精东传媒

Fy ngwlad:

Chwilio am Archifau a Llawysgrifau

EIN CASGLIADAU

Rydym yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal 芒 chasgliadau archifol eraill.

Mae un ffactor yn gyffredin i鈥檙 holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.

Gellir rhannu'r daliadau archifol yn 3 gr诺p

Cofnodion y Coleg

Mae cofnodion y coleg yn ffurfio canran uchel iawn o ddaliadau Adran yr Archifdy. Mae eu ffurf yn amrywio鈥檔 fawr, o ohebiaeth, ffotograffau, cardiau post, effemera printiedig, rhaglenni, a chynlluniau, i doriadau papurau newydd, llyfrynnau, printiadau a chofnodion. Maent yn ymwneud 芒 phynciau megis adeiladau鈥檙 Brifysgol, gwahanol gronfeydd, aelodau o鈥檙 staff, clybiau a chymdeithasau, cyngherddau, streiciau a phrotestiadau, neuaddau preswyl, cynadleddau, ysgoloriaethau ac yn y blaen. Maent yn dyddio o鈥檙 cyfnod cyn sefydlu鈥檙 brifysgol yn y 1880au, i鈥檙 1980au.   

Casgliadau Arbennig

Mae鈥檙 rhain yn cynnwys papurau ystadau a theuluoedd Sir F么n, Sir Gaernarfon, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd yn bennaf. Serch hynny, mae yma gasgliadau o bapurau gan athrawon a darlithwyr y Brifysgol, haneswyr, hynafiaethwyr, ffermwyr, gw欧r busnes a gweinidogion yr efengyl. Hefyd, papurau twrneiod a chyfreithwyr lleol, cofnodion i blanhigfeydd yn Jamaica ac India鈥檙 Gorllewin, a chofnodion hela. Maent yn dyddio o鈥檙 12fed ganrif hyd heddiw. Cliciwch yma am restr o'r casgliadau arbennig.

Y Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau 精东传媒

Mae hwn yn gasgliad amrywiol o bapurau mewn gwahanol ffurfiau: cofnodion llenyddol, hanesyddol a hynafiaethol o gyrff crefyddol ac addysgol; cofnodion perchnogaeth tir ac eiddo; archifau personol a theuluol; cofnodion ffermio a chofnodion amaethyddol; cofnodion o natur wleidyddol; cofnodion achyddol ac yn y blaen. Maent yn dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif hyd heddiw.

Chwilio am Archifau a Llawysgrifau

Mae gan yr Archifau i alluogi defnyddwyr i chwilio drwy filoedd o ddisgrifiadau o lawysgrifau unigol a gedwir yn y Brifysgol.

Er bod y gronfa ddata yn cynnwys miloedd o ddisgrifiadau, rydym yn annog defnyddwyr i gadw mewn cof bod y catalog yn waith ar y gweill. Er bod data newydd yn cael ei ychwanegu'n rheolaidd, nid yw gwybodaeth am rywfaint o'n casgliad ar gael yma eto. Cliciwch yma am restr o'r catalogau sydd ar gael ar-lein.

Mae gan yr wybodaeth am ein holl Gasgliadau Arbennig Archifol a chanran helaeth o鈥檔 Casgliad Cyffredinol. Mae'r wybodaeth, ar hyn o bryd, ar lefel casgliad ac yn rhannol ar lefel eitem.

Gellir gwneud ceisiadau am fanylion pellach neu ddisgrifiadau lefel eitem i'r Adran. Gweler y dudalen Cysylltwch 芒 Ni.

Mae disgrifiadau hefyd ar gael ar . Pan fyddwch yn cynnal chwiliad, cofiwch nodi eich bod yn chwilio drwy gatalog Casgliad Archifau Prifysgol 精东传媒 yn unig.

Mae yna hefyd gatalog cardiau yn yr ystafell ddarllen sy'n gweithredu fel canllaw i'r holl Gasgliadau Arbennig a Chyffredinol. Fe'i trefnir o dan enwau personol, pwnc a lleoedd. Gall darllenwyr newydd sydd am edrych ar y mynegai cardiau ofyn am arweiniad gan staff yr Archifau.
 

Chwilota Catalog ar-lein yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Dyma fideo byr i鈥檆h cynorthwyo i chwilio drwy gatalog ar lein yr archifau a chasgliadau arbennig.

Y ffordd symlaf o chwilota ydi i deipio gair neu derm yn y blwch ar dop dde y sgrin ac yno clicio ar y botwm canfod. Er enghraifft, wrth chwilota am y term 鈥榝urlough鈥�, mae dwy eitem yn ymddangos ar y rhestr o ganlyniadau. Cliciwch ar un o鈥檙 eitemau er mwyn cael disgrifiad mwy manwl.

Dyma lythyr a ysgrifennwyd gan Isiah Brookes Jones yn 1906. Os am weld y llythyr yma yn yr archifdy, neu, am wneud cais am gopi ohono, gwnewch gofnod o鈥檙 rhif cyfeiriad. Yn yr achos yma, BMSS/29381.
Uwchben y disgrifiad, fe welwch bod cofnod o ba gasgliad yn union y daw yr eitem yma. Ynghyd a manylion am leoliad yr eitem oddi fewn i鈥檙 casgliad.

Cliciwch ar y botwm nesaf ar waelod y sgrin i weld disgrifiad o鈥檙 eitem arall oedd ar y rhestr o ganlyniadau. Mae鈥檙 wybodaeth ar ben y sgrin yn datgelu fod yr eitem yma yn perthyn i gasgliad o鈥檙 enw Porth yr Aur. Mae modd darganfod mwy am y casgliad yma drwy glicio ar y teitl fel hyn.

Mae modd defnyddio mwy nag un gair i chwilota a gallwch ddefnyddio鈥檙 arwydd 鈥榩lws鈥� i wneud hyn. Er enghraifft, wrth chwilota o dan 鈥榮laves鈥� a鈥檙 enw lle 鈥楥larendon鈥�, fe gawn restr o ganlyniadau sy鈥檔 cynnwys y gair 鈥榮laves a鈥檙 enw 鈥楥larendon鈥�.

Beth am wneud chwiliad arall.

Mae modd defnyddio鈥檙 arwydd 鈥榤inws鈥� er mwyn eithrio gair o鈥檙 chwiliad. Mae鈥檙 rhestr o ganlyniadau yma yn dangos cofnodion hefo鈥檙 enw lle 鈥樉解�� ond heb yr enw 鈥榰niversity鈥�.

Mae鈥檔 bwysig dewis y geiriau cywir wrth chwilota a gallwch ddefnyddio dyfynodau dwbl er mwyn gwneud hyn. Wrth chwilota am 鈥楻ailway Station鈥� hefo dyfynodau dwbl, fe gewch ganlyniadau lle mae鈥檙 dau air yn ymddangos gyda鈥檌 gilydd yn yr union drefn.

Os yw鈥檙 ffordd syml yma o chwilota yn darganfod gormod o ganlyniadau, mae modd i chi fireinio eich chwiliad drwy glicio ar y botwm chwilio鈥檙 catalog. Wrth chwilio fel hyn, mae modd chwilota drwy gynnwys mwy nag un maes. Er enghraifft, os rown ni 鈥楨isteddfod鈥� o dan 鈥楿nrhyw Destun鈥� a 1907 o dan 鈥楧yddiad鈥� a chlicio ar y botwm Chwilio. Fe gawn 24 o ganlyniadau.

Fe welwch yma fod y disgrifiad wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg. Y rheswm am hyn yw mai Cymraeg yw iaith y ddogfen wreiddiol. Os yw鈥檙 gwreiddiol yn Saesneg, mae鈥檙 disgrifiad yn Saesneg.

Dyma enghraifft arall o chwiliad manwl. Wrth chwilio o dan 鈥楢nglesey鈥�, 鈥榤ap鈥� ac 鈥�18th 鈥楥entury鈥�, fe gawn ni ddwy eitem yn unig yn y rhestr ganlyniadau.

Wrth ddefnyddio鈥檙 catalog ar lein, mae鈥檔 bwysig defnyddio geiriau cywir wrth chwilio. Neu, os yw鈥檙 chwiliad yn aflwyddiannus, defnyddiwch eiriau sydd yn berthnasol i鈥檙 pwnc. Er enghraifft, os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn addysg, pam na wnewch chi chwilota am ysgolion neu ddisgyblion. 

Mae sillafiad geiriau yn bwysig hefyd wrth chwilio, yn arbennig gyda enwau llefydd. Er enghraifft, mae dwy sillafiad ar gyfer yr enw Llandegai, Llandegai gyda 鈥楨鈥� a Llandygai gyda 鈥榊鈥�. Fel y gwelwch mae鈥檙 canlyniadau yn dipyn gwahanol ar gyfer y chwiliadau hyn.

Gobeithio eich bod wedi cael budd o鈥檙 fideo yma, a鈥檌 fod wedi darpari cyngor da i chi ar sut i chwilota ein catalog ar lein. Edrych ymlaen yn arw i鈥檆h gweld yn fuan yn yr archifdy