
Mae cefnogaeth ariannol gan Gyfeillion Gardd Fotaneg Treborth yn hanfodol ar gyfer gweithrediadau beunyddiol yr ardd. Yn y flwyddyn ariannol 2024鈥�25 yn unig, cododd y Cyfeillion 拢34,000 drwy danysgrifiadau, rhoddion, a'u digwyddiadau gwerthu planhigion hynod boblogaidd.
Mae'r cronfeydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gymuned y Brifysgol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyfeillion wedi ariannu:
- Tri aelod o staff rhan amser i gynnal y tiroedd.
- Dau fwrsariaeth 么l-radd i fyfyrwyr sy'n gwneud ymchwil hanfodol yn yr ardd.
- Offer hanfodol, gan gynnwys gorsaf dywydd awtomatig ac offer cynnal a chadw hollbwysig.
Ymuno 芒'n Cymuned
Mae llwyddiant Treborth yn dibynnu ar egni parhaus ei gwirfoddolwyr a'r rhai sy鈥檔 rhoi rhoddion ariannol. Boed yn gynorthwyo gyda chynnal digwyddiad, pobi cacennau ar gyfer digwyddiad gwerthu planhigion, darparu cefnogaeth archifol, neu gynnig rhodd ariannol, mae pob cyfraniad yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd unigryw hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Os hoffech ymuno 芒 ni i gyfrannu'n gadarnhaol at ddyfodol Gardd Fotaneg Treborth, gallwch ddefnyddio'r wefan i ddod yn aelod neu roi rhodd."
Dysgwch fwy a gweld digwyddiadau sydd i ddod yn: