Darganfyddwch ein gradd mewn Radiograffeg
Cyfleoedd Gyrfa mewn Radiograffeg
Fel graddedig mewn Radiograffeg Ddiagnostig o Fangor, mae eich rhagolygon gyrfa yn rhagorol. Ers dros ddegawd, mae ein graddedigion wedi cyflawni cyfradd gyflogaeth gyson o 100% o fewn tri mis i gwblhau鈥檙 radd, gyda鈥檙 mwyafrif yn dechrau ar eu gyrfaoedd o fewn y GIG.
Bydd eich gyrfa鈥檔 parhau i ddatblygu trwy hyfforddiant proffesiynol parhaus. Gyda hyfforddiant yn y gwaith a phrofiad clinigol, gallwch arbenigo ym maes dulliau delweddu uwch megis CT, MRI, uwchsain neu radiograffeg ymyrrol, neu symud ymlaen i rolau uwch fel ymarferydd uwch neu ymarferydd ymgynghorol.
Mae galw am radiograffyddion y tu hwnt i鈥檙 GIG hefyd. Mae llawer yn mynd ymlaen i weithio yn y sector masnachol fel arbenigwyr cymwysiadau, addysgwyr, neu mewn gwerthiant ac iechyd gwybodaeth. Gyda鈥檙 holl ddelweddu GIG bellach yn gwbl ddigidol, mae graddedigion 精东传媒 yn gadael gyda sylfaen gwybodaeth gadarn mewn gwybodaethau iechyd a thechnoleg delweddu 鈥� gan agor drysau at gyfleoedd pellach ar draws y sector iechyd a鈥檙 diwydiant.
Mae astudio Radiograffeg ym Mangor nid yn unig yn rhoi鈥檙 arbenigedd technegol i chi, ond hefyd yr hyblygrwydd a鈥檙 hyder i lwyddo mewn proffesiwn sy鈥檔 ganolog i ofal iechyd modern ac sy鈥檔 datblygu鈥檔 barhaus ochr yn ochr 芒 thechnoleg newydd.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Radiograffeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Radiograffeg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Radiograffeg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Radiograffeg ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Radiograffeg
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 精东传媒 (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF2021 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Mae ein hymchwil sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn y 15ed safle yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gwaith yma'n cefnogi cynlluniau blaenllaw'r brifysgol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar gyfer sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol 精东传媒 o 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y Gwyddorau Dynol ac yn helpu i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol i鈥檙 dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn atgyfnerthu twf y sector gwyddorau bywyd y rhanbarth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.